Page images
PDF
EPUB

Mae Hwfa Môn yn rhy chwannog i lefaru mewn taranau, ac o herwydd hyny mae ei daranau yn methu ein dychrynu. Fel ei Owain Glyndwr, y mae yn rhy fynych yn ceisio cerdded yn y fath fodd nes

O dan ei gamrau trymion siglai 'r llawr,
Ac wrth ei sangiad cadarn tyrfai 'r graig.

Ond ni fyn y llawr siglo, ac y mae y graig yn ystyfnigrwydd ei chadernid yn dal yn ddigryn. Y mae yn cael ei gydnabod, fel peth sydd yn dealledig, "fod gormodiaith yn oddefol i feirdd," ac fel engreifftiau o'r addurn awenyddol hwn yr ydym yn cofio i ni yn nyddiau tirfion ein mebyd weled yn Ngramadeg Robert Davies, Nantglyn, y dyfyniadau ardderchog,

Rhedais ynghynt, helynt hir,

Na mellten ddeunaw milltir.

Gorddu yw brig y Werddon
Gan fŵg ceginau o Fôn.

Ond er fod beirdd da, a beirdd goreu y byd, pan y mae hyny yn ateb eu pwrpas, yn defnyddio ymadroddion eithafol, y mae er hyny ryw reswm ar eu hafiaeth, ryw "drefn❞ hyd yn nod ar eu “gwallgofrwydd,” sydd yn peri fod eu geiriau cryfion yn cryfhâu, ac nid yn gwanychu yr effaith a ddymunant gynnyrchu ar feddyliau eu darllenwyr. Ond pan eir i ormodieithu yn ddiachos, ac yn barháus, y mae yr effaith yn dra gwahanol. Ac y mae hyn yn wendid neillduol ar farddoniaeth Hwfa Mon. Cymerer yr Awdl gyntaf yn y llyfr,-Galar Cymru ar ol Alaw Goch. Mae y newydd am farwolaeth y gŵr hwnw yn dyfod "ar unwaith i'n trydanu." Mae y galar am dano y fath fel y mae yr aber ar ei ol "yn wylaw rhwng y moelydd," ac

O'r glynau tywyll, crogleni tewion,
A drwmdöant yr holl drumau duon;
Hyd eu hoer aeliau uda 'r awelon

Eu hachwynedig ddwys ocheneidion, &c.

Yr oedd ei lygaid yn gweled i eigion daear, a "chwiliai wraidd ei chalon;" ac wrth fyned "drwy gyfyng ddyfnderau ogofawg," ac i uthrol fwngloddiau,

Tynai trwy ffyrdd melltenawg-fwn lwythau,

A'i grych haenau yn fflamau gwreichionawg !
Tröai y lawntiau rhiwiawg,-a'u mwnoedd,
Ddu eirwon diroedd, i aur yn dyrawg!

Yr oedd y teleidion â pha rai y llanwasid ei luest yn "wynach eu gwawr na yr Onix eirianwawr!"

Ceid tlŵs, ar bob gorddrws gwyn,

Yn eglur ddysglaer foglyn;

A rhoddwyd meini rhyddaur

I borth hwn yn ebyrth aur !

Fe ddeuai y cardotyn ato "i ochain, a sychu ei ddeigryn," ond wedi hyny "i ganu'i delyn!" Bydd y gweddwon "hyd eu heinioes yn galaru am dano," ac mae eu "heinioes yn edwino," a'u "deigr yn llifo!" Byddai yn "tywys minteioedd, i ganol ei gynes neuaddoedd" er diwallu eu heisieu. Yr oedd ei deimlad, gan faint ei

nerth, "yn rheiadru." Ac am ei awen a'i ddoniau, fe'u desgrifir mor ysplenydd fel y buasai yn anhawdd dyweyd dim gwell hyd yn nod am Eben Fardd. Am y "beirddion ifaingc" y maent yn brudd iawn, "yn yfed o fôr o alaeth," yn "dwys ferwino," yn “brudd odiaeth yn breuddwydio am dano,” ac o'i blegid “yn

ymblygu mewn erchyllaeth." Yn "y gweuau" o'i golli, "gwywant, dan loesau y nos o ochau, a'u deigr ni sychant!" Wrth ei fedd, y bardd a "wyla fyth wrth feddwl fod, ei Alaw yn ei waelod !" Pa les manylu,—

Y Genedl oll a gwyna, -ac yn llesg

Yn y llwch gorwedda;

A llwyd wedd am ei Llyw da

O hiraeth dwfn alara.

Ac eto fe ddywed y Beirniaid fod yr Awdl hon "yn bortread byw o Alaw Goch," ac yn "teilyngu i'w hawdwr y Gadair a'i hanrhydedd." Mae yn debyg fod Alaw Goch yn Gymro parchus a gwladgarol, ac yn hoff o gymdeithas y beirdd a dilyn eisteddfodau; ond y mae meddwl ei fod yn haeddu ysgrifenu am dano fel y gwneir yn y dyfyniadau uchod, a llawer o ymadroddion eraill yn yr Awdl, yn ynfydrwydd. Beth pe byddai i ŵr dysgedig o un o athrofeydd y Cyfandir, a allai fod yn awr yn astudio ein hiaith a'n llenyddiaeth, gael gafael ar yr Awdl hon; a beth pe dygwydd. ai iddo ddyfod yn fuan wedi hyny i Gymru? Wrth reswm fe holai am Alaw Goch, ac ni allai orphwys nes cael hanes y gwyrthiau o garedigrwydd a wnaeth â holl genedl y Cymry; y cyfansoddiadau barddonol anfarwol a adawodd ar ei ol, a'r myrddiwn gweithredoedd da a gyflawnodd. Ond erbyn deall pethau fel yr oeddynt, a chael fod y Cymry oll mor bell o fod yn tori eu calon ar ei ol fel nad oedd ond nifer bychan o honynt a wyddai hyd yn nod am enw y gŵr parchus, beth a feddyliai y boneddwr hwnw wrth weled fod gweinidog yr efengyl a bardd cadeiriol yn rhaffu y fath ymadroddion eithafol yn ei gylch? A beth, yn enwedig, wrth weled dau weinidog a dau brif-fardd, yn llanw y sefyllfa bwysig o feirniaid mewn cystadleuaeth am Gadair Morganwg yn Eisteddfod y Cymry yn Nghastellnedd," yn dyweyd fod yr Awdl hono "yn bortread byw o Alaw Goch, ac yn teilyngu i'w hawdwr y Gadair a'i hanrhydedd." Wel, fe ddywedai, yn naturiol, fod yn dda iawn fod Llywodraeth Lloegr yn penderfynu estyn ychydig o fanteision addysg i bobl oedd yn eistedd yn y fath ddygn dywyllwch! Fe fyddai y syniad am i Tennyson neu Browning neu Lewis Morris ysgrifenu yn y fath fodd, hyd yn nod am ŵr enwog, mor naturiol yn awgrymu fod pethau o'u lle fel y meddylid ar unwaith y dylai eu cyfeillion ofalu am danynt.

[ocr errors]
[ocr errors]

Mae y bai hwn i fesur mwy neu lai yn anurddo yr holl gyfrol, ond yn fwyaf neillduol yn y manau lle mae y meddyliau wanaf. Yn hyn mae yr Awdl brydferth a thyner ar ol Ieuan Glan Geirionydd yn cyferbynu yn hynod â'r un ar ol Alaw Goch. Pan mae meddwl a chalon y bardd yn llawn, nid ydyw yn ebychu nemawr. Mae yn dda genym ddeall fod yr Aelod anrhydeddus dros Sir Fôn, — a bellach ei Harglwydd Raglaw! — i'r hwn y cyflwynir y gyfrol, “yn noddwr ffyddlawn i lenyddiaeth ei wlad;" ond os ydyw y boneddwr parchus wedi darllen yr englynion a geir yma iddo,-yr hyn, yr ydym yn ofni, sydd braidd yn ammheus! mae yn ddiammeu fod yn dra syn ganddo ddeall fod beirdd Mon "yn cydbyncio i'w groesaw," ac wrth wneyd hyny "yn taranu hyd yr Ynys;" a'r un modd fod "cawr-feirdd ar feinciau Arfon" yn ei foli; ac yn enwedig fod "llifeiriawl fawl Allforion" yn cael ei daenu i'w enw dros y môr. Ni fuasai yn annaturiol i Mr. Davies ofni fod y bardd yn gwneyd digrifwch o hono; yr unig esboniad arall posibl ar ei eiriau ydyw ei fod yn prydyddu, ac am hyny fod yn oddefol iddo siarad nonsense. Pennillion rhagorol iawn yw y rhai ar Ddydd y Frwydr, ond pa "farch rhyfelawg" erioed a welwyd yn trengu ar y cledd, "a tharan yn ei safn !” Yn ffol ac mewn chwaeth isel y dywedodd Dewi Wyn ein bod yn cael yn y gelfyddyd o argraffu "dduwdod y celfyddydau;" ond fe ymddengys fod hyny wedi taro ffansi Hwfa Môn, canys fe sonia am "dduwdod holl ryfeddodion,” a thrachefn, am "dduwdod y rhyfeddodion." Mae y gair "dwyfol" yn cael ei gymhwyso ganddo

[ocr errors]

at bob math o bethau, ac wrth reswm yn colli ei holl rym. Mae swyn y gwawl "yn ddwyfawl;" mae dwyfol burdeb" ar wyneb y Gwanwyn; drachefn mae ei fywiol gaerydd yn "hardd a dwyfol;" mae Duw yn "dwyfoleiddio gwedd y Flwyddyn," beth bynag allai hyny fod; yn yr un tu dalen y mae hardd-deb bywioldeb y gwlith yn peri "i wael wyneb ddwyfol wenu;" y mae Duw "â dwyfawl hedd" yn gwyrthiol brydferthu y Flwyddyn; y ddaearen, mewn man arall, "ddaw fel Eden ddwyfoledig;" gofyna, ai cerub oedd wedi myned â mab i'r Parch. David James, Capel Mawr, "i'w blanu yn y nef, mewn dwyfol ardd;" dymuna ddaioni i bar ieuanc newydd briodi, a galwad "i gario dwyfol goron." Fe deilynga Owain Glyndŵr arwrgerdd o "ysbrydoliaeth awen berffaith Nef." Ac yn yr un ysbryd, mae yn debyg, fe ddymunir i Mr. Price y Rhiwlas am ganiatâu i fyfyrwyr y Colegau rodiana yn ei barc, heblaw "mil fyrdd o fendithion "—a buasai hyny yn weddol am gymwynas mor fechan,-gael ei "arwain mewn cerbyd dysgleiriach na'r wawr, i'w orsedd yn nghanol angylion!" Mae yr olwg ar y meirch yn eu gwaed yn marchdai Owain yn un "a grynai galon byd." Mae yn anımheus genym a oedd pelydrau cryfion dysgeidiaeth bur Owain yn "tywynu trwy ei wyneb fel y wawr;" ac am y brenin Risiart mae yn sicr nad oedd "blodau ieuainc yn porphori ei rudd." Temtasiwn y bardd yn barhâus ydyw gorliwio, ac am hyny y mae yn lleihâu yn fawr iawn werth ei ddarluniau. Pan y mae ei lewder yn ymfoddloni ar gymaint o feiddio ag sydd yn angenrheidiol i “gydfyned âg anian,” y mae yn gweithio yn rhagorol; ond nid yn anfynych y mae yn methu cael hyny yn hanner digon anturiaethus, ac yna y mae ei ddarlun yn myned yn anferthlun. Mewn cysylltiad â hyn fe ellid crybwyll ei hoffder o ryfeddnodau. Mae y rhai hyn yn cael eu hau yn y llyfr hwn yn rhyfeddol o dew. Mae ymddiried yr awdwr mor wan, naill ai yn rhyfeddolrwydd ei bethau, neu yn nealltwriaeth ei ddarllenydd, fel y mae o hyd yn gosod i fyny ryfeddnodau. Rhaid rhyfeddnodi ffaith mor syml ag fod Owain Glyndŵr yn cael gweini arno yn ei afiechyd olaf gan ei ferch, a dwbl ryfeddnodi y ffaith fod Dafydd Ionawr "gwedi y mawredd gyda meirwon." Mae y bardd yn rhyfeddnodi yn ddiddiwedd yn ei gyffelybiaethau. Pe byddai y darllenydd mor ffol â chymeryd ei gamarwain gan y rhyfeddnodau yn y rhai hyn, fe fyddai wedi dyhysbyddu ei sylw ar wahanol ranau y cyffelybiaethau yn y fath fodd fel na feddyliai ond ychydig am y peth ag y mae y gyffelybiaeth yn cael ei gwneyd er ei fwyn. Y mae Homer yn fynych yn hirwyntog yn ei gyffelybiaethau; ond ganddo ef rhaid i'r gyffelybiaeth oll, pa mor fyw a chyflawn bynag fyddo y dar. lun, wasanaethu i ddangos y peth sydd ganddo dan sylw. Mae Hwfa o'r ochr arall yn colli ei anadl wrth waeddi fel, nes y mae ei felly, o angenrheidrwydd, yn myned yn eiddil. Gwelsom fel mewn un lle ganddo yn myned â pharagraph cyflawn iddo ei hun, ac y mae felly yn y paragraff nesaf yn gorfod edrych yn ddyeithr ac yswil. Ond gwaeth o lawer na gorwneyd y desgrifiadau yn y gyffely biaeth ydyw rhyfeddnodi uwch eu pen fel pethau mor ryfedd, a thrwy hyny wanychu eu gallu i wasanaethn yr amcan o ddangos pethau a ddylent fod yn llawer rhyfeddach. Yn hyn oll y mae yni y bardd yn ddifesur; yr unig ddiffyg ydyw hunanlywodraeth. Pe buasai ganddo fwy o allu arno ei hun, fel ag i allu gweithio mewn mwy o gymesuredd, a synied yn fwy i sobr wydd, fe fuasai ei waith, tra heb fod yr an gronyn yn llai awenyddol, yn fwy gor. phenol, ac felly fe fuasai ei werth yn llawer mwy.

Y mae Hwfa Mon yn feistr gwych ar yr iaith Gymraeg. Y mae ganddo at ei alwad gyflawnder helaeth o'i geiriau goreu, ac yn fynych y mae yn eu trin gyda medr neillduol. Ond y mae mewn amryw fanau yn cymeryd hyfdra arni ag y dylasai ei barch i'r Gymraeg wèn beri iddo ymgroesi rhag y fath beth; ac y mae hyny ynddo ef yn fwy beïus o herwydd ei gydnabyddiaeth helaeth â'r iaith, a'i fod ymron yn anadlu yn ei chynghaneddion. Ceir ganddo y fath eiriau â gwyrddiog, garddoedd, geirdd, plenyd (am planedau), crynu fel berf drofiannol neu transitive (cawr yn crynu lleng i'r llwch," y daran yn "cryna'r creigiau oesol"). Am y chwimpau

66

rhyfedd mewn sillebu a geir drwy y llyfr, ni wyddom pwy sydd gyfrifol, ond y maent yn dra annymunol, ac yn annheilwng o lendid yr argraffwaith, heb sôn am ragoroldeb y farddoniaeth.

Soniem yn un o'n rhifynau diweddaf am gyfnod yn mywyd Goethe pan oedd urddas y clasuron mawrion wedi ei ddwyn i edrych i lawr ar bobpeth oedd o duedd fytheiriol, ac na allai ar y pryd dalu nemawr sylw hyd yn nod i awdwr y Robbers. Pe tueddid Hwfa Mon i fesur i gymeryd yr un cyfeiriad, fe ellid o hono farddoniaeth lawer uwch na dim a gawsom ganddo hyd yma. Ond i'r dyben hwnw byddai raid iddo fod yn llym wrth bethau sydd hyd yma wedi bod yn bur agos ato. Mae yn debyg y cai fod cryn lawer o'r celfi gwaith sydd ganddo o'i amgylch, ac y mae am lawer dydd wedi bod yn gweithio mor hwylus gyda hwynt, i'w bwrw ymaith; megys y rhyfeddnodau, y tân a'r brwmstan, ymron y cwbl o'r mellt a'r taranau, a'r holl ymadroddion eithafol. O fyfyrdod tawel a dwfn ar y gwirioneddau mawrion, ac o gymdeithas agos a charuaidd â natur, fe'i galluogid i ganu mewn goleuni ag y teimlai ei gydwladwyr yn ddiolchgar am dano fel goleuni o'r nef, a chyda theimladau a barai iddynt brofi fod ynddynt allu i'w puro a'u dyrchafu, ac i roddi cynllun i ymestyn ato a wnelai einioes iddynt fel dyddiau Paradwys.

Adgof Uwch Anghof: Llythyrau lliaws o Brif Enwogion Cymru, Hen a Diweddar. O Gasgliad MYRDDIN FARDD. Penygroes: G. Lewis.

MAE yn ddealledig fod gan Myrddin Fardd gryn amgueddfa o bethau dyddorol Cymreig o'r dyddiau gynt, ac fe fyddai yn hyfryd gan lawer, mae yn ddiammeu, gael cyfleusdra i ymgydnabyddu â hwynt. Da oedd genym weled y gyfrol hon o hen lythyrau sydd yn ei feddiant. Rhaid ei fod wedi chwilota llawer i gael gafael arnynt, ac yr ydoedd yn garedig ynddo beidio eu cadw iddo ei hun. Mae yn sicr y bydd darllen y llyfr hwn yn ddywenydd i nifer mawr o'i gydwladwyr. Cynnwysa y gyfrol 224 o lythyrau; ac eto fe ddywed yn ei Ragfynegiad, wedi yr holl drafferth a gymerasai i ddethol y rhai a dybiwyd ragoraf, y "barnai y cyhoeddwr fod dwyn allan chwarter y cynnulliad yn ddigon o anturiaeth iddo ef, gyda golwg ar a gaffai o gynnorthwy a nodded oddiwrth hyny o nifer a ymddyddorent yn hanes lenyddol ei wlad." Nid ydym yn sicr na allesid gadael allan gryn nifer hyd yn nod o'r rhai sydd wedi eu hargraffu yma; ond am y rhan fwyaf o lawer, darllenasom hwynt gyda boddhâd neillduol. Y maent oll yn llythyrau na fwriadwyd eu gwneyd yn gyhoeddus, ac am hyny wedi eu hysgrifenu gyda rhwyddineb agored sydd yn dangos hanes fewnol yr hen gymeriadau, ac yn caniatâu i ni gyfranogi o'u cyfrinach a mwynhâu y gymdeithas ddyddan a fyddai yn fynych rhyngddynt. Mae y llythyrau o eiddo Dafydd Ddu yn dra dyddorol. Wedi darllen y cyfeiriadau ato yn llythyrau Mr. J. W. Prichard a gyhoeddwyd yn y rhifyn diweddaf o'r TRAETHODYDD, fe fydd yn ddyddorol gweled a ganlyn ganddo yntau, a ysgrifenwyd yn 1806: "Yr wyf yn deall fod Sion Wm. Pritchard o Balas y Brain yn methu peidio fy erlid eto. Ysgrifenodd rywbeth yn gas am danaf medd cyfaill a welodd ei lythyr at Mr. O. Jones." Ac eto addefai ei hun yn un o'r llythyrau hyn: "Lle gwyllt, ofer ydyw Amlwch, anhawdd iawn, heb fesur mawr o ysbryd gwyliadwriaeth, ymgadw rhag deniadau'r lle; ac mae'n rhaid i'm gyfaddef (er fy ngalar), mai ychydig ddefnydd da o'm hamser a wnaethum yn ystod fy arosiad yno." Ac mewn un arall (1810): "Ni fum erioed yn trafaelio ar noson dywyllach; gwaith mawr yn cael peidio troi i'r croesffyrdd; adref y daethum yn llwyddiannus, moliant i'r Gŵr goreu, heb gael cymaint â chodwm, er tywylled y nos, a chryn lawer o ddiod yn fy mhen." Ni ddywedai J. W. Prichard am dano ond a addefai felly am dano ei hun. Creadur anwyl oedd D. Ddu; melldigedig fod y ddiod yn cael maeddu y fath gymeriadau. Fe geir yn y gyfrol rai llythyrau dyddorol o eiddo Gwallter Mechain. Dywed wrth un gohebydd: "Drwg genyf

glywed, neu yn hytrach ddarllen, bod eich iechyd wedi bod yn lled glwcus yn ddiweddar, ond ni ddywedir i mi pa un ai afiechyd gwreiddiedig ai un damweiniol a'ch blina." Drachefn: "Gofynasoch 'Pa ced?' Nês i naw-deg nag i wyth-deg. Nis gwn, ac ni ŵyr neb, pa faint yn bellach y caf ymlwybro tua thraw-caffwyf fynediad dedwydd pan ddelo yr awr. Y mae fy henaint i yn henaint lled gadarn o barth cnawd, a gwaed, ac esgyrn, ac yn ymyl dwy lath o daldra. . . . Ond na sonier am feirniadaeth. Disgynais o'r orsedd. Aed 'Pencwd yn Dincwd' yn ei ol, os felly yr haedda. Os cyhoeddwyd y Testynau leni, anfoner i mi un. Bydd yn ddywenydd ei weled er mwyn 'yr hen amser gynt.'"

Bydd yn dda gan y darllenydd gael y dyfyniad a ganlyn o lythyr o eiddo Gutyn Peris, 1828:

Fy myfyrdod presennol yw ceisio cyfansoddi ychydig goffadwriaeth am y ddiweddar wraig rinweddus, Mrs. Humphreys, gwraig H. Humphreys, Periglor, Llansadwrn, yn Môn. Merch oedd hi i Lewis Morys, y Bardd o Fôn. Gwraig gariadus, gall, elusengar, a doeth oedd hi: dywedir ei bod yn dwyn nolau a delw ei thad yn amlwg; mi a wn ei bod yn ddoniol a medrus iawn i ysgrifenu. Hynod oedd hi am ei gardd a'i llysiau, a gardd odidog oedd ganddi. Hoff oedd ganddi wahodd dieithriaid i'w gardd. Bum yno amryw weithiau-nosweithiau a dyddiau, a chefais lawer o hanes ei thad a Goronwy Owen ganddi, o dro i dro, hyd yn nod dull eu cyrff, lliw eu gwallt a'u llygaid; ac yr oedd hi yn cofio Goronwy yn was gyda ei thad, pan oedd hi yn blentyn. Canodd Goronwy Briod. asgerdd iddi, gyda'i gŵr cyntaf; nid oedd ef yn y briodas. "A thaflu'r bosan, a cherdd a chân." Gofynais iddi un tro beth oedd ystyr y fraich uchod. "O," ebe hithau, "ni bu hyny yn fy mhriodas i; ond yr oedd, y pryd hyny, yn arferol iawn mewn priodas-ar ol myned y bobl ieuainc i'w gwelyau, fyned yn ddirgel i'w hystafell wely, a dwyn un o hosanau y wraig a'r gŵr ieuanc, a myned â hwy i ganol y dyrfa, lle bai'r delyn, a'u taflu hwy i fyny, ac ar ben pwy bynag y disgynai yr hosanau, y rhai hyny a briodai gyntaf."

Nid oes dim llythyrau yn yr holl gyfrol yn fwy difyr nag eiddo Nicander at Eben Fardd. Am ryw reswm ni chrybwyllir hwy yn y cynnwysiad. Y mae, yn wir, dros gant o dudalenau yn y llyfr na chyfeirir atynt yn hwnw. Y mae Nicander yn dangos barn ragorol, calon hynod o garuaidd, ac yn ysgrifenu Cymraeg croew llafar gwlad mewn dull hynod o hapus a naturiol. Cyfeiria mewn un a ysgrifenodd yn 1841, a chyda theimlad bachgen, at englyn digrif a wnaethai mewn Awdl i'r Gwan. wyn, i'r Gog. Yr oedd wedi chwerthin fel ffwl, meddai, am ei ben, nes oedd ei ochrau'n merwino :

Gwiw yw cân y gwccw-yr un o hyd

O ran hon yw 'r gwccw;
Enwog yw cân y gwccw,
Unig accen y gwccw.

[ocr errors]

Dywed ei fod wedi rhoi'r un gair yn niwedd pob llinell (er yn ddeusill ac unsill bob yn ail), yn gystal i ddynwared y gôg ag o spite i'r beirdd a'u rheolau. 'Ydych chwi ddim yn synu," gofyna mewn un llythyr, "fod Ellis Owen am alw gwaith Dewi yn 'Flodau Arfon?'" Yr ydoedd yn gobeithio o'i galon, meddai, na welai byth Gymro yn Esgob; a'r rheswm rhyfedd a roddai am hyny mewn llythyr arall ydyw, "na adawai yr Ymneillduwyr lonydd iddo ymyrent âg ef yn barhâus." Felly Difyr iawn yw llythyr lle y sonia fel y byddai John y Gwindy (y Parch. John Owen, Ty'nllwyn, wedi hyny), John yr Ynys Galed, ac yntau, "wrth ddyfod o ysgol Llanystumdwy, yn eistedd am gryn ddwyawr yn yr haf, ar ben pompren Bryny beddau, i ddifyru eu gilydd â straeon, agos bob dydd.” Dywed fod Mabinogion ysgol Llanystumdwy yn cynnwys tua thri neu bedwar dwsin o'r straeon difyraf. "Rhown fy nain am eu gweled yn argraffedig mewn llyfr." Dyma un o straeon John yr Ysysgaled: Yr oedd pedair neu bump o wragedd yn

« PreviousContinue »