Page images
PDF
EPUB

hyny cychwyna gyda'r anifeiliaid isaf, dilyna eu tueddiadau, eu nodweddau a'u greddfau ymlaen at greaduriaid uwch, nes o'r diwedd y cyrhaedda ddyn, "coron a gogoniant" y byd anifeilaidd, yn bersonol, yn deuluol, ac yn gymdeithasol. Tybia mai hyn yw yr oll sydd yn cyfansoddi dyn, ac ar y dybiaeth hon goruwchadeiladodd drefn o foesoldeb, hanfod pa un yw pleser, pob pleser, yr holl bleserau, a dim ond pleser.

Gwirionedd sylfaenol ei gyfundrefn ydyw, fod pob ysgogiad bywydol yn y creaduriaid isaf yn ymgais am barhad ac er hunanamddiffyniad. I hyn ni ddichon fod un gwrthwynebiad. Ond yn dilyn y gwirionedd hwn y mae ganddo un arall, nad ydyw yn ei enwi yn ffurfiol, sef fod yr hyn sydd yn cynnal bywyd yn dwyn pleser neu fwynhâd i'w berchenog. Wrth drin y gosodiad hwn y mae yn dechreu gŵyro yn ei ymresymiad, ac yn tynu casgliad nad yw yn deg, ond sydd er hyny yn angenrheidiol i'w gyfundrefn. Ysgrifena fel y canlyn (Data of Ethics, tu dal. 84):"Sentient existence can evolve only on condition that pleasure-giving acts are life-sustaining acts;" ond y casgliad priodol i'w dynu oddiwrth y rhesymiad blaenorol a fuasai: "Sentient existence can evolve only on condition that life-sustaining acts are pleasure-giving acts." Pa beth ydyw y gwahaniaeth rhwng y ddau osodiad? Un peth ydyw dywedyd fod y gweithredoedd sydd yn rhoddi pleser yn cynnal bywyd, yr hyn yw gosodiad Mr. Spencer; peth arall a pheth hollol wahanol yw dywedyd fod y gweithredoedd sydd yn cynnal bywyd yn rhoddi pleser, yr hyn ydyw yr ail osodiad. Yn ol arferiad cyffredin iaith, wrth "y gweithredoedd sydd yn rhoddi pleser" y meddylir yr holl weithredoedd sydd yn rhoddi pleser, pe amgen dywedasai "rhai o'r gweithredoedd." Nid oes lle i ammeu nad ydyw parhâd bywyd ar y ddaear yn ammodol ar y ffaith o fod pobpeth sydd yn cynnal bywyd yn rhoddi pleser. Ond y mae yn sicr nad ydyw yn ammodol ar fod pobpeth ag sydd yn rhoddi pleser yn gweini i gynnaliaeth bywyd. Ond yn lle "pobpeth" yn y frawddeg olaf, dyweder "rhai pethau," ac ni a gawn yr un gwirionedd, wedi ei eirio yn wahanol, ag a geir yn y frawddeg flaenorol. Er mwyn attegu ei gyfundrefn rhaid i Mr. Spencer ddywedyd yr hyn nas gall ei brofi, ac nad ydyw yn ceisio ei brofi, sef fod yr holl bethau ag sydd yn rhoddi pleser hefyd yn cynnal bywyd. Oddiar hyn y cyrhaedda sylfaen ei gyfundraeth, sef mai y pleser hwnw ag sydd yn cydfyned ac yn gysylltiedig anwahanol â chynnaliaeth bywyd, ac âg ymgais pob creadur am barhâd, yw y cymhelliad mawr i'w holl ysgogiadau, ac mai cyrhaedd hwnw yw ac a ddylai fod yn amcan uchaf ei fywyd. Pe can iateid, yn gyntaf, fod hyn yn wir am yr anifeiliaid, ac, yn ail, fod dyn yn ei addfedrwydd uchaf yn anifail perffaith, a dim mwy, y casgliad naturiol a fyddai, mai pleser ydyw unig syniad dyn am wir amcan bywyd, mai pleser ydyw ei unig ysgogydd, ei unig gymhelliad, ei unig safon a'i unig nôd, gyda'r eglurhad o fod y pleser yr amcana am dano yn ddyfnach, yn eangach, yn fwy dyrchafedig a pharhâus nag sydd o fewn gallu anifail direswm i syniaw am dano, llawer llai i'w fwynhâu. Y gwahaniaeth rhwng dyn ac anifail fyddai, fod gan ddyn fwy o bleser, ac nid fod ganddo fwy na phleser. Gosodiad sylfaenol y casgliad hwn yw y berthynas sydd yn bod rhwng cynnaliaeth bywyd a mwynhâd yn y dosbarth isaf o anifeiliaid, gan ystyried y mwynhâd yn ddwbl, sef y

mwynhâd sydd mewn ymborthi fel y drefn i gynnal bywyd, a'r mwynhâd sydd yn y bywyd a gynnelir. Er mwyn cymhwyso hyn at ddyn, rhydd y gosodiad canlynol i lawr fel gwirionedd nad oes raid ond ei enwi i bawb ar unwaith ei gredu (Data of Ethics, tu dal. 7): "As in other cases, so in this case, we must interpret the more developed by the less developed." Y frawddeg hon o'i eiddo ydyw testun y ddarlith. Y"more developed " yn y frawddeg ydyw dyn; y "less developed " ydyw yr anifeiliaid îs ac isaf. Cynnwysa y gosodiad felly mai trwy yr anifeiliaid direswm yr ydym i ddeall ein gilydd a'n hunain. Yr unig reswm a rydd Mr. Spencer dros ei olygiad ydyw, fod tueddiadau a greddfau mewn anifail yn fwy syml, yn llai dyrys a chymhlethedig â'u gilydd nag y maent mewn dyn, ac am hyny eu bod yn haws eu deall. A'r dull rhesymol ac arferedig ydyw esbonio y peth dyrys, anhawdd ei ddeall, trwy yr hyn sydd syml ac yn hawdd ei ddeall. Tybia y golygiad, fel y gwelir, na fedd dyn ddim ond sydd yn gorwedd yn ei hedyn, neu mewn gwahanol raddau o dyfiant mewn anifeiliaid, ac yn yr anifeiliaid isaf. Ďylasai hyn gael ei brofi, ac nid ei gymeryd yn ganiataol fel ffaith sicr a diammheuol. Tybia ymhellach fod cynneddfau, ar ol cyrhaedd eu cyflawn addfedrwydd mewn dyn, yn fwy anhawdd i'w deall gan y dyn ei hunan, na phan yr oeddynt yn tyfu yn yr anifail. Ond a ydyw y dybiaeth hon eto yn wirionedd? Ar bwys y ddwy dybiaeth fe dynir y casgliad mai y dull priodol i'w ddefnyddio gan ddyn, er mwyn deall ei natur foesol a'i dyledswyddau, ydyw astudio tueddiadau, ysgogiadau, arferion a greddfau y byd anifeilaidd. Nid oes dadl nad ydyw dyn yn anifeilaidd o ran ei natur, neu yn ol iaith y Bibl, na chafodd ei wneuthur o "lwch y ddaear," ac nad ydyw nwydau anifeilaidd ynddo yn eu haddfedrwydd. Ond y cwestiwn ydyw, onid yw moesoldeb yn cynnwys meistrolaeth a goruchafiaeth ar y nwydau hyn, ac onid yw y feistrolaeth hono yn cynnwys rhyw allu uwch nag a fedd yr anifail, ac am hyny nas gall natur yr anifail roddi yr un esboniad arno? Caniatäer fod yr anifail direswm yn alluog i daflu goleuni ar ddyn fel y mae o fewn rhyw derfynau, pa fodd y medr daflu y pelydryn lleiaf o oleuni ar yr hyn a ddylai fod? Caniatäer fod yr anifail direswm yn egluro i ryw raddau o ba le y cychwynodd dyn, ра fodd y medr daflu y mesur lleiaf o oleuni ar y cwestiwn, i ba le, ymha gyfeiriad, tuag at ba bwynt y dylai fyned, fel amcan uchaf ei fodolaeth Nid oes a wnelom yn y ddarlith hon â deddf dadblygiad fel yr esbonir hi gan Mr. Darwin, ac ni fydd y sylwadau a ganlyn yn cyffwrdd o gwbl â'i gwirionedd. Ein pwnc a fydd, y defnydd a wneir o honi gan Mr. Spencer. Fe ddichon fod y ddeddf yn wir ynddi ei hun, ac eto fod camddefnydd wedi ei wneuthur o honi. A'r camddefnydd o honi yma ydyw ceisio esbonio dyn iddo ei hun fel creadur moesol, trwy anifeiliaid direswm, gan ystyried y fath esboniad yn ddeongliad digonol o'r hyn y dylai fod yn gystal ag o'r hyn ydyw. Fe geisiwn ddangos nad ydyw y dull hwn o esbonio natur foesol yn ddull priodol, ac nad ydyw yn angenrheidiol nac yn ddigonol.

1. Y mae cwbl addfedrwydd dyn fel anifail yn amlygu amcan, ac amcan sydd yn deongli. Nid oes modd ysgoi y defnydd o'r gair amcan. Nis gall Mr. Spencer ochel defnyddio y geiriau "aim" ac "end." Ac eto nid oes synwyr mewn defnyddio y gair ond ar y dybiaeth fod rhyw

berson byw yn amcanu; mewn gair, fod Duw yn bôd. Yn gyffelyb wrth ddefnyddio y geiriau "natural selection" mewn gwyddoreg, tybir fod detholwr meddylgar yn bod, er hwyrach fod y rhai sydd yn eu defnyddio yn proffesu anwybodaeth ac ammheuaeth o'i fodolaeth. Wrth amcan y meddylir yr hyn y mae tueddfryd cyson tuag ato. Os tuedd cyson llong ar y môr, er pob rhwystr, sydd tuag at ryw borthladd neillduol, cesglir yn gyffredin fod rhyw berson ar y bwrdd mewn awdurdod ag y mae cyrhaedd y porthladd hwnw yn amcan ganddo. Dengys hyn fod ein hiaith ni, yn gystal â'r Saesoneg, wedi ei ffurfio i'r fath raddau dan y syniad am y bôd o Dduw fel y mae yn anhawdd defnyddio geiriau nad ydynt o angenrheidrwydd yn cynnwys hyny. Tueddfryd cyson nwydau a greddfau anifeiliaid direswm, fel yr esgynant i fyny o'r isaf at yr uchaf, sydd at y peth hwnw a geir mewn dyn yn ei holl addfedrwydd. Cynnwysa hyn amlygiad o amcan yn meddwl rhywun ac nid yr anifail na'r dyn yw y rhywun hwnw. Gan hyny nid unrhyw beth yn ei dyfiant sydd yn egluro yr amcan mewn golwg, ond yr amcan wedi ei gyrhaedd sydd yn egluro cyfeiriad y tyfiant. Mewn gair y dyn sydd yn esbonio yr anifail, ac nid yr anifail y dyn. Trwy y natur ddynol y gallwn ddeall, i'r graddau yr ydym yn ei ddeall, y byd anifeilaidd sydd islaw i ni; gan i'r byd anifeilaidd flodeuo yn ei ardderchogrwydd mewn dyn, yn yr hwn y cyrhaeddodd ei berffeithrwydd. Er fod adeilad ar ol ei orphen yn fwy anhawdd ei ddeall, nag oedd ei ranau ar wahan oddiwrth eu gilydd, eto am mai ar ol ei orphen y gwelir yn amlwg amcan ei adeiladaeth, ei sefyllfa orphenedig sydd yn deongli ei ranau i fanylrwydd, o herwydd ei amcan sydd yn egluro perthynas y rhanau â'u gilydd, a'u perthynas mewn undeb â'u gilydd â'r holl adeilad.

Ond y mae dyn ei hun yn esiampl well i ddangos y pwnc nag adeilad, am fod dyn yn cael ei ffurfio trwy dyfiant oddimewn, ac adeilad trwy ychwanegiad oddiallan. Y dyn yn ei gyflawn addfedrwydd sydd yn egluro y tueddiadau afreolaidd ac anaddfed oedd ganddo pan yn blentyn. Gweithgarwch y dyn sydd yn egluro ei fywiogrwydd pan ydoedd yn blentyn. Chwilfrydedd y dyn sydd yn egluro yr ysfa am ddinystrio pobpeth oedd ynddo pan yn blentyn. Sirioldeb difyr y dyn sydd yn egluro ysbryd chwareus y plentyn. Am hyny fe all dyn edrych yn ol ar ei sefyllfa o blentyndra a deongli yn ngoleuni ei brofiad addfed lawer o neillduolion ei gymeriad ag oeddynt ar y pryd yn annealladwy iddo ei hun ac i bawb arall. Yr addfedrwydd ag sydd yn cynnwys amcan sydd yn egluro natur a chyfeiriad y tyfiant blaenorol. Felly os credwn fod dyn ar ei uchaf yn y fuchedd hon, yn blentyn o'i gymharu â'r posibilrwydd sydd yn gorwedd yn guddiedig i fesur yn ei natur yn bresennol, ond a dynir allan i'w gyflawn nerth mewn buchedd ddyfodol, gwelir mai yn hono y caiff ddeongliad o amrywiol bethau sydd ynddo ag oeddynt yn ddirgelion anesboniadwy iddo pan yn byw yma. Y mae yr un peth yn wir gyda golwg ar lyfr. Tybiwn yn unig fod y llyfr yn gyfanwaith, ac fel y cyfryw yn meddu ar unoliaeth. Y mae y meddylddrych ag yr ysgrif enwyd ef er mwyn ei amddiffyn ac er argyhoeddi y darllenwyr o'i wirionedd, yn tyfu mewn eglurdeb o du dalen i du dalen, nes y cyrhaedda o'r diwedd ei gyflawn amlygrwydd. Ond fe gyfarfydda

darllenydd meddylgar wrth fyned ymlaen â llawer brawddeg nas medr ddirnad o gwbl paham yr ysgrifenwyd hi, nes iddo ddarllen yr holl lyfr, a deall uwchlaw ammheuaeth yr amcan oedd yn ngolwg yr ysgrifenydd. Yn y dalenau olaf, hwyrach, y gwel ystyr rhai o'r brawddegau yn nechreu y llyfr. Yr esiampl oreu a ellir nodi o'r fath lyfr ydyw y Data of Ethics ei hun. Derbyniodd y llyfr lawer o annhegwch gan rai a fu yn beirniadu arno. Ond paham hyny? Am iddynt geisio cymhwyso at y llyfr ei hun yr egwyddor a gynnwysir o fewn y llyfr ar ddyn a'r anifail, sef cymeryd y "less developed" sydd ynddo i esbonio y "more developed," yn lle defnyddio y drefn wrthgyferbyniol. Y mae y Bibl yn esiampl arall o'r un peth. Cynnyddu o ran eglurdeb y mae y dadguddiad dwyfol o'r llyfrau cyntaf nes iddo gyrhaedd ei gyflawn nerth yn mherson a gwaith yr Arglwydd Iesu. Y cam mwyaf ag ef a fyddai defnyddio geiriau prophwydol yr Hen Destament a'i ddefodau i esbonio pa fath un oedd yr Arglwydd Iesu, yn lle defnyddio hanes yr Iesu i'w hegluro hwy. Yr haul yn ei ddysgleirdeb sydd yn deongli i ni oleuni y wawr yr hon a dorodd ar y tywyllwch cyn ei ymddangosiad. I hanes yr Iesu yr ydym yn gyffelyb yn ddyledus am yr esboniad cywir ar lawer adnod ag oedd yn rhagfynegu dyfodiad y Messiah. Y cyflawniad ydyw y gwir ddeongliad ar y rhagfynegiad.

Rheswm Mr. Spencer dros ei olygiad ydyw, fod yr hyn sydd yn tyfu, yn ei sefyllfa o dyfiant, yn fwy syml nag a fydd ar ol addfedu, a'i fod o herwydd hyny yn haws ei ddeall. Ond nid ydyw hawsder i ddeall, a chywirdeb, yn cyfateb â'u gilydd yn aml. Haws, mae'n wir, i ni gynnwys rhan o beth na'r oll o hono; ond, er hyny, ië, ac er y byddai cynnwys yr oll yn anmhosibl, eto i'r gradd yr amcenir at gynnwys y cyfan y cyrhaeddir mwyaf o gywirdeb ar y pwnc. Nid yw hyn ychwaith yn rheswm digonol paham y dylem gymeryd y lleiaf i esbonio y mwyaf, yn hytrach na'r mwyaf i esbonio y lleiaf.

yw

Ond pa oleuni sydd gan grefydd Crist ar y pwnc? Fe'n' dysgir ni ganddi, nid mai yr anifail sydd yn deongli dyn, ond mai dyn sydd yn deongli yr anifail, ac mai Duw sydd yn deongli dyn. Mewn dyn, a chymeryd y goreu, ceir yr hyn sydd anifeilaidd mewn addfedrwydd, ond yr hyn sydd foesol ac ysbrydol mewn gwendid ac anaddfedrwydd, ac yn tyfu. Felly gan hyny, tra y mae yn deongli yr anifail, y mae o herwydd ei blentyndra ysbrydol mewn angen ei ddeongli ei hun gan rywun arall. Y rhywun arall hwnw ydyw Duw. Trwy yr amlygiad o Dduw yn ei gyfiawnder a'i gariad y dygir dyn yn yr efengyl i ddeall pa fath y dylai fod, a pha fath y gall obeithio bod yn ei gyflawn addfedrwydd ac yn ei sefyllfa fwyaf dyrchafedig. Nid i lawr at yr anifail, ond i fyny at Dduw, yr arweinir ni gan Gristionogaeth er ffurfio barn am danom ein hunain fel creaduriaid moesol ac ysbrydol. Yno y gosodir ger ein bron "y dyn Crist Iesu" fel deonglwr mawr y natur ddwyfol a'r natur ddynol. Yno y gwelwn mai gogoniant moesoldeb yw cydlewyrchiad cyfiawnder a chariad, yr hyn sydd yn cynnwys gwywdra ar bob ysbryd hunanol, hunangeisiol, hunanlesiol, pe byddai raid, mewn hunanaberthiad er mwyn eraill. Nid yn yr aderyn, na'r pysgodyn, na'r ymlusgiad, na'r epa, ond yn y Duw mawr, achos gwreiddiol pobpeth a chynnaliwr y bydoedd, y cawn yr un a'r unig un a fedr ein hesbonio i ni ein hunain.

2. Rheswm arall yn erbyn troi at anifeiliaid direswm am ddeongliad o honom ein hunain ydyw, fod ein dynoliaeth o fewn ein profiad uniongyrchol. Caniatäer fod y natur ddynol, am ei bod yn fwy dyrchafedig, yn fwy anhawdd ei deall ynddi ei hun na'r natur anifeilaidd; eto fe orbwysir hyny gan wirionedd arall, sef fod ein natur ni o fewn ein profiad, fel y gallwn graffu arni yn ei dirgelion, tra y mae natur yr anifail direswm tu allan i gylch ein profiad. Am hyny, y mae yr hyn sydd yn anhawddaf ei ddeall, ynddo ei hun, yn haws i ni ei ddeall o herwydd ein hagosrwydd profiadol o hono, a'n gallu oblegid hyny i graffu yn uniongyrchol arno, heb fod dan raid i dynu casgliadau o berthynas iddo nad oes un sicrwydd am eu gwirionedd. Pe buasai rhyw drydydd-a hwnw yn greadur-yn edrych ar arferion dyn ac ar arferion anifail direswm, fe allai, yn aml, ar dir teg, farnu fod dyn yn llawer mwy anhawdd ei ddeall na'r anifail, fod llawer mwy o blygion yn ei gymeriad fel creadur, ac o anghysonderau ac o afresymoldeb yn ei weithredoedd. Ond nid oes yma drydydd o gwbl, canys y dyn sydd yn ceisio deall ei hun, a'r cwestiwn yw, Pa fodd y daw i ddealltwriaeth ar y pwnc? Ai trwy y profiad sydd ganddo o hono ei hun neu ynte trwy resymu oddiar arferion yr anifail?

Ond, yn ychwanegol eto, tra y mae arferion yr anifail yn amlwg i ni, nis gall yr anifail hysbysu paham y mae yn gwneuthur fel hyn neu fel arall. Ni fedd iaith ag y gallwn ni ei deall ond yn bur anmherffaith. Nis gellir gwneuthur na gramadeg na geiriadur o'i leisiau. Gellir dyfalu ystyr ychydig o honynt, a dyna'r cyfan. Nis gwyddom a ydyw yn deall, neu a oes ganddo reswm gwybyddus iddo ei hun am ei weithredoedd. Yr oll a ellir ei wneuthur ydyw tynu casgliadau. olla Ac nid ydyw y casgliadau yn rhai ag y gellir bod yn sicr o'u gwirionedd, ond yn unig yn rhai ag sydd yn ymddangos yn debyg, a'r tebycaf o fod yn wir. Pa bethau a wneir ganddo er mwyn byw, pa rai oddiar bleser neu hyfrydwch, pa rai oddiar ofn, pa rai er mwyn twyllo, a pha rai oddiar gariad at ei gydgreaduriaid, nid ydym yn alluog i benderfynu. Pan yn tynu casgliadau, yr ydym dan orfod i wneuthur hyny oddiar ein profiad ein hunain o gyffelyb bethau. Os ydym yn ymarferol dan rwymau i geisio deongli greddfau anifeiliaid direswm oddiar ein profiad ein hunain, llawer mwy yr ydym o dan rwymau i ddeongli y natur ddynol sydd ynom oddiar ein profiad o honi. Cymerwn ychydig o esiamplau i ddangos hyn. Yr ydym ni yn ymwybyddus ein bod wedi gwneuthur llawer o bethau er llesâu eraill oddiar dosturi tuag atynt, heb ddysgwyl unrhyw ad-daliad, ac heb feddwl am unrhyw bleser a ddeilliai i ni o hyny. Ond gyda golwg ar anifeiliaid direswm, fe ysgrifenodd Mr. Darwin fel y canlyn: "There is no evidence that any animal performs an action for the exclusive good of another" (Nid oes dim prawf fod unrhyw anifail yn cyflawni gweithred yn unig er mwyn daioni i un arall). A ydyw ein profiad ni o ddyngarwch i'w gyhoeddi yn gamsyniol a thwyllodrus yn unig am nad oes brawf fod anifail yn meddu ar deimlad o'r un natur? A ydyw y ffaith, os yw yn ffaith hefyd, ac nid yn dybiaeth seiliedig ar anwybodaeth, fod y ci a'r ceffyl yn byw yn gwbl oll iddynt eu hunain, yn rheswm digonol dros gredu mai bywyd uchaf dyn ydyw bywyd iddo ei hun, yn groes i'w brofiad ei fod ar ei adegau goreu yn ceisio llesâu eraill heb feddwl

« PreviousContinue »