Page images
PDF
EPUB

wrth y ty. Mi fum bedwar mis yn gorwedd yn fy ngwely heb allu chwimiad oddi yno, ond trwy gynnorthwy gan eraill; ac nis medraf eto ond braidd codi o'r gwely at y tân, ac ymlwybran rhyw ychydig wrth fy ffon tua'r drysau. Yr wyf yn gobeithio trwy Dduw y deuaf i fyny eto i allu myned a dyfod i wneuthur fy negesau, &c. Mi a yrrais lythyr at Mr. D. Davies, yr Optician; yr wyf heb gael ei atteb hyd yn hyn. Os digwydd i chwi gael llythyr oddiwrtho ef, a chrybwyll am danaf fi, a wnewch chwi fod mor fwyn a gyrru attaf. Cofiwch fi at Mr. G. Owen a'i wraig; a'ch mam, a'ch gwraig eich hun hefyd. Felly byddwch wych, a llwyddiant arnoch a'r eiddoch oll, medd eich hen gyfaill diffuant,

J. W. PRICHARD.

Pan ddelo fy mab William yna i dalu yr ardreth, fe dâl i chwithau arian y llyfrau.

Bwthyrhelbul, Awst 5ed, 1813.

Fy hen Gyfaill gwiwgof,

Diolch yn llaes a fyddo i chwi am eich mwynder a'ch caredigrwydd i fy nwy ferched pan fuant yng Nghybi; yr wyf finnau yn gobeithio y caf eich gweled chwi a'ch tylwyth unwaith ettwa yn eich pabell eich hun yn iach-lawen. Buasai yn ddy wenydd calon gennyf pe gallaswn ddyfod i'r Gymanfa; ond gorfod arnaf aros gartref mal anifail wrth râff, neu a prisoner on parole of honour. Dyma fy unig fab wedi rhoddi ei fys mewn torch aur; ac fe fydd y dorch hon yn glô didor arno hyd angau. "Nis gwiw dadl wedi barn."

A glywch chwi hyn, fy hen gyfaill; a oes yna yng nghymydogaeth Cybi lawer o Lysieuyddion, Botanists? Y mae fy hen gyfaill gwiwglod, H. Davies, A.M., Person Abergwyngregin, yn argaffu Llyfr Llysieuyddiaeth na bu erioed o'i gyffelyb mewn iaith yn y byd. Y mae'r Hen Gorph wedi bod er's mwy na deugain mlynedd yn ymlusgo ar hyd creigiau, clogwyni, ceunentydd, corsydd, ffosydd, coedydd, moelydd, dolydd, a mynyddoedd, trwy holl Gymru, a llawer o wledydd Lloegr a Sgotland, yn chwilio yn eithaf manwl a dyfal am bob math o lysiau y sydd yn tyfu wrth anian ac o honynt eu hunain yn y deyrnas hon. Y mae efe yn rhoddi desgrifiad o'r amrafael lysiau ynghyd a'u rhinweddau, ac yn eu penodi ac yn eu henwi yn Groeg, Lladin, Saesneg, ac yn Gymraeg; ac wedi cymmeryd trafferth a helbul nid bychan i gysoni a threfnu yr holl enwau gwahanredol, mal na bo achos i neb gymmeryd y naill lysieuyn yn lle'r llall. Y mae Mr. Davies yn un o'r gwyr mwyaf addas i'r gorchwyl hwn yn Nghymru na Lloegr, o herwydd y mae efe yn ysgolhaig mawr yn yr iaith Roeg a'r Lladin, ac yn Gymro anaml ei gyfryw, a thueddiad cynhwynol yntho er yn ei ieuengetid i chwilio ac amlygu ansawdd, trefn, a dull amrafaelion bethau mewn anianyddiaeth; ond yn bendifaddef, ei fyfyrdod a'i feddylfryd a redodd ar ol Llysieuyddiaeth; a thyma ei lafur a'i orchwyl ar dymp esgor, mal y gallo pawb trwy Gymru a Lloegr ddyfod i ganfod gwerth y pethau y maent yn eu sathru mor ddiystyr o dan eu traed. Fe fydd y llyfr yn barod i ddyfod allan o'r argraff-wasg ym mhen y ddeufis o'r hyn pellaf. Mi a welais barth mawr o hono wedi ei argraphu yn deg ar bapyr da. Nid oes dim yn anorphen o hono, ond Hanes a threfn Llysieuyddiaeth yn ol dull Lineus, a'r Appendices. Pa beth meddwch? A oes yna yn nhref Cybi rywrai a gly want arnynt fod mor galonog a rhoddi eu henwau mal y caffont y llyfrau tra buddiol hyn? Fe allai y gwna Lady Stanley roddi ei henw am lyfr neu ddau. Y mae Mr. Panton wedi subscribio am ddeuddeg o honynt, fel y gallo eu rhoddi yn anrheg i'w gyfeillion; dyna i chwi hen Fachgen iawn. Yr wyf yn ofni y bydd y llyfr hwn yn rhy ddrud i bobl gyffredin gael gafael arno; ond y mae yna yng Nghybi ddigonedd o wŷr boneddigaidd, a'r arian yn amlach yn rhedeg yn eu dwylaw na thom yr heolydd.

Yr wyf wedi hybu yn lled lew, ond bod y morddwydydd a phen y gliniau yn dra anystwyth a lled weiniaid; ond hyn sy wir, yr wyf yn fil gwell nag y disgwyliais fod, ac nac y disgwyliodd neb arall a'm gwelodd yn fy nghystudd. Will you be so kind as to offer my most humble respects and compliments to my Lady Stanley, and I hope that her Ladyship will have the candour and goodness to accept the same. Buaswn wedi dyfod i Gybi ac i Benrhos er's llawer dydd, oni bai fy mod cyhyd yn garcharor tan gystudd; ond dyma fi unwaith ettwa a'm traed a'm dwylaw yn rhydd. ion, a thrwy gennad Duw, mi a ddeuaf yna pan gryfhawyf ychydig ragor; canys bydd hyny, ysgatfydd, yn gymhorth i adferu fy iechyd ac i loni fy ysbrydoedd a'm

[ocr errors]

corph hefyd, y sydd weithon yn ddigon hwyrdrwm a llesg. Dyma i chwi Bank note punt a chweigaint o arian yn dâl am y llyfrau Daearyddiaeth a ddaeth yma. Rhyfedd a'r cwyno y mae'r bobl am na bai'r rhanau yn dyfod allan yn amlach; y mae rhai o honynt yn dywedyd eu bod ar ddiflasu o herwydd eu bod cyhyd yn disgwyl wrthynt. Da chwi, rhoddwch ychydig o eiriau teg i'n boddloni ar y papyr glas yn y rhifyn nesaf a ddel allan o'r wasg, ac ysgatfydd na wna hynny y tro i'w boddloni. Y mae'r bobl yn gyffredin yn ty bio nad ydyw gweithio llyfrau ddim mwy o boen na chwareu singe cap, neu dosio llyffant. Er mwyn dyn, cofiwch fi gyda charedigrwydd a diolchgarwch at eich gwraig; cofiwch fi hefyd at Mr. G. Owen a'i wraig; a phan weloch Mr. William Jones, y Siopwr, dywedwch wrtho ef fy mod etto yn fyw ac yn cofio atto ef. Mi a glywais fod ei wraig a'i fab wedi marw. Yr oedd pawb a'm gwelodd yn fy nghlefyd yn fy nghyfrif innau fel marw, ond wele, trwy Dduw a'i drugaredd, byw ydwyf. Nid oes gennyf ddim newyddion i'w adrodd wrthych. Dysgwyl rwyf y bydd gennyf nithlenaid o fân newyddion ar fyrder, ond gobeithio y boddlonwch ar hyn hyd y tro nesaf. Hen y bych well, medd eich ewyllysiwr da tra bwyf,

J. W. PRICHARD.

Brysiwch 'sgrifenu y llythyr mawr a soniasoch yn y llythyr diweddaf a 'sgrifenasoch attaf. Os digwydd i chwi weled Mr. Wm. Owen, y Chwaenwen, soniwch wrtho am y Llysieulyfr; feallai y bydd blys arno gael un o honynt. Os bydd rhywrai o wyr Cybi yn dewis cael y Llysieulyfr, anfonwch eu henwau attaf, a minnau a'i gyrraf i Mr. Davies, ac ef a fydd yn rhwymedig iddynt hwy ac i chwithau am eich mwynder.

Plasybrain, Hyd. y 15fed, 1883.

Fy hen Gyfaill mwyn,

Mi a gefais eich llythyr lle yr oeddych yn crybwyll eich bod wedi cael arian y rhanau Daearyddiaeth yn gyflawn. Y mae'n dda gan i hyny. Mi fum ym mhellach oddicartref yr wythnos ddiweddaf nag y bum er's pymtheg mlynedd. Mi fum tros Fenai a thros wlad Arfon, Dinbych, a rhan o Swydd Fflint. Diben fy nhaith ydoedd cymeryd tyddyn o dir i fy mab William i fyned iddo i fyw, yr hyn beth a wnaethum trwy gymhorth fy anwylaf gyfaill, Paul Panton, Ysw., yr hwn sydd bob amser i mi fel tad. Tre Ifan y gelwir y tyddyn, ym mhlwyf Llanidan y mae'n sefyll, ac y mae yn un o'r tyddynod goreu yn Mon. Ar hyd braich yr ydoedd y lle gan Mr. Williams, Llanidan, mewn lease, er's mwy na deugain mlynedd; felly nid oedd na thrais na phechod na melldith ei ddwyn o'i grafangau. Syr John Williams a biau'r tyddyn. Mi a wn y bydd yn dda ganthoch glywed y newydd. A fyddwch chwi mor fwyn a dywedyd hyn i Lady Stanley: yr wyf yn gobeithio y bydd yn dda ganthi glywed fod fy mab mor lweus a chael lle i fyw wedi iddo briodi. Mi a wn eich bod wedi clywed cyn hyn, ac os na chlywsoch, y mae efe wedi myned tan yr iau a rhoddi ei law i fenyw ieuanc, merch John Roberts, Tynybuarth, yr hwn sydd yn hen Gorph a chodau llawnion, a digon o foddion i roddi y bobl ieuainge mewn bywoliaeth. Yr oedd cymaint o ymryson am Dre Ifan a phe buasai election; ond P. Panton a en. nillodd y gamp er gwaethaf pawb, ac mi gefais y lle yn is o ardreth nag yr oeddid wedi cynnyg am dano o ugeiniau o bunuau! Er mwyn fy nghyfaill P. Panton yn unig. Dyna gyfaill a dâl ei gofio. Please to offer my most humble compliments and respects to my Lady Stanley, and be so good as to tell her that I hope I shall be able to see her once more in her hospitable mansion.

Er mwyn eariad, 'sgrifenwch labi o lythyr eyn gynted ag y medroch, a dywedwch yntho pa fodd yr oedd Lady Stanley yn hoffi y newydd am fy mab, &c. Yr wyf wedi gwellhau yn fy iechyd a'm nerth yn rhyfeddol. Ni chlywais i air son fod Syr John Stanley yn y wlad hyd onid ydoedd agos ar gychwyn allan o honi, onidê, buaswn yn dyfod yna i gyfarch gwell iddo ef a'r eiddo oll. Yr eiddoch mewn brys mawr,

J. W. PRISIART.

Cofiwch fi at eich gwraig, Gr. Owen, Mr. Ed. Roberts, ac at eich mam, a dywed. wch wrthynt fy mod yn bwriadu (os Duw a'i myn) ddyfod eto i Gybi yn fy nghryn. swth.

Plas y Brain, Mai y 15fed, 1815.

Fy Nghyfaill anwyl,

Mi a dderbyniais eich llythyr mwyn a charedig, ac y mae arnaf lawer o rwymedigaeth i chwi am eich caredigrwydd. Mewn perthynas i fy merch Margaret, y mae eich cynnyg yn fwyn ragorol, ond ofni yr wyf mai nid peth hawdd a fydd ganthi hi ddyfod yna i rodiana; ond os bydd hi yn dewis, mi roddaf gennad iddi ddyfod yna pan fyno.

Pan wneloch y Map yn barod, mi a wnaf fy ngoreu am ei ddiw 08 velaf eisiau. Cofiwch am 'sgrifenu fel yr oeddych yn son gydag inc coch, lle byddoch yn tybio fod gwall neu eisiau. Da chwi, hysbyswch eich meddyliau yn ehelaeth ar y pyngciau y byddoch yn tybio yn angenrheidiol, &c. Cofiwch fi yn eithaf caredig at Mrs. Roberts, eich mam, a Mr. Griffith Owen. Gobeithio fod fy nghyfeillion yn Nghaer St. Cybi oll yn iach. Yr eiddoch mewn brys, cyn cychwyn i ffair Llanhwyr. fai,-nid Llangefni y gelwid y lle gynt; Sant Cyngar ydoedd enw y plwyf hefyd. Y mae'n rhaid i mi dewi, dyma'r gennad ar gychwyn. Byddwch wych, medd eich hen gyfaill tra bwyf,

J. W. PRICHARD.

Brysiwch â llenaid o lythyr yn fuan, fuan.

[ocr errors]

Plasy brain, 21st. Nov. 1816.

Fy Nghyfaill hynaws,

Wele unwaith ettwa gyfleu i'ch annerch ac i hysbysu fy mod yn fyw. Nid oes genyf ddim newyddion i'w hadrodd i chwi; mi a glywais echdoe fod y Daearyddiaeth wedi dyfod i Langefni; mi a yrraf i'w cyrchu hyd yma y boren foru, ac mi a'u dosparthaf cyn gynted ag y gallwyf. Er mwyn cariad a hen gymdeithas, rhoddwch fy ngwasanaeth a'm hannerch yn dra charedig at eich gwraig, ac yn yr un ffunud hefyd at Mr. Griffith Owen a'i wraig, a'r Capt. Evans, a'ch mam. Nid oes genyf ddim amser i 'sgrifenu rhagor weithon, ond yn unig dywedyd fy mod yr eiddoch yn ddiffuant tra bwyf,

J. W. PRICHARD.

Y mae fy merch Gwen wedi priodi, er's mis, gyda Richard Hughes, Taicochion, yn agos i Dalyfoel. Y maent yn dywedyd fod Miss Goodman, ei meistres, yn myned i'w phriodi gyda Mr. Massey.

Penrhos, 14th Oct. 1817.

Fy Nghyfaill hawddgar,

Dyma fi yn y fangre annuwiol hon, ac fe fu agos i mi ollwng dros gôf dynu llun yr Yspectol; ond yn rhywfodd, dyma ei llun yn lled drwsgl. Os medr Mr. Davies neu ryw Optician arall yrru i mi ddau lygad Spectol o'r un faintioli â'r llun isod, a'r Focus yn 10 modfedd, a'r gwydr yn lân ac yn loyw. [Yna ceir y darlun o'r Yspectol, gyda'r geiriau "10 inches focus, clear crystal glass," yn ysgrifenedig o fewn un o'r llygaid.]

Cofiwch fi yn eithaf caredig at Mr. D. Davies a Mr. G. O. Pugh. Nid oes dim amser i ddywedyd dim yn rhagor, ond yn unig fy mod, fel bob amser, yr eiddoch yn garedig, J. W. PRICHARD.

You may send this letter along with your parcel to London.-J. W. P.

Plasy brain, y 6ed o Fehefin, 1818.

Fy Nghyfaill hoff ac anwyl,

Cefais lawer o ddifyrwch ac addysg yn eich cyfeillach, a phrawf o'ch mwynder er's mwy nag ugain mlynedd. Yr wyf weithon wedi myned yn hen ac yn lled afiach; a phan fo un rhan o fy mhabell mewn cywair lled weddol, bydd y rhan arall yn adfeilio; a hyn sydd genyf i ddywedyd trosof fy hun am na buaswn wedi dyfod cyn hyn i Dref Gybi i ymweled a'm cyfeillion sydd hoff genyf eu gweled, ac nid wyf yn ammau nad oes rhai o honynt a fyddai yn ddiddanwch ganddynt fy nghymdeithas

innau. Yr wyf agos er's wythnos, fel iâr orllyd, heb allu ymlwybran ond ychydig pellach na'r beudy a'r ysgubor; ond y mae hyn yn ddifyrwch ac yn ddywenydd mawr genyf, fod yn gallu cyfarch fy hen gyfeillion yn y modd hwn, pan nad allwyf ymddiddan â hwynt wyneb yn wyneb. Wele, fy nghyfaill anwyl, pa fodd, a sut y mae arnoch? Pa fodd sy ar eich gwraig a'ch plant? A pha fodd a pha ddelw sydd ar eich mam, a'ch brawd Owain ? Ni bu dim cydnabyddiaeth ermoed rhyngof &'ch brawd Owain, ond mae yn hoff genyf bawb o'r gwehelyth, yr mwyn yr hen gydnabyddiaeth a'r cyfeillach a fu rhyngof â'ch tad er pan oeddwn yn laslanc. Pa fodd hefyd y mae ar Mr. Griffith O. a'i dylwyth? Y mae ef a minau wedi hanu o'r un grifft. A rowch chwi genad i mi gyfarch y Capt. Evans? Mi anfonais y rhanau o'r Daearyddiaeth yn rhwym mewn papyr cryf i siop Mr. Richard Davies,+ a gobeithio y deuant yna yn ddiwall. Pa lwyddiant a chynnydd sydd ar Ddarluniad Cymru a'r Gazetteer?

Dyma fi wedi cyfarch fy holl gyfeillion yn Nhref St. Cybi; yr wyf yn cyfrif ac yn cydnabod yn ddyledswydd arnaf eu coffa yn gyntaf peth. Ond y mae genyf chwedl arall i'w hadrodd i chwi, ar ddymuniad hen gyfaill i chwi ac i minau. Mi a wn eich bod yn cofio am Edward Williams, Glanrafon. Gwr yw efe goludog yn y byd, a hardd a diargyhoedd ei ymarweddiad tuag at bawb. Ond y mae Rhaglunia th yn bresennol yn edrych yn lled wgus arno ef; y mae'n debyg i chwi glywed fod e feistr tir ef wedi priodi yn ddiweddar gyda merch Mr. John Jones y Trellan, ac y mae'n rhaid i Edward Williams ymadael i gael lle i'r priodasfab a'r briodasferch ieuangc. Y mae E. Williams wedi clywed fod rhyw ddyryswch ar y tenant sydd yn bresennol yn y Penrhyn, Llanfwrog, ac nad ydyw dynion Pentrebwlw yn cael mo'r lle hwnw fel yr oeddid yn son y llynedd. Ni byddai ddim modd i Syr John Stanley gael gwell tenant. Y mae E. W. yn werth miloedd o bunnau, ac wedi prynu llawer dir yn ddiweddar, ac yn ddyn tra synwyrol, yn trin ei dai a'i diroedd yn eithaf taclus a medrus; ac mewn gair, pe bai Syr John Stanley yn gweled yn dda osod y Penrhyn iddo ef, yr wyf yn sicr ddigon y gwnai efe sychu yr holl gorsydd a'r gweunydd gwlybion y rhai sydd yn perthyn i'r Penrhyn a'r Tywyn, ac y gwnai efe i'r tyddyn hwnw i edrych a golwg arall arno, a'r tai yn yr un modd, ac y byddai efe yn ddrych ac yn harddwch i'r holl gymydogaeth. Fe allai y gallwch chwi dybied fy mod yn dywedyd gormod am ddaioni a medrusrwydd fy nghyfaill E. Williams; ond gwy. byddwch hyn, mai nid myfi yn unig a rydd iddo ef eirda a chlod fel hyn, ond y mae'r holl gymydogaeth yn tystio'r un peth.

Mi fum neithiwyr gyda Mr. Panton yn swpera, neu'n hytrach cwynosa. Yr oedd efe yn ymofyn â mi pa bryd yr oedd pobl Penrhos yn disgwyl Syr John Stanley i'w balas yng Nghybi. Minau a ddywedais nas gwyddwn i yn iawn; ond fy mod yn dysgwyl y deuai efe a'i dylwyth yno ar fyrder. Byddai yn dda genyf os byddwch cyn fwyned a chyfieithu yr hyn a ddywedais mewn perthynas i Edward Williams. I hope you will excuse me for writing the first part of this letter in the British language; it has been my study since I was a child; and to tell you my opinion in respect of the British and the English languages, though the English language is now cultivated since more than 100 years by the most learned and ingenious writers, still it contains very great and numerous irregularities, especially in the formation of the verbs. A very learned friend of minet told me some time ago that he could speak and write the English, Latin, French, Greek, Hebrew, and -Arabic: and that the English is the most irregular language that he knew of. He also said that the British is much more copious, expressive, bold and masculine, than either the French or the English. Now I am apprehensive that I have trespassed too much on your patience with my whimsical letter, but still I hope that you will give me leave to subscribe myself yours most truly,

J. W. PRICHARD.

Y mae pawb yma yn iach ond myfi fy hun. Y mae fy merch Catherine wedi bod yma o Boughton yn ymweled â ni; nis bu hi ddim yn y wlad er's tair blynedd. Mae hi wedi myned ar frys yn ei hol; hi ydyw pen-morwyn y Dr. Currie. Y mae fy merch Margaret yn Pool Hall, yn agos i Nantwich.

* Mr. John Roberts, neu Sion Rhobert Lewis, yr " Almanaciwr" a'r argraffydd o Fodedeyrn, ac wedi hyny Caergybi.

+Tad yr Aelod dros Sir Fon.

The late Rev. Thomas Owen, rector of Scudamore in Wiltshire. He has been 35 years a Fellow in Jesus College, Oxford, and Professor of Arabic.-[Nodiad gan J. W. P.]

Yr wyf yn ofni nas gallaf ddyfod, er cymaint fy awydd, i'r Gymmanfa fawr yn Llanerchymedd; tra chwla ydwyf er's mwy na phythefnos; ond y mae fy llaw cyn ystwythed a chyn gyflymed yn ei gorchwyl ag ermoed. Cofiwch fi yn garedig at fy nghyfaill Mr. Richard Rowlands, Penrhos. J. W. PRICHARD.

Plasy brain, 19 Awst, 1818.

Fy hen Gyfaill gwiwgof,

Mi a ddisgwyliais lawer am danoch yma nos Sadwrn, yn ol eich addewid, ac mi fum mor ffol a'ch disgwyl yma o'r Belomarisco, ond fe droes y naill ddisgwyliad yn ofer fel y llall. Bellach nid oes dim gobaith am eich gweled yn Mwth y Brain byth mwyach, i gael ysgwyd llaw a chofio hen gofion gynt. Yr ydwyf fi fel iar orllyd a f'ai yn eistedd ar wyau llygredig; ac er iddi eistedd tros yspaid ei thymp i'r wyau ddeor, eto nis bydd iddi y rhithyn lleiaf o obaith am gywion hyd oni thafler yr wyau llygredig tros y nyth ac ail ddodwy. Fy nghyfaill anwyl, nid annhebyg i hyn y byddaf finnau o ran fy addewidion ambell dro; rhoi addewid heb byth ei gofio hyd oni's dyger ar gôf i mi eilwaith; a da iawn gennyf os oes ganthoch chwithau well esgus am eich addewid. Mi sgrifenais lythyr o fewn y chwech wythnos a aeth heibio at Mr. Griffith Owen, i ofyn cymmwynas gantho tros nai tylawd ac amddifad sydd genyf, ond nis clywais i byth na siw na miw oddiwrtho. Digon gwir nad ydyw cleurach mal myfi yn werth diwyno cerpyn o bapyr i roddi i mi ateb. Unwaith yn ŵr, dwywaith yn faban. Darfu hyn, a thyma i chwi chwedl arall, nid o'm hachos fy hun, ond tros fy mrawd, Evan Williams, Bodwrog, a'i fab William, a briododd o fewn y dwy flynedd neu dair gyda merch i William Parry, Cefncaerfôr (neu yn hytrach Cefn Caer Ifor), ac nid oes ganddynt ddim lle i fyw; ac y mae'n debyg eich bod yn cofio fy mod yn son ryw amser a aeth heibio am Dre Gwehelydd; ond fe gipiodd Robert Hughes y lle y tro hwnw, megys rhwng fy nwylaw. Yr wyf yn deall fod y lle yn rhydd eto, a bod yn gorfod i Robert Hughes ymadael. Wele, fy hen gyfaill mwyn, a fyddwch chwi mor garedig a chymwynasgar a 'sgrifenu yn ddioedi at Syr J. T. Stanley cyn iddo ef ddyfod i'r wlad, i ofyn ei ffafr tros fy nai William, am Dre Gwehelydd. Y mae gan fy nai ddigon o feddianau i drin y tyddyn hwnw ei hun, ac y mae efe yn wr ieuange gwybodus am drin tir, ac yn ddyn diwyd a gweith. gar; ac y mae fy mrawd, Evan Williams, a William Parry yn addaw yr aent hwy ill deuoedd yn feichiau am yr ardreth, ac am drin y tir fel y bo addas yn mhob modd, ac am gadw y tai, y cloddiau, y ffosydd, a phob peth arall mewn cywair a threfn gymhwys yn mhob peth; ac yr wyf yn meddwl y bydd yn anhawdd i Syr John gael gwell tenant yn y wlad hon. Yr wyf yn ymbil arnoch, er mwyn hen gyfeillach a charedigrwydd, ysgrifenwch cyn gynted ag y bo modd at y gwr bonheddig, cyn y delo efe i'r wlad; a dywedwch wrtho ef yn y modd ag y 'sgrifenais innau yma, ac y mae'r cyfan yn wir diammheuaeth a ddywedais am dano ef. Gofynwch ryw amcan am yr ardreth y mae Syr John yn ei feddwl gael am y lle, &c., a gyrrwch eich atteb ymaattaf fi fel hyn, cyn gynted ag y bo modd: J. W. Prichard, Plasy brain, care of Mr. R. Davies, Postmaster, Llangefni.

Dyma fi newydd dderbyn anferth o lythyr, a llonaid ei berfedd o newyddion o draw ac yma, peth yn Gymraeg a pheth yn Saesneg, a phwt o gerdd Seisnig yn achos Pont Porthaethwy a'r daroganau am dani o waith y Beirdd er's mwy na thri chan' mlynedd. Y mae efe wedi rhoi hanes go helaeth am rai manau ar derfyn y Menai. Y mae'r Llwyd yn bwriadu dyfod i'r wlad yma ar fyrder, ac i Fwthybrain. Y mae efe yn son er's dwy flynedd neu dair am gyhoeddi gwaith go fawr, a'i alw "A View from the Snowdon, with Historical Notes. By R. Llwyd, Bank Place, Chester." Rhaid tewi bellach. Henffych well, medd

J. W. PRICHARD.

Yr wyf yn erfyn arnoch yrru llythyr o atteb i John cyn gynted ag y medroch.

Bodedeyrn, Medi 13eg, 1819.

Fy Nghyfaill hawddgar,

Derbyniais eich llythyr o law Morys Williams, Plasgronwy; er nad ydoedd ond chwedl mewn tafarn, yr oedd yn llawer gwell genyf ei gael na "ChwedÏ blaen tafod." Mi a ddaethum i'r fangre hon i wrando ar Ustusiaid yr Heddwch yn ym. daeru a'r Tylodion, a minnau fel hen wrach â'm bys yn y browas. Mi a glywaf fod

[ocr errors]
« PreviousContinue »