Page images
PDF
EPUB

ynghyd a'i feistrolaeth o'r iaith Gymraeg, yn peri fod ei ddesgrifiadau daearyddol yn hynod o hapus. Er enghraifft, mynydd Tabor: "Ymgyfyd megys yn nghanol dyffryn Esdraelon, neu fe allai yn nês i'w gwr dwyreiniol na'i ganol, am oddeutu 1850 o droedfeddi uwchlaw wyneb y môr. Saif ei hunan, a'i ben yn grwn megys talcen ŵy, a'i ochrau yn serth fel nas gellir myned i fyny i'w ben o'r tu gogleddol iddo. Tyn ein sylw y foment ei gwelir, ac nid hawdd peidio colli golwg arno tra y byddys mewn cyfleusdra." Afon Cison: "Hyd nes y cryfheir hi gan ffynnonau Carmel, nid ydyw ei gwely, y rhan amlaf, ond cafn sych, gwag; ond ar ol gwlawogydd, neu doddiad yr eira ar y mynyddoedd, llenwir hi â rhyferthwy mawr o ddwfr, yr hyn a wnaed, dybygid, yn adeg y frwydr hon," &c. Mae y nodiadau beirniadol yr un modd yn dra hapus, ac yn gyfoethog o ddysgeidiaeth oreu ein hamseroedd. Am ysbryd y gwaith, y mae wedi ei ysgrifenu oddiar y safle ddyrchafedig fod llyfr y Barnwyr nid fel pennod yn "hanes cenedlaethol yr Hebreaid yn unig, eithr fel dolen yn nghadwen dadblygiad iachawdwriaeth Duw i'r byd." Mae yn ddiammeu na chynnygiwyd i'r Cymry er ys llawer o amser, os erioed, ddim mewn esboniadaeth Fiblaidd sydd yn fwy teilwng o'u sylw na'r ddau waith hyn ar Genesis a llyfr y Barnwyr.

Y Gofadail Fethodistaidd: sef Pregethau gan nifer o Weinidogion ymadawedig y Methodistiaid Calfinaidd. Ail Gyfrol. Cyhoeddedig gan David Williams, Gyffin, Conwy.

MAE dyddordeb neillduol yn hanes y pregethau a gyhoeddir yn y gyfrol hon. Ymddengys eu bod wedi eu cymeryd mewn math o law fer wrth eu gwrandaw gan ŵr ieuanc o Lanbrynmair, sydd bellach yn ei fedd er ys 55 o flynyddoedd. Yn ddamweiniol fe ddygwyd y cyfrolau yn cynnwys nodiadau y gŵr ieuanc hwnw dro yn ol i sylw y Parch. Samuel Roberts, Conwy, a chan ei fod ef yn gallu eu darllen fe'u rhoddwyd iddo. Soniodd yntau am danynt wrth ei gymydog Mr. David Williams, ac wedi iddo ysgrifenu nifer o honynt o'r llaw fer hono-a Mr. Roberts yn unig, dybygid, yn y dyddiau hyn a allasai wneyd hyny-fe deimlodd cyhoeddydd y ddwy gyfrol o "Lampau y Deml," a'r gyfrol flaenorol o'r “Gofadail Fethodistaidd," y buasai yn golled i'w genedl i beidio cyhoeddi cyfrol o honynt; ac felly ceisiodd gan ein cyfaill hybarch "S. R." ysgrifenu y pregethau hyn, y rhai yn awr, dros ddeugain mewn nifer, ac mewn cyfrol hardd o dros bedwar cant o dudalenau, sydd yn cael eu gosod yn nghyrhaedd ein cydwladwyr. Yr ydym yn gweled nad oedd y nodiadau a gymerid o rai o honynt ond lled anghyflawn, ond am y rhai pwysicaf fe ymddengys ein bod yn eu cael yn eu llawn hyd, ac y maent yn darllen yn rhagorol. Fe'u pregethid, gan mwyaf, rhwng 1819 a 1822, a chan y gweinidogion mwyaf parchus a defnyddiol oedd y pryd hyny ar y maes. Mae i'r gyfrol felly ddyddordeb hanesyddol pwysig, gan ei bod yn dangos beth oedd cymeriad cyffredin yr addysg efengylaidd a brofai yn y dyddiau hyny o gymaint bendith i'n gwlad. Ac ni raid i ni ychwanegu bod gwerth cynhenid y pregethau eu hunain y fath ag a'u gwna yn dra buddiol a hyfryd i'w darllen ymhob oes. Beth bynag arall a ennillir yn mhregethau Cymru gyda chynnydd diwylliad a chyfoeth y manteision ychwanegol sydd yn awr at ein gwasanaeth, na choller o'n plith ddyddiau y ddaear y rhagoriaethau oedd ar y pregethwyr hyny. Bydd llawer o'n darllenwyr yn falch o feddu y gyfrol. Ei phris yw 4s. 6c.

[blocks in formation]

Athrawiaeth y Deuddeg Apostol. Gan y Parch. DANIEL ROW

[blocks in formation]

Yr Eigion. Gan Mr. R. D. ROBERTS, M.A., D.Sc.

Yr Elfen Oruwchnaturiol yn Hanes yr Eglwys. Gan y Parch. D.

[merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors]

John Wicliff. Gan y Parch. WILLIAM EVANS, M.A.

Y Sabboth. Gan y Parch. DAVID L. ADAMS, B.A.
Y Diweddar Barch. William Rees, D.D. Gan y Parch. DAVID
GRIFFITH

...

[ocr errors]
[ocr errors]

389

4.00

411

426

439

[ocr errors]

449

Bord Gron.-Y Ddwy Greadigaeth. Gan y Parch. T. J. JONES-
LEWIS, B.A., a RICHARD HUMPHREYS

[ocr errors]

Y Parch. William Williams, Tŷ Calch. Gan GLAN ALAW
Yr Arglwyddi. Gan y Parch. DANIEL ROWLANDS, M.A.
Nodiadau Llenyddol

469

[blocks in formation]

CYHOEDDIR Y RHIFYN NESAF IONAWR 1, 1885.

TREFFYNNON :

P. M. EVANS AND SON, CYHOEDDWYR.

PRIS DEUNAW CEINIOG.

Y TRAETHODYDD.

ATHRAWIAETH Y DEUDDEG APOSTOL.

Y MAE Philotheos Bryennios, gŵr dysgedig o Eglwys Groeg, yr hwn sydd yn awr yn Archesgob Nicomedia, wedi bod mor ffodus a tharo ar ysgrif na all fod o awduriaeth diweddarach na thua dechreu yr ail ganrif, ac y mae y byd Cristionogol yn bresennol yn ei hastudio gyda dyddordeb mawr. Yn Nghaercystenyn y mae hen lyfrgell enwog a adwaenir fel Llyfrgell y Bedd Sanctaidd, perthynol i Batriarch Jerusalem. O bryd i bryd yr oedd llawer o ysgolheigion enwog wedi bod yn ei chwilio, ond heb wneyd un darganfyddiad gwerth son am dano. Ond yn 1875 fe gyhoeddodd Bryernios argraffiad newydd, a llawer cyflawnach nag oedd yn ein meddiant yn flaenorol, o Epistol Clement o Rufain at Eglwys y Corinthiaid, allan o ysgrif a gawsai yn y llyfrgell hono. Yn y rhagymadrodd i'r argraffiad hwnw rhydd hanes yr ysgriflyfr. Cyfrol fechan wythplyg ydyw o 120 o ddalenau, yn 19 wrth 15 centimetres mewn hyd a lled, ac o lawysgrif un Leo, ac wedi ei dyddio Mehefin 11, 6564 o gyfnod Caercystenyn, yr hwn sydd yn cyfateb i o.c. 1056. Mae yn cynnwys: (1) Crynodeb Ioan Aurenau o'r Hen Destament; (2) Epistol Barnabas; (3) Epistol cyntaf Clement at y Corinthiaid; (4) Yr Ail Epistol, fel ei gelwir, a briodolir hefyd i Clement; (5) Athrawiaeth y Deuddeg Apostol; (6) Epistol (ffugiol) Mair o Cassobola at Ignatius; a (7) Deuddeg o Epistolau a briodolir i Ignatius ei hun. Fe roddir gwerth mawr ar yr argraffiad o Epistolau Clement, yr hwn sydd wedi ei olygu yn dra medrus, ac yn dangos ar ran Bryennios ddysgeidiaeth neillduol a chydnabyddiaeth helaeth â llenyddiaeth dduwinyddol Ewrop. Ac mae yr ychwanegiadau a gaed yn y copi hwn yn gwneyd Llythyr Clement-oblegid nid oes ond ychydig bwys yn yr hyn a elwir yr Ail Lythyr, am na chredir yn ddilysrwyddyn llawer gwerthfawrocach. Yr oedd y cyfnod o nystr Jerusalem, o.c. 70, hyd farwolaeth Justin Ferthyr, o.c. 120, yn gorwedd dan gryn dywyllwch; ac y mae Epistol Clement, yn y ffurf gyflawn y galluogwyd Bryennios i'w gyhoeddi, yn rhoddi cynnorthwy rhagorol i weled pa fodd yr oedd yr Eglwys Gristionogol y

[blocks in formation]

blynyddoedd hyny-o ran defodau, bywyd cymdeithasol, a llywodr aeth yn ymddadblygu, ac “ar sail yr apostolion a'r prophwydi" yn wynebu ar y gwaith mawr oedd iddi i'w wneyd yn y byd.

Ond er maint y boddhâd a geid yn y cyfraniad hwnw i'n llenyddiaeth, yr oedd dysgwyliadau byw yn cael eu hennyn am gaffaeliadau eraill a ellid wneyd o drysorau y dyddiau gynt. Pan oedd cynifer wedi bod yn chwilota heb gael nemawr, a'r fath ffawd dda wedi dygwydd mewn man lle y tybiai llawer nad oedd dim newydd i'w ddysgwyl, pwy allai ddyfalu beth na thröai i'r golwg yn yr hen amguddfeydd lle yr oedd yr oesoedd wrth dreiglo wedi gadael eu pethau gwerthfawr Ac yn awr dyma Bryennios eto wedi cael yr hyfrydwch o'n synu a'n boddhâu yn rhyfeddol trwy gyhoeddi y pummed gwaith yn "Ysgriflyfr Jerusalem," sef Athrawiaeth y Deuddeg Apostol. Mae teitl y gyfrol fel y canlyn : Διδαχὴ τῶν δώδεκα Αποστόλων ἐκ τοῦ ἱεροσολυμιτικοῦ χειρογράφου νῦν πρῶτον ἐκδιδομένη ὑπὸ Φιλοθέου Βρυεννίου, μητροπολίτου Νικομηδείας—ἐν Κωνσταντινουπόλει, 1883. Sef: "Athrawiaeth y Deuddeg Apostol, allan o Ysgriflyfr Jerusalem, yn awr am y waith gyntaf wedi ei gyhoeddi gan Philotheos Bryennios, Archesgob Nicomedia—yn Nghaercystenyn, 1883." Mae yn ymddangos fod y gŵr da wedi treulio saith mlynedd yn astudio y gwaith ac yn ysgrifenu-mewn Groeg diweddar arweiniadau a nodiadau iddo, yn y rhai y dengys ei fod yn cadw i fyny a llenyddiaeth dduwinyddol oreu Ewrop, a'i fod wedi ymdaflu i efrydiaeth yr ysgrif gyda chymaint o "lafurus gariad" ag a wnelai y drafferth iddo yn wir fraint. Nid ydyw yr "Athrawiaeth ond o hyd cymedrol, rywbeth yn debyg i'r Epistol at y Galatiaid. Lleinw yn y llyfr 53 o du dalenau, ond ni chymer y testun ei hun fwy na 300 o linellau mewn llythyren led fras, tra y ceir yn y gweddill o'r lle nodiadau buddiol a dysgedig. Cymer yr arweiniadau 149 o du dalenau, a chyda detholion dyddorol eraill o "Ysgriflyfr Jerusalem," fe orphenir y gyfrol yn 224 o du dalenau, yr hon sydd i'w chael am y pris rhesymol o bum' ffranc.

[ocr errors]

Er fod y gwaith hwn wedi bod cyhyd yn guddiedig, eto mae yn amlwg fod cryn nifer o gyfeiriadau wedi eu gwneyd ato gan ysgrifenwyr tra boreuol. Mae y Seithfed Llyfr o'r Apostolic Constitutionsgwaith a ddarganfyddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac er ei fod yn seiliedig ar ysgrifeniadau boreuol y mae yn amlwg na ddygwyd ef i'w ffurf bresennol yn gynt na'r drydedd neu y bedwaredd ganrif yn cynnwys dyfyniadau helaeth o'r gwaith hwn. Mae Bryennios yn argraffu y llyfr hwnw yma, ac yn nodi y dyfyniadau; dengys hefyd fod rhanau eraill o'r Constitutions yn seiliedig arno. A dengys yr un peth ac yn yr un modd am waith arall, "Crynodeb o Reolau yr Apostolion Sanctaidd." Yna dengys fod awdwr y Clementines, gydag Irenæus, Clement o Alexandria, a John Climacus (tua 564 o.c.) yn ei ddefnyddio; fod Clement yn ei ddyfynu fel Ysgrythyr, ac Eusebius yn ei osod ymysg llyfrau yr oedd eu canonusrwydd yn ammheus, gan ei ddosbarthu gyda Hermas, Epistol Barnabas, a'r Dadguddiad, ac yn ei alw Διδαχαὶ τῶν ̓Αποστόλων, Athrawiaethau yr Apostolion; y mae Athanasius hefyd yn ei ganmol fel yn deilwng o gael ei ddarllen gan ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig. Wedi nodi yr holl gyfeiriadau hyn a wneir at y traethawd, ä Bryennios rhagddo i ddangos fod yr "Athraw

« PreviousContinue »