Page images
PDF
EPUB

dychwelyd ar eu ceffylau o farchnad Caernarfon gyda'u gilydd. Yr oedd gan un o honynt bottel ddu yn llawn o furym, ynghrôg gerfydd ei chlust wrth linyn ei ffedog -fel y gwelsoch lawer gwaith. Wrth deithio, dechreuodd y burym weithio, ac aeth y corcyn, pop, a pheth o'r burym i'w ga'lyn, yn erbyn cern y wraig. Tynnodd hithau ei dwy law ar hyd ei gwyneb, nes oedd ei bysedd yn furym i gyd. "Mwrdww-wr!" meddai hi, nerth esgyrn ei phen, "yr wyf wedi cael fy saethu yn gelain gorff, a dyma fy ymenydd i gyd hyd fy nwylo i." Mae ystori "Wil tattws oerion,” a glywsai mor "loyw" gan Robin Ddu Eryri, os yw yn bosibl, yn fwy rich fyth. Un dda iawn hefyd yw ystori "John y Gwindy," am y porthmon yn dyfod o ffair Dolgellau. Rhaid i ni wneyd lle i ystori "Rolant Petter." Yr oedd Nicander yn nhŷ ei gyfnither, Mrs. Jones, merch Pedr Fardd, “ar fisit :”

Daeth Henry Rees i yfed tê hefo ni un prydnawn: maent yn gyfeillion garw, ac yn byw o fewn canllath i'w gilydd. Cefais fy moddio'n fawr yn Mr. Rees. Mae o'n hynod o ddiddan a dirodres. Mi a adroddais hanesyn bychan wrtho (ac yr oedd yn bwrpasol glic 'spigwll i'r sgwrs oedd mewn llaw), yr hwn a glywswn gan John Roberts, Cefnymeusydd, y pregethwr Baptist. A dyma fo :-Pan oeddwn i'n hogyn go fychan, yr oedd pregethwr Baptus yn byw yn yr ardal o'r enw Rolant Petter. Byddai Rolant yn dewis yn aml y testunau mwyaf dyrys ac annosparthus yn yr holl Fibl. Yr oedd y gynnulleidfa yn cwyno braidd meddyliodd y brodyr mai purion peth fyddai gosod y cwyn ger bron Rolant ei hun. Galwodd un o honynt gydag ef ddydd Sadwrn, ac ebe fe wrtho, Rhaid i chwi beidio digio, Rolant Petter; ond mae'r bobol yn cwyno braidd y byddwch yn cymeryd adnodau rhy ddieithr ac anhawdd yn dext; maent yn crefu a fyddech chwi cystal a phregethu oddiar destunau mwy adeiladol ac Efengylaidd. "Wel, wir," ebe Rolant, "hwyrach eich bod yn eich lle: rhaid i mi dreio diwygio; ac yn fwy felly, am mai chwi yw'r ail frawd ag sy wedi bod yn rhoi'r cynghor yma i mi heddyw." Yr oedd yr holl ardal wedi gwybod am y cynghor a gai Rolant ddydd Sadwrn. Y bore Sul drannoeth, yr oedd y capel yn llawn dop, i glywed Rolant yn cymeryd ei dext: "Yn y bedwerydd bennod o'r Datguddiad, a rhan o'r seithfed wers: A'r ail anifail oedd debyg i lo." Ni welais neb erioed yn chwerthin yn fwy hearty, nag oedd Mr. Rees am ben y stori yma; a dywedais hi wrtho yn well nag yr ysgrifenais hi uchod."

[ocr errors]

A phwy na theimlai dynerwch prydferth ei lythyr at Eben Fardd, pan oedd ei gystudd yn cynnyddu :—

Fy nghyfaill anwyl, rhoddwch eich hunan yn hyderus yn ei law, ac at ei fendigedig ewyllys Ef. Onid yw ein Harglwydd yn dirion, yn ein gwahodd i gyflwyno ein hunain iddo, ac yntau, mewn mwy nag un ffordd, yn berchenog arnom eisoes! "Myfi," ebe efe, "a bïau'r cristion acw, eiddo fi ydyw; ond eto y mae yn hyfryd genyf iddo ei roi ei hun i mi, er hyny, ddydd ar ol dydd, yn bechadur mawr, o'i ran ef, ond yn berl yn fy nghoron, o'm rhan i: yn ddu, yn euog, ac yn annheilwng o'i ran ef, ond o'm rhan i, yn gymeradwy yn yr Anwylyd." Yn union fel y byddys mewn teuluoedd. "Hogyn bach pwy wyt ti, heddyw?" medd y tad wrth ei fachgen bach; "Hogyn bach tada," medd yntau; a'r tad yn ei wasgu at ei fynwes, can falched a phe mai dyna'r tro cyntaf y daeth yr hogyn bach yn "hogyn bach tada!"

Ond ni wiw i ni ymdroi yn hŵy gyda'r gyfrol dra dyddorol hon. Hyderwn y caiff dderbyniad caredig, ac y ceir calondid felly i gyhoeddi llawer yn ychwaneg o'r pethau da sydd yn nghadwraeth Myrddin Fardd. Dylasai yr olygiaeth fod gryn lawer yn fwy gofalus. Ei phris yw 4s. 6c.

[graphic][subsumed][subsumed][ocr errors][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][ocr errors][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][ocr errors][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][ocr errors][subsumed][ocr errors][subsumed][subsumed][subsumed][ocr errors][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed]

Y TRAETHODYDD.

Y CORFF CYMDEITHASOL.

NID ydyw athroniaeth foesol Seisonig mwyach yn gyfyngedig i unigoliaeth, neu individualism yn unig. Fe ddilynodd Hume yr egwyddorion hyny i'w canlyniad eithaf, ar dir rhesymeg, ac fe'u gwrthbrofodd fel damcaniaeth gwybodaeth trwy ddadguddio yr ammheuyddiaeth hollol sydd yn gynnwysedig ynddynt. Mae y cwestiwn a orwedda wrth sail y Critique of Pure Reason yn dangos fod Kant yn ystyried gwaith Hume yn derfynol, ac unigoliaeth yn wythien o feddwl oedd wedi ei gweithio allan. Fe ddarfu i hanesiaeth hefyd gadarnhâu dysgeidiaeth ddinystriol Hume pan dderbyniodd unigoliaeth ei gwrthbrawf ymarferol yn y Chwyldroad Ffrengig. Yn ddamcaniaethol yn gystal ag yn ymarferol fe ddarfu i'r symudiad meddyliol oedd yn dadgyfanu, orphen ei waith a'i hyspyddu ei hun ar derfyn y ganrif ddiweddaf. Yr ydoedd yn ysgar y dyn oddiwrth ei gylchyniadau, neu ei environments, yn anianyddol ac ysbrydol, ac yna yn cael nad ydoedd ei dysgeidiaeth ond cysgod o athroniaeth gau. Mae yr oes hon yn ymwrthod â'r athroniaeth a olygai feddwl fel peth ymsyniol yn gweithredu mewn gwagder; y mae wedi colli ffydd mewn Melchisedecau moesol, a hawlia gan bawb linach eu harferion o feddwl a gweithredu. Mae cwestiynau unigoliaeth yn colli eu dyddordeb, ac y mae cwestiynau newyddion, a orweddent tu hwnt i derfyngylch oes sydd wedi myned heibio, trwy ddystaw ddadblygiad y meddwl cyffredinol, wedi dyfod yn awr i'r lle blaenaf. Mae sylw dysgedigion y dyddiau hyn yn cael ei gyfeirio at gysylltiadau personau unigol, yn hytrach nag at bersonau unigol eu hunain; ac fe olygir y cysylltiadau hyny, mewn ystyr fwy neu lai anmhenodol, fel yn hanfodol i, os nad yn gwneyd i fyny bersonau unigol. Y mae damcaniaeth y dyddiau hyn, mewn gair, yn adgyfanol o ran ei duedd. Ymdrecha i'w ryddhâu ei hun oddiwrth ei hen ronynolrwydd, ac i gyfaddasu y person unigol at yr hyn sydd yn ei gylchynu. Y mae damcaniaethau mewn perthynas i gymdeithas yn cymeryd lle damcaniaethau mewn perthynas i'r person unigol; a phan wneir y person unigol yn destun ymchwiliad fe geir ei fod, a dyweyd y lleiaf, yn arallol, neu yn dangos perthynas âg eraill yn gystal ag yn fyfiol, neu yn gofalu yn unig am dano ei hun.

[blocks in formation]

Ond er fod athroniaeth Seisonig yn symud ymaith oddiwrth gwestiynau a chanlyniadau ymarferol unigoliaeth, y mae eto, i fesur helaeth, yn cael ei rheoli gan ei agdybiaethau. Mae y fath ysgrifenwyr â Mr. Spencer eto yn damcaniaethu ar ei egwyddorion, er fod y meddyliau sydd yn rhoddi iddynt allu yn estronol iddo. Fel gweision Ahab archolledig, y maent yn cynnal eu meistr yn ei gerbyd hyd yr hwyr. Y mae dyddordeb a gwerth damcaniaethau Mr. Spencer ar foeseg yn codi o'r defnydd a wna o'r syniadau o ddadblygiad ac organiaeth; ond nid oes dim dirdynu ar unigoliaeth a all beri iddo roddi y syniadau hyn. Y maent wedi eu mabwysiadu allan o feddwl cyffredin yr oes ar faterion gwyddonol, ac yna wedi eu harosod ar athroniaeth sydd yn estronol iddynt. Wedi profi eu hunain yn ddefnyddiol yn maes bywydeg, biology, i fesur ag y mae yn anhawdd ei orbrisio, y maent ar unwaith wedi eu cymhwyso at foeseg. Ac nid ydyw y syniadau hyn wedi derbyn ystyr newydd oddiwrth eu cymhwysiad newydd, ond y maent yn dal yn y cysylltiadau newyddion yr arwyddocâd oedd iddynt yn yr hen. hen. Yn awr, ni all syniadau sydd gywir a pherthynasol mewn un cylch gael eu cymhwyso i gylch arall a gwahanol ond yn unig yn y ffordd o gyfatebiaeth a chymhariaeth; ac yr ydym yn credu fod holl ddysgeidiaeth Mr. Spencer ar foeseg, gyda'i gilydd, yn gynnwysedig ar y naill law o Hedoniaeth, neu bleser yn ddyben, ac ar y llaw arall o gyfatebiaethau cywrain rhwng ffurfiadau anianyddol ac arferion anifeiliaid, a ffurfiad meddyliol ac arferion moesol dynion.

Felly, o leiaf, y mae ei athrawiaeth am ffurfiad organaidd cymdeithas, neu gymdeithas fel corff. Fe olygir y corff byw fel cynllun bodolaeth organaidd, ac fe olygir cymdeithas fel yn organaidd càn belled, a chan belled yn unig, ag y mae yn gyffelyb i gorff byw. Dyfyniad o'i atebiad i'r cwestiwn, "Beth yw cymdeithas?" a brofa ein haeriad. "Ond yn awr, ac ystyried cymdeithas fel peth, pa fath beth raid i ni ei galw?... Y mae dau ddosbarth o gydgrynöadau â pha rai y gellid cymharu y cydgrynöad cymdeithasol-yr anorganaidd a'r organaidd. A ydyw priodoleddau cymdeithas, a'i hystyried ar wahân oddiwrth ei hundodau byw, mewn unrhyw ffordd yn debyg i eiddo corff di-fywyd? neu a ydynt mewn unrhyw ffordd yn debyg i eiddo corff byw neu a ydynt yn gwbl annhebyg i eiddo y naill a'r llall ? Ni raid ond gofyn y cyntaf o'r cwestiynau hyn i'w ateb yn y nacäol. Ni all cyfan o ba un y mae ei ranau yn fyw fod, yn ei nodweddion cyffredinol, fel cyfan di-fywyd. Mae yr ail gwestiwn, nid fel hyn i'w ateb ar unwaith, i'w ateb yn y cadarnhäol. Y mae genym yn awr i ystyried y rhesymau dros haeru fod y cysylltiadau parhâus ymysg rhanau cymdeithas yn gyfatebol i'r cysylltiadau parhâus ymysg rhanau corff byw."*

Yn ei bennod nesaf, mewn canlyniad, y mae Mr. Spencer yn darganfod y cyfatebiaethau hyn mewn helaethrwydd mawr, ac yn eu harddangos gyda chywreinrwydd neillduol. Y mae cymdeithas yn tyfu fel corff byw; y mae yn myned trwy oruchwyliaethau o ymwahaniaethu ac o ymgyfanu fel corff byw; cyfaddasa ei hun i'w chylchyniadau fel corff byw; y mae ganddi ffurfiadau maethol, dosbarthol,

[blocks in formation]
« PreviousContinue »