Page images
PDF
EPUB

RHIFYN CLII.

Y

TRAETHODYDD.

HOD

IONAWR, 1884.

CYNNWYSIAD.

Nodiadau Llenyddol

Darlithiau y Parch. D. C. DAVIES, M.A., ar "Gristionogaeth." VII. Perthynas Cristionogaeth â'r Teimladau o Ddedwyddwch a Thrueni ...

Mr. J. W. Prichard o Blasybrain

Connop Thirlwall a'i Gysylltiadau Cymreig. Gan Mr. E. VIN-
CENT EVANS ...

Awdl yr Anturiaethwr.

Gan Mr. GAERWENYDD PRITCHARD..

Dr. Hughes ar Hanes yr Athrawiaeth. Gan y Parch. T. J. JONES.
LEWIS, B.A....

Marwolaeth Baban. Gan GLAN COLLEN

Sefyllfa Bresennol Cwestiwn y Dadgysylltiad. Gan y Parch. J.
EIDDON JONES

"Iddo Ef." Gan TAFOLOG...
Cyfieithiad o'r Epistol at y Galatiaid. Gan y Parch. DANIEL

ROWLANDS, M.A.

[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]

...

[ocr errors]

Celt 142.58

[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]

PRIS DEUNAW CEINIOG,

[ocr errors]
[ocr errors][ocr errors]

CYHOEDDIR Y RHIFYN NESAF EBRILL 1, 1884.

TREFFYNNON :

P. M. EVANS AND SON, CYHOEDDWYR.

[merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small]
[ocr errors]

Y TRAETHODYDD.

DARLITHIAU Y PARCH. D. C. DAVIES, M.A., AR "GRISTIONOGAETH."

VII.

PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A'R TEIMLADAU O DDEDWYDDWCH A THRUENI.

V.

TUAG at ddeall ymhellach y gyfundrefn o foesoldeb a amddiffynir gan Mr. Herbert Spencer, awn ymlaen i sylwi ar y gwahaniaeth sydd rhyngddi a'r golygiadau a goleddid gan Mr. John Stuart Mill ar y pwnc. Yn ei lyfr (The Data of Ethics) yr ydym yn cael Mr. Spencer yn dadleu yn gryf yn erbyn daliadau Mill a Bentham. Y mae Stuart Mill yn seilio moesoldeb ar fuddioldeb cymdeithasol; y mae Mr. Herbert Spencer, o'r ochr arall, yn ei seilio ar bleser hunanol. Yn y darnodiad hwn y mae pwys i'w roddi, nid ar y geiriau "buddioldeb" a "phleser," ond yn hytrach ar y geiriau "cymdeithasol" a "hunanol." Wrth fuddioldeb cymdeithasol y meddylir, buddioldeb i eraill yn gystal ag i'r person ei hun. Tybia hyn nad ydyw dyn i gyfrif ei hun yn fwy nag un ymysg y lliaws, ac y dylai gan hyny ymwadu â'i les personol, os medr drwy hyny fod o ryw fudd i'r gymdeithas o ddynion i ba un y mae yn perthyn. Rhydd y golygiad hwn, felly, le i gariad at eraill weithredu er mwyn eu llesâu; mwy na hyny, brwdfrydedd dros ddynoliaeth a dynolryw a osodir yn sail pob ymddygiad gwir dda. Gwrthwyneba Mr. Spencer y golygiad trwy ddangos y gwahanol anghysonderau ymarferol yr arweiniai yr egwyddor hon iddynt pe gweithid hi allan gan bawb. Dadleua yn ychwanegol y gellir olrhain cymaint o wir ag sydd ynddi i bleser hunanol, o herwydd fod pob ymdrech o eiddo dyn i lesâu eraill oddiar gariad tuag atynt wedi ei wreiddio mewn ymgais am bleser iddo ei hun drwy hyny. Cynnwysa y gyfundrefn a elwir Utilitarianism un gwirionedd mawr a phwysig, sef fod cariad at eraill yn elfen mewn moesoldeb, ac y dylai

1884.

A

fel y cyfryw reoli ymddygiadau dynion. O'r ochr arall y mae ynddi ddau ddiffyg mawr. Un ydyw, nad yw yn rhoddi lle o gwbl i gyfiawnder fel egwyddor angenrheidiol; a'r llall ydyw ei bod yn gosod gwerth rhinwedd i orphwys ar ei fuddioldeb i'r byd, yn lle bod ei fuddioldeb i'r byd yn gorphwys ar ei werth cynhenid.

Y mae cyfundrefn Mr. Spencer yn hollol wahanol. Yn ol ei gyfundrefn ef nid cariad at eraill, ond pleser i'r dyn ei hunan ydyw elfen fawr moesoldeb, ac nid ydyw cariad ond un o'r moddion i gyrhaedd pleser. Gesyd holl werth rhinwedd i orwedd ar y pleser a gynnyrchir trwyddo. Cynnwysa y gyfundrefn hon drachefn un gwirionedd pwysig, sef yr egwyddor o angenrheidrwydd mewn un cyfeiriad, ac mewn un yn unig. Hwnw ydyw, fod ymddygiadau drwg, nid yn ddamweiniol, ond o angenrheidrwydd, yn dwyn ar eu hol ganlyniadau poenus; ac, o'r ochr arall, fod ymddygiadau da, yn gyffelyb o angenrheidrwydd yn dwyn pleser a mwynhâd i'w canlyn. Ac eto nid ydym yn deall pa fodd y medr Mr. Spencer gredu hyn, gan mai yr unig ystyr i'r geiriau "da" a "drwg" yn ei gyfundrefn ydyw ystyr sydd yn cynnwys eu canlyniadau. Ond pa fodd bynag y gellir cysoni hyn a'i gyfundrefn yn gyffredinol, y mae yn wirionedd pwysig ynddo ei hun. Cyfuner yr hyn sydd gadarnhäol yn y ddwy gyfundrefn: dyfnhäer y cariad sydd gan Mr. Mill, ac eanger yr angenrheidrwydd sydd gan Mr. Spencer; boed i gariad amlhâu, ymhelaethu, a dwyshâu, a boed hefyd i gyfiawnder fel egwyddor angenrheidiol amlhâu, ymhelaethu, a dwyshâu yn yr un modd, a boed i'r naill a'r llall gyd-fod mewn cydbwysedd a chyfartaledd; a dywedwn mai eu hamlygu felly yn eu hardderchogrwydd yw un o nodweddau arbenig Cristionogaeth.

Y mae dull Mr. Spencer o brofi ei bwnc yn meddu ar fwy o neillduolrwydd na'r pwnc y mae yn ceisio ei brofi. Seilia yr oll ar y ddeddf o ddadblygiad a ddarganfyddwyd gan Mr. Darwin Cydnabyddwn ar unwaith wirionedd y ddeddf hon yn ei gweithrediadau o fewn y byd materol, y difywyd yn gystal a'r bywydol. Cydnabyddwn hefyd ei gwirionedd yn y byd ysbrydol, fel yr amlygir hi yn hanes personau unigol, yn hanes cenedloedd, ac yn hanes dynolryw ar y ddaear. Gwelir gwirioneddau yn syrthio fel hâd da ymysg dynion, yn egino ac yn tyfu, yn cyrhaedd cyflawn addfedrwydd ac yn ffrwytho. Nid gweithrediad deddf dadblygiad yn y byd materol, nac ychwaith yn y byd moesol ac ysbrydol, ydyw pwnc mawr llyfr Mr. Spencer, ond ei gweithrediad yn cylymu y ddau fyd â'u gilydd, ac felly yn gwneuthur un byd o'r ddau. Pa mor wir bynag yw y ddeddf hon o fewn terfynau priodol, y mae yn annigonol i roddi eglurhâd ar Foesoldeb; ac os oes, fel yr addefwn fod, dramwyfa ar hyd-ddi o'r anifail direswm i fyny at ddyn fel anifail perffeithiedig, nis gall arwain i fyny at ddyn fel creadur moesol, i esbonio iddo pa fath ydyw, llawer llai i ddadguddio iddo pa fath a ddylai fod. Olrheinia Mr. Spencer foesoldeb i'r teimladau o bleser a phoen. Gwnaethpwyd hyn gan eraill o'i flaen. Olrheinia ddyn yn yr oll ag ydyw i'r anifail. Gwnaethpwyd hyn hefyd gan eraill. Ond fe unodd Mr. Spencer y ddau olygiad, ac ar y ddau mewn undeb fe seiliodd ei gyfundrefn o foesoldeb. Fod dyn yn anifail perffaith, a dim mwy nac uwch na hyny, yw yr hyn y mae yn gymeryd yn ganiataol fel gwirionedd a brofwyd eisoes uwchlaw ammheuaeth. Am

« PreviousContinue »