Page images
PDF
EPUB

heb ymsyniad cywir o'r hyn oedd wirioneddol bur a dyrchafedigplant er eu hymddangosiad allanol deniadol, oeddynt i brofi eu hanghywirdeb a'u hansefydlogrwydd yn yr ymosodiad cyntaf a wneid arnynt. Ar y llaw arall mewn cyferbyniad i'r rhai hyn, ni a gawn Fanny Price a William ei brawd, plant i gymeriad digon salw, ond wedi eu dysgu er hyny i fod yn ddefnyddiol i'w gilydd, ac i eraill o'u cwmpas, i fod yn foddlawn ar ychydig, ac i hunanymwadu. Am unwaith y mae Jane Austen yn gadael llwybrau cynnefin llwyddiant bydol, ac yn troi i'n dysgu allan o lwybrau dyrys adfyd a thlodi. Hwyrach o'i holl arwresau mai Fanny Price, os nad y fwyaf swynol, ydyw y fwyaf llwyddiannus fel arddangosiad o athrylith ei chrëydd, yn gymaint a bod gwahaniaeth dirfawr yn sefyllfa yr un a grëwyd a'r hon oedd yn creu. Noddir Fanny Price gan deulu cyfoethog Mansfield Park, lle y gorfodir hi i ddyoddef y diraddiad a bentyrir mor aml ar y "perthynasau tlawd." Cysurir hi i fesur gan gydymdeimlad Edmund Bertram, yr hwn o'i gymharu â'i frodyr sydd yn dyner a charedig. Cyn pen hir y mae yntau yn ei siomi. Gesyd ei fryd ar Mary Crawford, a myn ddadguddio cyfrinach ei serch i Fanny druan! Gŵyr Fanny fod Mary yn hollol annheilwng o Edmund, ond rhaid iddi fod yn ddystaw ar y pwnc, yn fwy felly gan fod y "pity which is akin to love" wedi cynnyrchu teimladau serchus yn ei mynwes ei hun tuag at ei harwr. Mor ragorol y desgrifia Jane Austen bangfeydd serch clwyfedig mewn calon dyner, fel yr honai yr Archesgob Whateley (edmygydd mawr o'i gweithiau) fod yn rhaid ei bod wedi dyoddef y cyfryw bangfeydd ei hun cyn y gallasai eu darlunio mor berffaith. Pa fodd y symuda yr awdures y rhwystrau ac y sicrhâ hapusrwydd y rhai sydd yn ei haeddu, rhaid i'r darllenydd chwilio allan. Wrth wneuthur hyny fe ddaw i adnabod Aunt Morris, darluniad digymhar o wraig gas, afrywiog, ormesol a thwyllodrus; William Price, bachgen llon a dymunol, llawn balchder yn ei alwedigaeth forwrol, a thra hoff o'i chwaer fechan Fanny; ynghyd a llu o gymeriadau naturiol eraill nas gallwn ni ar hyn o bryd gymaint ag aros i'w henwi.

Yn Persuasion y mae Jane Austen yn taraw tant dyfnach nag yn yr un o'i chwedlau blaenorol Yn nghymeriad Anne Elliott, geneth ieuanc brydferth ac amddifad, un o gymeriadau anwylaf yr awdures, dangosir dylanwad serch siomedig ar fywyd geneth o ysbryd a synwyr, gyda gallu na fuasid yn ei briodoli i ysgrifenydd y nofelau eraill. Y mae ymyriad "cyfeillion" yn peri ysgariad rhwng Anne Elliott a Lieutenant Wentworth, ac êl blynyddoedd lawer heibio cyn y dygir hwy ynghyd drachefn. Fel canlyniad ni a gawn chwedl seiliedig ar y geiriau hyny o eiddo Shakespeare :

She never told her love

But let concealment, like a worm i' the bud

Feed on her damask cheek: she pined in thought :

And with a green and yellow melancholy,

She sat like patience on a monument

Smiling at grief.

Y mae y rhan fwyaf o'r action yn cael ei gario ymlaen yn Bath, o'r hwn le y ceir darlun wedi ei dynu â Ïlaw sicrach na'r un a fu wrth y gwaith yn Northanger Abbey. Dygir ni yno i gydnabyddiaeth â llïaws o gymeriadau, y rhai nas gallwn yn awr aros i'w helfenu. Nid yw y darlun

a osodir o'n blaen yn llai tarawiadol o herwydd y cyferbyniad rhyngddo â thôn ysgafnach y gweithiau blaenorol. Y mae y nofel, tra yr un mor fedrus a chyrhaeddgar yn ei hymdriniad âg amcanion a dybenion, ac mor lawn o arabedd difyrus yn yr ymwneyd â gwendidau y natur ddynol, ag ydyw Pride and Prejudice neu Northanger Abbey, yn meddu ar dynerwch a dyfnder teimlad nad ydynt i'w cael i gyffelyb fesur yn yr un o'r nofelau eraill.

Gan ein bod fwy nag unwaith yn ystod ein hysgrif wedi cysylltu enwau Jane Austen, Charlotte Brontë, a George Eliot, dymunol fe allai fyddai i ni wneuthur ychydig o sylwadau cymhariaethol gyda golwg arnynt. Er fod llawer o debygolrwydd ymddangosiadol yn eu hamgylchiadau, yr oedd profiadau Jane Austen a Charlotte Brontë mor wahanol ag ydoedd eu talentau. Merch i wŷr eglwysig ydoedd y naill a'r llall, ymroddodd y ddwy i ysgrifenu nofelau, treuliodd y naill fel y llall y rhan fwyaf o'u hoes o fewn terfynau persondŷ gwledig, a buont ill dwy farw mewn oedran cymharol ieuanc, ac ymhell cyn dyhysbyddu y posibilrwydd gwaith o'u mewn. Ond er hyny fe fu bywyd yn dra gwahanol iddynt. Cafodd Charlotte Brontë brofi bywyd yn ei chwerwder, a pharhaodd ei chwerwedd i ymgymysgu hyd yn nod â'i llwyddiant. Ni chyfarwyddwyd ac ni reolwyd ei bywyd gan y rhai hyny a ddylasent ymgymeryd â'r gwaith. Daeth marwolaeth aml dro i wneyd bylchau yn y cylch cyfyng oedd yn anwyl ganddi, a phrofodd holl ddyfnderoedd tywyll anobaith a siomiant cyn y cysurwyd hi â gwawr llwyddiant. Dygwyd Jane Austen, yr hon fu farw pan oedd Charlotte Brontë oddeutu blwydd oed, i fyny o dan amgylchiadau tra gwahanol. Cafodd feithriniad teuluaidd o'r fath oreu, a gwyliwyd llwybrau ei hieuenctyd gyda'r gofal mwyaf. Preswyliai mewn cartref hapus yn y mwynhâd o gymdeithas ddyddan a siriol; symudai yn nghanol golygfeydd dymunol, ac ni ddeuai un amser i gyffyrddiad agos âg ochr dywyll bywyd. Yr ydym yn ei chael bob amser yn gymeriad hoffus a hynaws, yn garedig, yn siriol, yn amyneddgar, ac yn foddlawn. Yr oedd ei hathrylith fel ei chymeriad, yn hunanddigonol ac anymgeisiol, yn ystyr oreu y cyfryw eiriau. Cafodd waith iddo o fewn cylch ei chydnabyddiaeth ei hun, a digon i ysgrifenu yn ei gylch heb ddwyn ei siomedigaethau a'i rhagfarnau ei hun i'r cyfrif. Bu Jane Austen fyw yn dawel a marw yn foddlawn; tra y bu Charlotte Brontë fyw mewn gofid a marw mewn hiraeth. Mae bywyd yr olaf yn treiddio trwy ei nofelau, a'i theimladau i raddau yn lliwio ei darluniau. Coleddai deimlad personol cryf, naill ai o hoffder neu o gasineb tuag at ei chymeriadau. Fel canlyniad nid ydyw ei nofelau mor gynnrychioliadol ag eiddo Jane Austen; mewn geiriau eraill, nid ydoedd yn gymaint artist â'r hon a luniodd Pride and Prejudice a Mansfield Park. Fel y sylwa un beirniad craffus: "Yr oedd bywyd yn llawn ystyr i Charlotte Brontë, ac y mae hyd yn nod mân ddygwyddiadau ei nofelau yn dwyn argraff rhyw deimlad personol cryf, neu yn adlewyrchu rhyw brofiad personol dwys. Ond i Jane Austen yr oedd bywyd mor lawn o ystyr fel y meiddiai adael i'r drama egluro ei hunan." I'r olaf, ei chelfyddyd ydoedd oll yn oll. Ni fyddai un amser yn gwthio amcan moesol i'r ffrynt, nac yn dwyn gwers neillduol i'w dysgu i'w darllenwyr. Mae yr amcan a'r gwersi i'w cael, bid siwr, ond nid ydyw yr awdures yn gosod gorbwysiad arnynt. Perthynai i oes gyn-wyddonol, ac nid ydyw yn

archwilio ac yn dadelfenu pynciau mawrion athroniaeth a moeseg. Syrthiodd llinellau ei bywyd mewn lleoedd hyfryd; yr oedd ei byd yn un hynod hapus, a digon prin y dywedodd erioed gyda Hamlet,

The time is out of joint ;-O cursed spite,
That ever I was born to set it right!

Yr oedd y byd mor ddymunol a bywyd mor ddeniadol fel na welodd Jane Austen nemawr angen am ei wella. Ond i George Eliot gwisgai byd a bywyd agweddau tra gwahanol. Yn ei holl weithiau ceir rhyw bwrpas mawreddog yn taflu ei gysgod dros ei chwedl, yn dyfnhâu ei heffaith, ac yn dyrchafu ei hamcan. Dengys fod y bwthyn fel y palas yn agored i'r un trychineb, fod llawenydd y byd yn rhodio fraich yn mraich â galar, a bod drygioni a cham, ymha sefyllfa bynag y gweithredir hwynt, yn dwyn i'w canlyn gyfiawn daledigaeth. Fel y dywed Mr. Kebbel, un o'i beirniaid diweddaraf: "Gyda George Eliot cymer y Ddeddf Foesol le Tynged y Chwareuon Groegaidd, a dysga ei gwersi trwy gyfrwng y fath ganlyniadau echrydus ag a dueddant i ddwyn oddiamgylch yr hyn a eilw Aristotle yn briodol amcan tragedy, sef hollol ymlidiad allan neu gosbedigaeth gyflawn y nwydau hyny sydd yn ffurfio testun y drama." Nid oes dim o hyn i'w gael yn Jane Austen, hyd yn nod pan yn ymdrin â'r un gwrthddrychau. Yn y fan hono, i ddilyn Mr. Kebbel ymhellach, lle y mae rhyddiaith a barddoniaeth bywyd dynol yn cydgymysgu, lle y mae teimlad yn sefyll yn ngwyneb rhesymeg, a lle y mae dyn mewn cymundeb â'i ysbryd ei hun yn dyfod i adnabod dylanwadau a thueddiadau nas medr eu troi yn eiriau, ond sydd er hyny yn ei gynhyrfu i waelodion ei natur, y mae Jane Austen yn sefyll ar is lefel na George Eliot. Mewn dyfnder ac angerddoldeb teimlad, perthyna y flaenoriaeth i'r olaf. Edrychai Jane Austen ar fywyd, fel y sylwyd o'r blaen, gyda gwên hollol foddhâus, yn anymwybyddus o'r byd mawr sydd yn gorwedd "islaw dagrau," gan gymeryd yn ganiataol fod pobpeth fel y dylai fod, ac yn debyg o barhâu felly. Ac fel yr ydym eisoes wedi gweled, nid ydyw yn tramwy nemawr o blith ei dosbarth ei hun, nid ydyw byth yn canfod yr eithafion. Symuda ymhlith y dosbarthiadau llwyddiannus, pobl heb lawer o dreialon o'u heiddynt eu hunain, na phrofiad nac yn wir ddirnadaeth o gwbl o dreialon pobl eraill. Ond er bod iddynt eu terfynau, y mae ei nofelau yn meddu gwerth penodol a phwysig. Fel darlunydd cymeriadau a dygwyddiadau cyffredin, y rhai a wisgir gan ei hathrylith â'r dyddordeb a berthyn gan amlaf i'r anghyffredin a'r rhamantus yn unig, saif yr awdures yn hollol ar ei phen ei hun, ac yn y safle uchaf ymhlith nofelwyr Seisonig. Fel cofnodion o arferion a moesau gwledig dechreu y ganrif bresennol, y mae ei nofelau yn anmhrisiadwy. Yr ydym yn gweled ein tadau a'n teidiau fel yr oeddynt yn byw ac yn bod, a gallwn eu barnu a'u mesur gyda mwy o sicrwydd nag y gallai hyd yn nod eu cyfoesolion. Yn ei chylch ei hunan, a chyda'r syniadau oedd yn eiddo iddi, y mae gwaith Jane Austen yn ddifeïus. Nid ydyw yn fawreddog, ond braidd na ddywedem ei fod yn berffaith.

E. VINCENT EVANS.

Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM REES, D.D.

II.

FEL PREGETHWR.

YN ein hysgrif flaenorol ymgyrhaeddem at ddwyn i sylw gryn lawer o brif helyntion a dygwyddiadau bywyd Dr. Rees, drwy yr hyn yr aed â mwy o le, yn ddiau, nag a feddylid ar y dechreu. Gwelsom pa fodd yr ymddyrchafodd o ddinodedd, gan ddringo yn uwch uwch, nes cyrhaedd o hono o'r diwedd i'r fath uchder o anrhydedd a defnyddioldeb nas cyrhaeddir oddieithr yn dra anfynych yn ein plith. Yn moreu ei oes ni chafodd wisgo dillad esmwyth, ac nid oedd manteision gwybodaeth wedi eu hamlhau o'i gylch i'r graddau y buasai yn ddymunol ganddo. Ond breintiesid ef gan Awdwr bodolaeth â chynneddfau godidog. Gyda deall cyflym, yr oedd ei gof hefyd yn aruthrol. Ychwaneger at hyn yr ystyriaeth o'i benderfynolrwydd i weithio ei ffordd ymlaen drwy anhawsderau. Gall dynion o'r nodwedd yma fanteisio hyd yn nod ar rwystrau a ymddangosant i eraill yn anorfod. Ymddyrchafodd Homer a Virgil, Plato a Demosthenes, i enwogrwydd anfarwol, heb ond ychydig o'r fath fanteision ag a geir yn y cyfnod presennol. I Rees ieuanc, yn ardal wledig Llansannan, yr oedd cyfrolau natur a dadguddiad, ynghyd a bydoedd y meddwl a'r bywyd dynol, yn llydain agored; a chyda'r fath adnoddau dihysbydd o ddawn ag a feddiennid ganddo, ni allasai lai na dyfod i'r golwg gyda threigliad amser. Y mae rhai dynion a ddeuant i gael eu cyfrif yn fawr drwy nerth amgylchiadau, er gwaethaf iddynt eu hunain ; ond daw eraill yn fawr drwy ymroad personol, er gwaethaf yr amgylchiadau mwyaf anfanteisiol. Ni raid dyweyd mai i'r dosbarth olaf o enwogion y perthynai Dr. Rees. Ei fod yn ddyn o athrylith anghyfferdin sydd ffaith na feddylia neb drwy Gymru benbaladr am ei gwadu. Yr oedd yn meddu chwaeth naturiol dda; ond gallasai fod yn chwaethus ddigon, heb fod yn athrylithgar. Un peth yw meddu barn dda am nodwedd gwaith; peth arall cwbl wahanol yw meddu gallu i'w gyflawni i bwrpas. Athrylith, onidê, yw y gallu drwy ba un y cwblhâ y naill ddyn yn rhwydd ac effeithiol yr hyn nas gall arall, os heb ei feddu, ei gyflawni ond yn anmherffaith, a thrwy fyd o drafferth a phoen. Y mae athrylith yn cymeryd i mewn chwaeth o angenrheidrwydd, ond y mae yn golygu llawer iawn yn rhagor: tra yn barnu yn ddoeth, cynnyrcha hefyd yn doreithiog a hwylus. Yn awr, yr oedd y gallu yna gan Dr. Rees i helaethrwydd mawr. Y mae athrylith rhai dynion yn eu cyfyngu at ryw un cyfeiriad neillduol,-ni allant ragori mewn cyfeiriadau eraill er ymdrechu. Y mae ambell fardd i'w gael na theimla duedd i ymwneyd â dim braidd ond â barddoniaeth. Parnassus yw yr unig dir sanctaidd i'w athrylith ef. Ond yn Milton wele

fardd, er engraifft, o nodwedd pur wahanol. Ymestynai ei ddeall of am y bydysawd. Yr oedd yn wleidyddwr goleuedig, yn dduwinydd craff, ac yn ysgolhaig penaf ei oes. Ni raid ond agor ei Goll Gwynfa er gweled fod ei feddwl wedi ei ystorio â defnyddiau gwybodaeth oeddynt wedi eu crynhoi o bedwar cwr y ddaear. Perthynai iddo y cyffredinolrwydd hwnw ag a noda allan feddwl o'r fath alluocaf. Ac onid yw hyn yn wir hefyd i fesur helaeth am Dr. Rees? Ni fynem hòni mai efe ydoedd y bardd, neu y pregethwr, neu y darlithydd penaf a gododd yn Nghymru erioed; ond diau y caniateir i ni ddywedyd y byddai yn anhawdd nodi allan unrhyw Gymro a ragorodd mor amlwg a diammheuol mewn cynifer o wahanol ffyrdd ag ef. Yn y Bregeth angladdol a draddodwyd iddo yn Nghapel Albion Park, Caerlleon, y nos Sul cyntaf wedi ei gladdedigaeth, sylwai y Parch. D. Roberts, Wrexham, yn dra phriodol :

Yr oedd yn rhagori ymhob peth a gyflawnodd. Gellid meddwl wrth rai darnau, megys Aelwyd Fewythr Robert, Llythyrau yr Hen Ffarmwr, Adgofion Mebyd ac Ieuenctyd, a darnau yn Cathlau Henaint, mai mewn Hoenusrwydd y rhagorai. Yn yr Hiraethgan ar ol Williams o'r Wern, Elegy ar ol ei frawd, a darnau eraill, gellid tybied mai Galarebu oedd ei gylch. Yn Emmanuel a Job, gellid casglu mai fel Rhamantwr y dysgleiriai. Yn ei awdlau ar Heddwch, Awdl Foliant, a'i gywyddau, tybid mai yn y mesurau caethion y teimlai yn fwyaf cartrefol. Yn ei emynau, gellid tybied mai Peraidd Ganiedydd y torwyd ef allan i fod. Yn ei lythyrau ar Lywodddysg, gellid meddwl mai gwladweinydd y bwriadwyd ef i fod. Yn ei Esboniad ar yr Epistol at yr Hebieaid, gellid barnu mai Deonglwr Ysgrythyrol oedd y cylch y dylasai droi ynddo. Pan ar y llwyfan, gallesid dyfalu mai Darlithydd cyhoeddus y bwriedid ef. Yn y pulpud ar ddydd yr uchelwyl, gallesid penderfynu mai Pregethwr Cyfiawnder oedd ei swydd i fod.

Mewn cyffelyb fodd hefyd y llefarodd y Parch. J. Evans (Eglwys Bach) yn y bregeth angladdol a draddododd efe iddo yn Llundain. Gan ei gyferbynu â Dafydd, brenin Israel, efe a ddywedai :

Hynodid Dafydd gan amlochredd ei feddwl, amrywiaeth, llïosogrwydd nerth, a ffrwythlondeb ei ddoniau. Yr ydoedd yn fardd, cerddor, llenor, milwr, gwleidyddwr, prophwyd, awdwr Ysgrythyrol, a brenin. Ac yr oedd iddo "enw mawr" ymhob un o'r cymeriadau hyn. Y fath oedd nerth ei feddwl, dysglaerni pob un o'i gynneddfau, a mawredd swm, rhagoroldeb ansawdd, a phwysigrwydd amcan ei gynnyrchion o bob math, fel y teimlir ei fod ef yn frenin ymhob cylch a lanwodd-brenin o fardd, brenin o gerddor, brenin o filwr, a brenin o frenin. Ac un felly oedd gymhwys at waith ei oes. Yn yr holl bethau hyn, ac i fesur helaeth iawn hefyd, safai ein gwrthddrych yn eilun tarawiadol o Dafydd. Onid oedd Dr. Rees yn fardd, beirniad, golygydd, gohebydd, awdwr, gwleidiadwr, pregethwr, darlithiwr, ac yn bobpeth ond cerddor? a dywedir nad ydoedd yn hollol ddyeithr i'r gangen hono hefyd. Ac yn yr amrywiol gymeriadau hyn, y fath amrywiaeth diderfyn geid ynddo mewn arddull a naws! Medrai esbonio, rhesymu, dadleu, appelio, a desgrifio, ac wrth wneyd hyny, chwareu degtant ei naws, o'r tyner i'r llym, o'r prudd i'r digrifol, o'r tlws i'r ofnadwy, gan fod yn wawdlym neu yn swynol, yn syml neu yn aruchel, fel y gofynai y mater mewn llaw, neu y gweddai i amgylchiadau ar y pryd, ond bob amser yn ddyddorol, yn argraffiadol, ac yn llwyddiannus. Adgofier ei lafur cyhoeddus, neu darllener ei weithiau argraffedig, a chaufyddir yn y fan nad oedd diwedd ar amrywiaeth ei ddull a'i ddawn.

Diau yr ystyrir fod y tystiolaethau uchod o barthed i nerth ac "amlochredd" athrylith Dr. Rees mor ragorol a theg, fel na raid ychwanegu atynt yma. Gan hyny awn rhagom i sylwi yn fwy arbenig, yn ol fel y bwriadem ar y dechreu, ar ei athrylith fel pregethwr, bardd,

« PreviousContinue »