Page images
PDF
EPUB

Syr John Stanley yn y wlad; da iawn os daeth efe yma i wneuthur daioni. Y mae'n dda iawn gan bobl swydd Gaerlleon gael gwared o hono, fel y caffont seibiant tros ronyn. Yr wyf yn ofni nas gallaf gael gwerthu y Coll Gwynfa; y mae'r bobl yn dywedyd nas medrant mo'i ddeall yn ddim gwell na'ch Ffrancwyseg, neu iaith Coed Celyddon. Pe gallwn wneuthur cymmwynas i'm hen gyfaill G. O. Pugh, mi a'i gwnawn o wirfodd calon. Bu Rd. Llwyd, y Bardd o Gaerlleon Gawr, yn Nythybrain dridiau yn sgrifenu amryw bethau allan o Lyfrgrawn P. Panton. Y mae'r Bardd Llwyd yn bwriadu gwneuthur y Beaumaris Bay o newydd, a chwanegu llawer o bethau gwiw. gof atto. Y mae gantho ef godaid lawn o bapyrau at y gwaith, a gafes efe wrth bysgotta yma ac acw. Y mae'r Bardd Llwyd yn edrych yn odiaethol, ac yn llawn ysmaldod. Ym mhell y bo eich llong dân, os hi sy'n peri fod eich llythyrau mor gwtta. Nid oes genyf finnau ddim amser i 'sgrifenu ond cettyn byr atoch, a dymuno eich llwyddiant a'ch gwraig. Yr eiddoch yn ffyddlawn tra bwyf,

Fy ben Gyfaill mwyn,

J. W. PRICHARD.

Plasy brain, Hydref y 26ain, 1819.

Wele, fy nghyfaill hawddgar, yr wyf yn teimlo swrn o hiraeth am gael eich gweled, ac ymddiddan â chwi o hwnt ac wng.* Mi a wn fod gennych lonaid côd o chwedlau erbyn hyn; y mae genyf finnau agos lonaid fy nghroglofft o ryw fân chwedlau blith draphlith ar draws eu gilydd, ac nis gwn i yn iawn pa chwedl sy barottaf i ymwthio allan; ond y mae'n debyg mai'r hon sydd newyddaf a nesaf i'r drws a ddaw allan yn flaenaf; a chyda'r gair dyma hi yn rhuthro allan, a chwi gewch chwithau damaid praw o honi, i edrych a ydyw hi yn werth gwneuthur sylw arni, ynte ei thaflu i gelloedd tywyll Anghof yn dragyfyth. Y mae cyfaill i mi a elwir John Roberts, gynt o Dŷ'nybuarth, wedi prynu tyddyn o dir a elwir Y Marian, ym mhlwyf Llanddeusant, ac y mae'r tyddyn hwnw yn terfynu ar ddau dyddyn o'r eiddo Syr J. T. Stanley; un o honynt a elwir Mount Alaw, a'r llall Tafarn y Falog. Y mae'r hen derfynau sydd rhyngddynt a'r Marian yn glawddiau pridd mawrion a phydron, ac yn troi yn gonglau ceimion yma ac acw, ac y mae hyny yn llawer o rwystr a cholled i'r sawl a fo yn berchen y tir o bob tu i'r terfynau. Y mae John Roberts yn barod to make a line of give and take between his property and Sir John's property, so that the land on each side of the line may be equivalent, and the said John Roberts will make a good strong stone wall on the said line at his own expense, provided Sir John Stanley will have the goodness to approve of the same. I know the places mentioned above since many years, and I am thoroughly convinced that such a line of give and take would be much to the interest of Sir John. I think that it would not be amiss to inform him about the proposed line of give and take; and then Sir John may send somebody there to see the place. Enough for that: what shall I say again? Mi a gefais lythyr yn ddiweddar oddiwrth ryw wr bonheddig yn Ipswich, yn dymuno cymmwynas genyf. Nis gwelais i mo'r gwr da erioed; y mae efe wedi ei 'sgrifenu mewn iaith ardderchog (os iaith y gellir galw y Saesoneg). Efe a hanyw gynt o wehelyth y Monwysiaid, ac o dylwyth arbenig hefyd. Nis gwn i eto yn iawn a fedraf fi wneuthur y gymmwynas iddo ef ai peidio; y mae efe yn addaw talu i mi yn llawn am fy nhrafferth.

Fe fu Rd. Llwyd o Gaerlleon yma, ac erbyn ei fod yn ol yn Nghaerlleon, yr oedd ei hen wreigan wedi myned heb yn wybod iddo ef i Lundain i roi ei harian yn y Bank. Llythyr a gefais i gan wr bonheddig o Lundain yn dywedyd hynny. Os byddwch yn 'sgrifenu at y Bardd Llwyd, da chwi, tewch a son am hyn. Er mwyn dyn, pa beth sydd ganthoch i ddywedyd am fy arglwydd daearol, yr hwn sydd wedi dyfod yma i roi tro? Y mae rhai o wyr Lloegr yn ei ddwrdio yn dost, yn achos y cythryfwl a'r lladdfa a fu yn ddiweddar yn Lloegr.

Mi a welais Drial R. Carlile; ac yr oedd yn dda gan fy nghalon fod y jury wedi ei gael ef yn euog o gabledd yn erbyn Duw, a Iesu Grist, a'r Ysgrythyr Lân. Fe allai y bydd hyn yn foddion i luddias eraill i ganlyn ei lwybrau cableddus, ac y daw rhyw un ffyddlon a zelog tros Dduw a'i achos, ac a fydd yn foddion i daflu gwarth a chywilydd ar y fath ddynion annuwiol, fel na chodont byth mwy eu pennau. Er mwyn cariad, pa fodd y mae eich gwraig? a'r tylwyth mân? Y mae arnaf hiraeth am ddyfod i Gybi; ond ofni yr wyf nas caf gennad i ddyfod yna byth gan fy hên elyn,

* Draw ac yma,

PESWCH. Y mae Peswch o'r diwedd, wrth hir a dyfal guro arnaf, wedi gwneuthur fy ymysgaroedd oddi mewn yn friwedig; ac y mae arnaf ofn y Gauaf sy'n dyfod yn fwy na gwr a ohleddyf. Da chwi gyrrwch ryw ateb yn fuan. Yr eiddoch tros fyth, J. W. PRISIART.

Plasy brain, Ebrill y 3ydd, 1822.

Fy Nghyfaill mynwesol,

Doe y derbyniais eich

"Cettyn o lythyr cwtta

O sain deg a synwyr da."

Y wawch fawr! Gwae, gwae! holl feirdd a phastyn-feirdd Eryri! Fe dorwyd asgwrn cefn pob un o honynt; ac fe syrthiodd eu harglwydd a'u prif-athraw i ryw ffrwd o ddwfr rhwng Pentir a Llanrug, ac efe a foddodd yno fel Malwoden dawdd; ac felly y darfu Awen Dafydd Ddu Fardd mewn dwfr oer, wedi iddo ef roi eithaf cynnyg i daflu ei hun i safn Angeu lawer gwaith â llonaid ei safn o ddyfroedd poethion; ond dwfr oer a wnaeth y tro. Bellach, hyf atti, Feirdd Eryri, i wneuthur Galarnad ar ol eu tad, a'r goreu o honynt y mwyaf ei gelwydd.

Yr oeddwn wedi clywed rhyw achlyst eich bod yn bwriadu myned at y Llundeinwys i roi tro yn eu mysg; ond ni chefais ddim hyspysrwydd am yr amser, hyd oni dderbyniais eich llythyr a 'sgrifenwyd y 19eg o Fawrth. Pe buaswn yn gwybod eich meddwl yn gynt, buaswn yn dymuno arnoch arwedd cerpyn o lythyr o'r eiddof at Mr. David Davies, yr Optician, i ddymuno cymmwynas fechan gantho ef. Y mae arnaf eisieu pedwar o lygadau gwydr, yr un faintioli bob un, a'u focus, neu gyd darawiad pelydrau y goleuni, yn naw modfedd. Chwi a gewch weled maint a llun y gwydrau ar frig y ddalen yn yr wyneb arall i'r ddalen: ac mi a fyddaf yn dra rhwymedig i Mr. Davies os gwna efe yrru y gwydrau yn y modd y soniais, ac yn y llun a'r maint fel y gwelwch ar yr wyneb arall i'r ddalen, a'u rhoi gyda chwi pan fyddwch yn dychwelyd adref i Fon; ac yr wyf yn dymuno hefyd ar Mr. Davies yrru gwydrau gwynion, glân, a difrycheulyd; tebyg i'r gwydrau a gefais gantho ef bump neu chwech blynedd yn ol gyda Mr. John Elias. Digon am hynyna.

Weithian, mi a adroddaf i Mr. Davies ryw swrn o'm hanes fy hun-fel y mae Mr. Henaint wedi dyfod i fy hen babell, ac er llesged a methianted ymlusgiad ydyw, y mae ef wedi troi Mr. Ieuengetyd tros yr rhiniog, er siongced a dewred ydoedd efe; acy mae Mr. Henaint hefyd wedi cael cymaint awdurdod arno ef fel na's meiddia efe gynnyg dyfod byth mwyach tros drothwy fy nghaban.

Yr wyf yn deall fod Mr. Henaint yn ymlusgo attoch chwithau i Balasau gorwych. ion Llundain, a'i fod ef yn ymlusgo yn araf deg at Siôr y IV.; ac y mae yn beth tra rhyfedd gennyf fi na buasai rhai o swyddogion Henaint ac Angau wedi rhoi ôl eu crafangau yn ei dalcen cyn hyn. Po uchaf y tafler maen, ie, pe bai yn faen mynor, cyflymaf a syrthaf fydd ei gwymp. Digon o'r chwedl yna. Pa beth meddwch? Ai nid ydyw y Seneddwyr wedi ynfydu wrth ymdaeru yn achos y wasgfa sydd weithon ar yr holl Deyrnas ? Onid ydyw mor amlwg a haul hâf mai'r gwyr mawrion eu hun. ain yw yr achos, am na baent yn gostwng Ardrethion eu Tiroedd? Pe gwnant hwy hynny, fe adfywiai y byd eto fel cynt, ac fe fyddai byw ac awch newydd gan holl lafurwyr y ddaear; ac fe fyddent fel y gwenyn ym mis Mai a Mihefin (ar ol goddef oerfel Gauaf llwm), yn chwareu yn y tês, ac yn casgiu mêl erbyn ail Auaf.

Mi a 'sgrifenais lythyr er's chwech wythnos bellach at Mr. Davies, Optician, ac mi a yrrais y llythyr hwnw gyda nai i mi sydd yn perthyn i long o'r Beaumaris ; ond yr wyf yn tybio na ddaeth efe ddim hyd yna etto. Pa fodd bynag am hynny, dyma y cerpyn hwn o'r eiddof, yn cychwyn ar ei neges i fynegi i chwi fy mod yn eich annerch chwi a Mr. Davies, a Mr. G. Owen Pughe, ac yn dymuno eich llwyddiant o eigion fy nghalon. Dymunaf arnoch dalu i Mr. Davies am y gwydrau, a minnau a dalaf i chwithau, ac a fyddaf yn dra rhwymedig i chwi am eich mwynder. Mi a dalaf y postage i chwi am y llythyr hwn hefyd. Cofiwch mai pedwar llygad yspectol, yn union yr un faint a'r llun hwn; ac yr wyf yn dymuno yn fawr ar Mr. Davies roi y gwydr gwynaf, glanaf, a mwyaf difrychau a fyddo gantho ef. Mi wyf yr eiddoch o eigion fy nghalon,

[ocr errors]

J. W. PRISIART.

Nid oes dim eisiau palfau (frames), dim ond y gwydrau yn unig. [Rhoddir llun llygad yr yspectol ar 'frig y ddalen," ac o'i fewn, "Nine inches focus, pedwar o'r un faint;" a chyfeirir y llythyr at "Mr. Robt. Roberts, at Mr. David Davies, Optician, No. 8, Macclesfield Street, Soho, London.]

Fy hen Gyfaill mwyn,

Nyth y Brain, Mai y 3ydd, 1822.

Do, mi a dderbyniais y gwydrau yn ddiwall o ddwylaw Mr. Humphreys y eludydd Llyfrau, ac mi a delais iddo ef 4s. am danynt, fel y soniasoch yn eich cerdyn. Dyiolwch i chwi am eich mwynder a'ch trafferth yn eu ceisio. Ond dim son un gair am Gampiau'r Llundeinwys. Yr wyf yn deall fod Iolo Morganwg a Gwilym Owain Pughe wedi syrthio allan a'u gilydd; ni soniodd Davies wyllt un gair pa peth ydoedd yr achos iddynt sorri. Buasai yn dda i Mr. G. O. Pughe pe na's gwelsai erioed wyneb Iolyn; dyn ar ddrygau bob amser, ac yn dyfeisio rhyw gelwyddau i geisio twyllo'r byd, ac wrth hynny, nid yn unig tynu dirmyg a gwaradwydd arno ei hun, ond fe barodd lawer o ddirmyg ac anfri ar enw Mr. G. O. P. Cch fi! Duw a'n gwaredo rhag syrthio i rwyd y cyfryw Anghenfil. Y mae P. Panton wedi cychwyn er y boreu Llun diweddaf rhyngtho a Llundain; y mae ef yn hynod o wael yn ei iechyd; braidd yr oedd yn gallu ymsythu i gerdded, nac ychwaith na bwytta nac yfed ond ychydig. Nid oes o hono ef ddim yn unig ond y croen am yr esgyrn. Y mae ei ddwy chwaer wedi cychwyn gydag ef; ond nid ydynt hwy yn myned yn ddim pellach na thŷ Mr. Panton Corbet, yn agos i'r Mwythig. Ni's gwn i amcan pa bryd y gallaf ddyfod i roi tro i Gybi. Mi welais Mr. Brown eich Pen Saer Maen, ddydd Mawrth diweddaf yn Llwydiarth Esgob. Mi fum yn ymofyn am danoch chwi a'r Capt. Evans, ac efe a ddywedo id eich bod ych deuoedd yn iach, a Mr. Gr. Owen yr un modd. Och fi! a oes dim modd cael hanes gwyr Llundain heb ddyfod i'w geisio i Gybi? Cofiwch fi yn garedig at Mrs. Roberts a'ch mam, Mr. Gr. Owen a'i wraig, ac eraill a'm caro. Mi wyf yr eiddoch yn ddiffuant tra bwyf,

J. W. PRICHARD.

Mi a welaf eich bod wedi agor eich ysgol erbyn hyn; dymunaf lawer o elw a llwyddiant i chwi ar y gorchwyl, ac yr un ffunud, dymunaf fod eich ysgol yn lles ac yn fendith i'r wlad yn gyffredin. Henffych well! Lled besychlyd ydwyf a chwla yn aml; ond er bod yn gwla ac yn egwan, nis daw Angau ddim heb ei gennad gan Dduw.

III.

Heblaw y llythyrau uchod oddiwrth Mr. J. W. Prichard, yr oedd yn sypyn papyrau Mr. Robert Roberts rai llythyrau eraill hefyd ag y teimlai ein darllenwyr mae yn ddiammeu eu bod o lawer gormod ddyddordeb i'w gollwng i golli. Mae y llythyr canlynol wedi ei ysgrifenu gan y Parch. THOMAS CHARLES, Bala; nid oes dyddiad iddo, ond mae yn amlwg ei fod wedi ei ysgrifenu pan oedd y Geiriadur yn cael ei barotoi i'r wasg, ac y mae yn newydd ac yn hyfrydwch mawr i ni ddeall fod Mr. Charles gyda'r amcan hwnw yn cymeryd mantais ar wasanaeth gwerthfawr Mr. Robert Roberts. Y mae y llythyr wedi ei gyfeirio, yn llaw glir, brydferth Mr. Charles, at "Mr. Robert Roberts, at his Academy, Holyhead, Anglesey." Y mae y ffigyr "11" ar wyneb y llythyr; a ydyw hyny yn golygu fod awdwr y Daearyddiaeth wedi gorfod talu un geiniog ar ddeg am ei gludo?

Dear Sir,

I should have replied to your kind letter sooner, had I not expected to hear from Taylor respecting the publication of the last part of Wells Geography, in which he informed he intended to be accompanied with some New Maps tending to illustrate Sacred Geography. But I have waited in vain; I have not as yet heard from him. Perhaps he expected me in town to attend the annual meetings of the different religious societies. I have written a second letter, in which I requested an immediate answer. I fall in with your idea of a Map of the Land of Canaan, and of the Journey of the Israelites, in one; and a small representation of Jerusalem and its

environs in a corner. I wish to have this first executed for the second Vol. of the Geiriadur, and the other map, which you say you have begun, would do very well for the Third Vol., and complete all the Maps I shall want. Perhaps in the last Map you could give some mark of the probable situation of the country of Eden, Ararat, &c. In drawing each Map I wish you will have the goodness to keep in view the illustration of Sacred History more than profane, and to have Scripture names inserted, and not the present names the different places have obtained, as my principal view is to illustrate the Sacred writings. I hope to see you in June, and to bring with me all the helps I have in possession: and perhaps before then I shall have received Taylor's last part of Wells. Besides Maps, many plates, representing different objects would have been desirable, as they would assist the mind much to form an accurate idea of objects described in the Sacred writings, besides other subjects in Anatomy, natural Philosophy-such as the revolution of the first and Secondary Planets, &c., subjects which I am prevented from enlarging upon for want of plates to represent them; and what I have written I fear will be hardly intelligible for the same reason. For instance I attempt under the word Lleuad to give an account of the revolution of that upon its own axis-round the earth-and accompanying the earth round the Sun, and that the same face is presented to us at all times notwithstanding. A plate would have made all this quite intelligible-more so than the most accurate description possibly could. I hardly know how to deny myself the pleasure of presenting them with a representation of this, and another representing the revolutions of the Planets round the Sun. Without this it seems to me I only talk in the dark and make them stare: but I wish to enlighten them in these things, that they may admire and adore the Creator in his works. If an additional 6d. was advanced in the price of one part in a Vol., I could do it without any loss. By their advancement in all useful knowledge, I wish to exalt them in the scale of existence both in this world and the next. I am, dear sir, faithfully yours,

THOS. CHARLES.

I shall be at all times glad to hear from you-the Mail now comes every day thro' Corwen.

Y mae yn eu plith hefyd ddau lythyr oddiwrth y Dr. W. O. PUGHE.

Fy Nghyfaill caredig,

Tanygyrt, gerllaw Dinbych, Gorph. 2ed, 1809.

Diolch i chwi am eich llythyr yr hwn oeddwn yn hir ddisgwyl am dano ac er ys misoedd yn arofyn, fel chwithau, ysgrifenu, ond yr amser a ymlithrodd heibio hyd yn hyn. Chwi welwch uchod nad yw ein trigfan mwy yn Ninbych. Daethom yma ddiwedd Mawrth, a bum yn llawn trafferthion yn taclu rhyw hen dŷ yma fal y caffem le diddos. Yr ydym y dyddiau hyn ar ein cynhauaf gwair, yn mhlith eraill rwystrau, ac felly ni wiw son am wlad Mon mwy, nes delo rhyw adeg mwy cyfaddas nag eich toriad ar dymhor eich athrofa canol haf. Ond hwyrach y gallwch chwi ymweled â ni yma? Mae yma le i chwi letya yn ein bythyn, a gwych fyddai eich gweled. Wfft i'r Monwysion ac i'r Arfonwysion! Ni ddaeth y cloron a soniasoch am danynt ddiwedd y flwyddyn a aeth heibio byth i ben eu taith, er i mi roddi cyfarwyddyd eglur, a danfon hefyd i Lundain .* a holi am y cloron: ond ni lwyddodd dim. Da y newydd, fal y dywedwch y mae eich athrofa yn hylwyddaw; a gwych fyddai genyf allu dawed i weled eich cydwedd a chwithau yn eich I awn gorchwyl yn ei chylch-ac y mae blys er ys talm ar fy nghydwedd sâl am ddawed i weled eich tref, a chwithau a'r eiddoch.

[ocr errors]

Go ysmala eich gofyniad ai goleuach yn awr y gellir gweled cyflawniad galwedig aeth Joanna. Mae yn hawdd i mi ofyn hyn trwy ofyn i chwithau-ai goleuach ydoedd i'r Iuddewon digred ymddangosiad cyntaf y Messiah, pan oedd eu dinas yn llosgi yn eu hamgylch NAO yn nechreuad ei wyrthiau yn eu plith? Ac am y Bwystfil, ai na wyddoch fod yn rhaid iddo dderbyn ei "friw marwawl," ac yno ei iachau,

* Y papyr yn rhy ddrylliedig i wneyd y geiriau allan.

fal y bydd raid i'r byd ryfeddu, a gweiddi " Pwy all ryfela yn erbyn y bwystfil;" ac yn llyfrau I. dywedir rhaid dechreu tori yn fyr ei rwysg cyn y daw barnedigaethau trymion ar y wlad hon. Ond rhaid i mi ddiweddu gan fy mod yn gorfod anfon i'r post yn ddiatreg. Cofiwch fi a fy nghydwedd at Mrs. Mary Roberts mewn caredigrwydd. Byddwch wych!

GWILYM OWAIN.

Fy Nghyfaill,

D. Sadwrn, Myh. 13ed, 1818.

Dyma ni, sef Mr. T. Roberts, Mr. Sol. Jones, Mr. Evans, Mr. H. Jones, Mr. D. Davies, a W. O. P. yn nhŷ D. D., newydd ddychwelyd oddiwrth Syr W. W. Wynn. Derbyniodd ni gyda mwyneidd-dra, ond dywedai mai gwirion fyddai son am y cenadwri i neb heb rhyw sail i ddangos iddynt achosion i roi coel, a hyny o hanesion y dyddiau hyn. Gwnaeth goffawdwriaeth am ddau neu dri a soniasom am danynt, ac addawsom yru iddo yr hanesion yn helaeth ond yn fyr. Crybwyllodd i ni y gallai Mr. Southey, y Poet Laureate, cynnorthwyaw yr achos yn fawr, a dywedodd mai da i mi ysgrifenu ato, ac y gallwn wneyd achaws o'i enw. Gallwn alw eto tua diwedd y flwyddyn, ar ol cael yr hanesion yn cryno. Ac os gwela achaws o'i goeliaw, y rhoddai ef bob cynnorthwy, ac nis amheuai y gellid codi llawer o arian i gyflawni y dyben. ion. Na soniwch am enw Syr Watkin, bydd yn enbyd hyny yn y rhan hyn o'r yrfa, rhag ei ddigiaw. Mae y cyfeillion uchod yn eich annerch. Minnau hefyd at Mr. T. Charles ac ei wraig-hefyd Mr. D. Charles gan obeithiaw ei fod wedi hybu. Byddwch wych.

W. OWEN PUGHE.

Mae y llythyr uchod wedi ei gyfeirio at "Mr. R. Roberts o Gaer Cybi, to the care of Mr. T. Charles, Bala."

Mae y llythyr canlynol wedi ei anfon at "Mr. Robt. Roberts, at the School, Holyhead, Anglesea." Dengys yr awyddfryd a deimlai y boneddwr a'i hysgrifenodd am wybod ychydig o helynt y gwaith crefyddol oedd y pryd hyny yn cael ei ddwyn ymlaen gyda'r fath rym yn Nghymru.

My dear Sir,

12, Grove Place, Camden Town, London,

Jan. 13th, 1815.

I take the earliest opportunity of thanking you for your obliging communica tion. I have not yet had the pleasure of seeing Mr. Pughe, but I shall immediately call upon Mr. Davies that I may be introduced to him. I am extremely interested on the subject of the religious sects in Wales, and I feel convinced that you will excuse my requesting you to favour me with a little fuller information. You say that the Calvinists have, in their Summer Association, from 12,000 to 18,000 hearers; do you mean that this is the whole number of that sect throughout the Principality, or that as many ever meet in one body, to hear the discourse of one, two, or more Preachers in one field? Can you form any conjecture as to the number of Method. ists of all persuasions in Wales? You tell me that when listening to very pathetic sermons, some hearers are occasionally transported by a temporary frenzy. Can you tell me what particular subject a preacher dwells on when he produces such extraordinary effects ?-is it a warm picture of the glory of the life to come, or is it not an emphatical demonstration of the actual and the particular presence of the Deity among his congregation; does he not give them to believe that the very spirit of Christ is transfused into their bosoms; and are not all their raptures to be attributed to this supposed inspiration? Are the sermons which are preached on the great annual meetings of a character peculiarly animated? do they advert particularly to the increasing numbers of the sects, and exhort to the labour of a still more extended conversion? Has any particular instance ever fallen under your ⚫own observation of any sudden reformation of morals and life by conversion to Methodism ?—and can you tell me what are the feelings which the people are con

« PreviousContinue »