Page images
PDF
EPUB

Fy Nghyfaill hawddgar,

Plasybrain, y 10ed o Hydref, 1810.

Mi fum ddoe yn Moelfra yn dal mul, ac yr oedd yno ugeiniau yn dal mulod fel finnau; ac mi gefais werth ceiniog o synwyr, ond nid heb chwys ar fy nhalcen. Y mae llawer o son am synwyr; ond y mae mwy yn son am dano nag a'i medd. Mewn perthynas i gynllun y Daearyddiaeth, nis cefais i braidd siarad gair a'r Capt. Evans, dim ond gofyn yn gwta, "How do you do, Mr. Evans?" &c., ac yna encilio fel cian â'i gynffon yn ei afl. Dyma'r cynllun i chwi yn ei ol; nis rhof fi na bys na bawd arno hyd oni ddeuwch yma eich hun, modd y caffom ymddyddan ac ymbyncio wyneb yn wyneb. Nid teg fyddai i mi ddiwyno eich gwaith, na chyfnewid dim arno, oddieithr eich bod yn gyd-ddrychiol; felly, fy hen gyfaill anwyl, brysiwch yma, fel y caffom ymgomio o ddechreunos hyd y cyfddydd. Cofiwch fat bawb a'm caro, a Henbych well medd eich cyfaill diffuant,

J. W. PRICHARD.

Nid oedd genyf faint y mymryn o hamdden nac amser i'ch cyfarch pan fum y tro diweddaf yn Nghybi; yr oedd yn rhaid myned i ffau'r Llew erbyn 11 o'r gloch. [Ar gyfeiriad y llythyr hwn ychwanegir, “Da chwi, gyrwch y llythyr hwn yn ei flaen cyn gynted ag y bo modd."]

Fy hen Gyfaill mwyn,

Plasy brain, Rhagfyr yr 22ain, 1810.

Mi glywais fy mab William yn dywedyd mai chwychwi oedd yn derbyn ardrethion Syr John Thomas Stanley eleni. Yr oeddwn yn meddwl dyfod i Ben. rhos fy hunan; ond mi a friwais fy nghoes, ac y mae briw arni er's agos i bythefnos. Mi fum ddoe o'r boreu hyd lawer o'r nos gyda Mr. Panton o'r Plasgwyn. Y mae efe yn myned yn fwynach fwynach bob blwyddyn, ac yr ydym yn gryn gyfeillion; ym. ddyddau a photio lawlaw agos bob mis, ie, weithiau ddwywaith neu dair yn yr wythnos ar ryw achosion. Mi soniais wrtho ef ddoe eich bod yn bwriadu argraffu Geography yn Gymraeg, &c. Dymunodd arnaf ddywedyd wrthych am roddi ei enw ef am un o'r Daearyddiaeth, a rhowch fy enw innau am un o honynt hefyd. Yr wyf yn ofni wrth yr hyn a fynegwyd gan fy mab i mi, wedi iddo fod yna yn talu yr ardreth, y bydd Plasy brain o hyn rhagllaw yn ddrutach nag y bydd modd i mi, ïe, na neb arall, dalu am dano. Yr oeddwn yn gobeithio y gadawai Syr John le i mi a'm plant gael bywoliaeth fel rhyw dyddynwr cyffredin arall; nis gwiw i mi na'm tylwyth ddysgwyl bywoliaeth fras a boneddigaidd mewn tir mor ddiffrwyth a dirinwedd ag ydyw Plasy brain; ac heblaw ei fod yn ddiffrwyth a dirin wedd, y mae peth arall arno sydd waeth na hyny, sef y Damp, math o glwyf ydyw ar yr anifeiliaid a fo'n pori ar y tir; ac y mae'r clwyf hwn yn gwneuthur i'w holl gymalau fyned o'u lle, ac yn eu gwneuthur mor gloffion fel nas gallant gerdded un cam ond ar ben eu gliniau; ac oni b'ai fod genyf dir o anian arell, yr hwn yr wyf yn ei ddal o hyd braich, nis gwn i amcan pa fodd y buaswn yn cael ond bywoliaeth dlawd a helbulus; a thyna'r lle y mae Hospital fy ngwartheg y digwyddo'r clwyf hwn ddyfod arnynt. A hefyd, pan ddigwyddo i'r haf fod yn sych, nis bydd cymaint ag un ystenaid o ddwfr i'w chael i ddyn nac anifail yn yr holl dir. Gorfod i ni eleni gario dŵr mewn trol at wasanaeth dyn ac anifail, o'r 25ain o fis Gorphenaf hyd yr 28ain o Fedi, oddieithr rhyw ychydig a ddelid o wlaw o dan y bargodydd; ac y mae'n debyg y bydd mwy o anghyfleusdra yn perthyn i Blasy brain o byn rhagllaw, o herwydd y mae oddeutu 18 erw neu ragor o hono yn perthyn i Earl of Uxbridge, a'r tir hwnw yn rhedeg trwy ei ganol o benbwygilydd, ac y mae'r Earl yn bwriadu ei osod ar ei ben ei hun. Ac y mae darn arall o dir yntho yn perthyn i Mr. Hampton Jones, ac y mae'r Major wedi dywedyd wrthyf nas caiff ei dir ef ddim bod yn perthyn fel darn o Blasy brain byth mwyach. Y mae'r ddarn dir yma yn dair erw a rhagor; a 'sywaeth i mi, yr wyf wedi adeiladu Odyn galch ar y tir hwnw yn fy anwybodaeth, ac felly, rhwng pobpeth, nis gwn i yn iawn pa beth a ddaw o honof yn fy henaint, &c.; fe fydd yn dorcalon os gorfydd i mi ymadaw o ethryb fod y lle yn rhy ddrud; ond yr

* Mae yn rhaid fod y "potio" hwnw ar ei ran ef yn beth pur ddiniwed, canys yr ydoedd yn hynod o ofalus yn ei arferion, a deallir iddo ymddyeithro oddiwrth fwy nag un o raio gyffelyb chwaeth iddo ag y gosodai yn naturiol werth ar eu cyfeillach, yn unig o herwydd eu gwendid gyda'r ddiod feddwol.

wyf yn gobeithio y tostaria Syr John wrthyf, ac nas rhaid i mi adael mo'm hen lety hyd onid elwyf i'r Bedd, ac yna nid rhaid byth gwyno o achos pethau bydol. Fe allai, pe baech yn dangos y llythyr hwn a fy nghwyn i'r Arglwyddes Stanley, y medrai hi fod yn rhyw gynnorthwy i mi; o herwydd mi a glywais lawer o son am ei mwynder a'i haelioni hi a'i thylwyth; ac yr wyf yn hollawl gredu am ei boneddigeiddrwydd a'i rhadlondeb, nas ewyllysiai hi byth weled neb o ddeiliaid ei thir yn gwisgo carpiau. A bendith Duw fo arni hi a chwithau. Er mwyn cariad a hen gymdeithas, a oes modd i gael dim llythyr oddiwrthych byth mwyach? Ac fe fyddai yn wych odiaeth genyf gael un o'ch Proposals i'w ddangos i rai gwŷr mawrion y rhai yr wyf yn gydnabyddus â hwy. Yr oedd P. Panton, Ysw., yn dywedyd y byddai darluniad hardd o Gymru yn beth tra dymunol i'w roi yn eich Daearyddiaeth, ar scale o ddeutu 18 hyd yn 20 modfedd bob ffordd; ac yr oedd efe hefyd yn dywedyd mai peth tra ffol fyddai i chwi roi enwau gwledydd, dinas edd, moroedd, mynyddoedd, afonydd, &c., ond yn y ffordd gyffredin yn y mapiau Seisonig, oddieithr enwau yn perthyn i Dywysogaeth Cymru yn unig. Bellach mi a dawaf am hyn o dro, gan obeithio y byddwch yn eiriolwr trosof, ac y rhowch genad i mi fel cynt i'm galw fy hun eich cyfaill yn ddiffuant tra bwyf,

J. W. PRICHARD.

Fy Nghyfaill diffuant,

Plasy brain, Ionawr y 27ain, 1811.

"Cyfaill cywir, yn yr ing y gwelir." Mi a dderbyniais eich llythyr tra mwyn a charedig, yr hwn a 'sgrifenasoch y 14eg o'r mis hwn. Yr oedd yn hynod o dda genyf ei gael, o ethryb yr wyf yn lled drwmgalon er's dyddiau, ac y mae ambell bwt o lythyr oddiwrth gyfaill yn adfywio ac yn lloni fy nghalon. I always entertained thoughts that Old England was a land of Liberty, but to my sorrow, I find it otherwise. I have but one son, and I am now compelled to pay twenty pounds for his liberty; and that liberty will last but four years. This is the Liberty of England so much spoken of! Nid all Rhyddid B-te fod onid ychydig waeth! Yr wyf yn tybio y medraf gael rhyw swrn o enwau at eich Daearyddiaeth; y mae genyf eusus (nid eisoes) enwau dau neu dri o ŵyr mawrion ein gwlad, ac yr wyf yn tybio y medraf gael rhagor o naddynt a fo parod i gefnogi eich gorchwyl. Ysgatfydd y medraf gael enwau 12 neu ragor. Y mae'n dda dros ben genyf eich bod wedi adrodd fy nghwyn wrth yr Arglwyddes Stanley. Mi gefais yn ddiweddar Ddarluniad (Map) hardd o dir y Iarll Uxbridge, yr hwn sy'n rhedeg trwy ganol Plasy brain o eithaf bwygilydd. Un o Oruchwylwyr yr Iarll a'i dodes i mi: Mr. John Corris a wnaeth y Darluniad; ond meddwl yr wyf mai copy ydyw allan o waith Mr. Rinolds, neu Mr. Townley, dau o fesuryddion tra medrus a chywrain yn eu hamser. Yr wyf finnau yn bwriadu gwneuthur darluniad o'r unrhyw ddryll o dir ar fyrder, yn ol y buwyd yn ei ddangos i mi gan hen ŵr ydoedd gynt yn fyw yn y gymydogaeth yma; ac yr wyf yn meddwl na chydsaif y terfynau yn gyson â'u gilydd ymhob man. Ond nis gwn i amcan pwy a dâl i mi am fy nhrafferth: yr wyf wedi bod yn rhy ffol er's talm, wrth roi cymmaint o chwys fy wyneb yn adeiladu tai a chloddiau cerrig ar diroedd nas gwyddwn amcan pwy a'u pioedd; ac nis caf gymmaint a diolch gan neb am fy holl draul a'm helbul.

I think it will be the best way for you to send your letters to me per post, addressed thus,-J. W. Pritchard, Plasy brain, care of the Postmaster at Llangefni, or something else to the same purpose; ac mi a gyfeiriaf finnau fy llythyrau atoch yn y post yn yr un modd. Mewn perthynas i'r geiriau grybwyllasoch, nid amgen Battery, Fort, &c., mi a fum yn ystyried am danynt, a chwi a'u cewch yn rhestr, a geiriau Cymraeg priodol iddynt gogyfyngwydd a phob un, yn nesaf ag y gellais yn ol dull cyffredin y wlad; a fy marn i ydyw, mai gwell arfer geiriau Seisnig, os nas gellir cael rhai Cymreig a fyddo'n ddealladwy ac eglur.

Battery, ergyd-le.

Fort, gwerthyr, amddiffynfa; Gwerthyr Trefeibion yn Aberffraw, Gwerthyr Bod. nolwyn, Gwerthyr Penbol, Gwerthyr Padrig, are old British Fortifications, having very deep intrenchments, and a breast-work between the intrenchments. Peninsula, penial, esgar; Penial in Llanfwrog, and Esgar in Cemlyn.

Ridge, trum; y Drum in Llanbadrig is a ridge, and known by no other name but Drum.

Chain, cefn mynyddig; as Cefn Uthrgroen in Carnarvonshire, Cefn y Cwmmwd in Anglesey, Cefn dwyffrwd, Cefn helig, Cefn Ithal.

Revenue, Elw blynyddol, teyrn-elw, elw-gwladol, &c.

Ocean, yr eigion.

Ni thaw fy mhen am Weno

Mwy na'r Aig ym min y Ro.

Bay, mor safn, as Safn y Traethcoch, Red Wharf Bay; Safn Dulas.

Amphibious, nid medraf fi gael dim gair Cymraeg i gyfateb iddo yn gyflawn; fe allai y byddai yn well arfer y gair amphibious, ac amlygu ei arwyddocad ar ei ol. Ysgatfydd y gellid galw amphibious, gwylanawg, a hyny yn ddigon priodol, oddiwrth gwy a glàn, ond pwy a'i deallai? Nid un o fil.

Promontory, garth, as Pengogarth, y Garthlwyd: and also penrhyn; as Penrhyn gwybedog, and Penrhyn in Penmon, which are promontories; ac er nad ydynt ond bychain, dyna'r peth y mae'r gair yn arwyddo yn y wlad.

Da chwi, fy hen gyfaill mwyn, peidiwch ag arfer iaith chwithgam y Llundeinwys; y mae Iolyn Morganwg wedi eu pensyfrdanu; cymmerwch ddull 'sgrifenyddiaeth y Bibl yn rheol, yn enwedig yr argraffiadau a ddaethant allan yn y flwyddyn 1746, ac 1769. Mr. Rhisiart Morys ydoedd golygwr y rhai hyn; ac y mae pawb yn cyfaddef mai Cymry anaml eu cyfryw ydoedd ef, a'i ddau frodyr, Mr. Lewis Morys, a Mr. William Morys; ac heblaw bod yn olygwyr ar argraffiadau o'r Bibl, yr oeddynt ill trioedd wedi myfyrio ar y iaith Gymraeg er yn blant, ac hefyd wedi casglu a myfyrio llawer ar waith y Beirdd godidocaf yn yr iaith Gymraeg, ac ymegnio hefyd yn eu 'sgrifeniadau am ddilyn dull a threfn yr hen iaith yn ei phurdeb cyntefig, yn lle canlyn llwybr gwyrgam y iaith Seisnig, mal y mae y parth mwyaf o 'sgrifenyddion y tŵf heddyw. Nis medraf lai na synu a thysmwyo wrth feddwl mal y mae rhai awduron Deheuberthig yn llusgo ac yn ysmurnio yr hen iaith ardderchog megis gerfydd ei gwallt, yn wysg ei chefn i sathrfa a chwydion bustlaidd Plant Alis y Biswail. Y mae yn rhaid i mi dewi bellach, y mae y papyr yn min darfod, a minnau wedi blino; ac i ddywedyd i chwi y gwir yn ddistaw, nid un o gant a gawsai y fath lythyr a hwn genyf; ond yr wyf yn gobeithio y telwch chwithau yr echwyn adref pan gaffoch gyfleusdra; felly fy Nghyfaill anwyl, Henybych well, a'r eiddoch oll, medd eich cyfaill diffuant tra bwyf,

J. W. PRITCHARD.

Rhowch fy annerch yn garedig at y rhai a'm caro; am fy nghaseion nis gwaeth ganthynt po gwaethaf a fyddwyf.

Mi a daenais y Proposals draw ac yma; fe ddeisyfodd Mr. Panton gael tri o honynt; fe gafodd Mr. Williams, Treffos, un; mi a yrrais dri o honynt i Mr. Gruffydd Williams, Braich-y-talog, yn Llanllechyd; a rhai o honynt hefyd yn y gymydogaeth yma. Y mae arnaf eisieu anfon un neu ddau i Mr. Jones, Llugwy, a Mr. R. Williams, Bodafon, a Mr. Gr. Edwards, Bodafon Lys, &c. Y mae y parth mwyaf yn canmawl y gwaith; ond hyn yw'r drwg, nid oes gan y gwerinos ond ychydig o arian i brynu Ilyfrau, ac y mae llawer o'r mawrion yn gwneuthur ffroenau surion ar bobpeth a fo yn Gymraeg, gan feddwl nad oes dim a dal yn iawn onis bydd mewn diwyg Seis nig; ond mae ambell ŵr mawr eto, fel Panton, yn caru llwyddiant ei wlad a'i genedl. Daliwch mewn calon, a byddwch yn ofalus rhag ymddiried y gorchwyl mewn dwylaw anffyddlawn. Y mae Mr, Panton yn dyweyd mai Llundain ydyw'r lle goreu i chwi argraffu'r gwaith, ac y bydd yn haws i chwi eu dosparthu a'u cludo oddiyno.

Fy Nghyfaill hawddgar,

Plasy brain, 18fed Gorphenaf, 1811.

Mi a dderbyniais yr eiddoch o'r laf cyfisol, ond efe a fu yn rhywfan yn ymlwy bran hyd yr 17eg. Y mae yn dda gan i glywed y newydd fod y Daearyddiaeth ar gychwyn; ac yr wyf yn gobeithio y daw'r gorchwyl i ben ei daith yn ddiwall, heb golled i chwi na blinder i'r sawl a'i derbynio. Yr wyf yn bwriadu 'sgrifenu at Davies

Dywed gŵr Ty calch nad oedd dim fyddai yn ei gytbruddo yn fwy na'r dull cymhenllyd o ysgrifenu Cymraeg y gwnelid y pryd hyny y fath ymdrech i'w sefydlu; dywedai nad ai yr iaith Gymraeg byth yn ei blaen tra byddai nog William Owen Puw arni!

y Lleuawdur [Optician] yn lled fuan, am dair o spectolau â phalfau arian iddynt. Yr wyf yn bwriadu myned i'r Plasgwyn y boreu heddyw, ac yr wyf yn tybiaw fod Mr. Panton yn bwriadu myned i Lundain, o hyn i Wyl Mihangel; felly mi gaf gyfleu teg i anfon Ilonaid sach o chwedlau i'r Lleuawdur. Er mwyn dyn, a welsoch chwi waith "Egri ap Eofn" yn y North Wales Gazette? Os nas gwelsoch, dehongliad ydyw am ystyr priawd yr enw Llanfairmathafarneithaf; ac y mae "Egri" yn bwriadu, pan gaffo hamdden, yru rhyw ddehongliad eto i'r Gazette, i beri i Gymreigyddion Bangor waith chwerthin. Och fi! yr wyf fel dyn â'i ddannedd ar y maen llifo; nid oes hanes am Syr John yn dyfod i'r wlad i ddywedyd na cham nac uniawn wrthyf. Moeswch lythyr etwa pan gaffoch hamdden gan y cywion. Yr eiddoch yn ddiffuant tra bwyf,

J. W. PRICHARD.

Fy ngwasanaeth at Mrs. Roberts a Mr. Griffith Owen a'i wraig. Nid oes gan i ddim ond cwyr crydd i selio fy llythyr; oni ddylai fod arnaf gywilydd? Ond chwedl y ddihareb, "Ni ddiffyg arf ar was gwych."

Fy Nghyfaill hynaws,

Plasy brain, alias, Meddiant y G-rthr-m-dd,

Hydref y 16eg, 1811.

Pan fum yna o flaen y Llewpart, nis haeddai enw dyn, nid oedd na chefn na chalon genyfi ddyfod yna i ymweled a chwi, dim ond troi tuag adref yn wynebdrist, a'r Teigar pedwar-llygeidiog yn fy nghymeryd yn sport yn fy hen ddyddiau, o achos fy mod yn methu ymattal rhag soddi mewn trymder o dan grafangau y bwystfil didrugaredd. Fe allai y bydd yntef ryw ddydd yn deisyf trugaredd; mi a ddymunwn iddo ef gael yn y dydd hwnw, fwy o dosturi a thrugaredd nag a wnaeth efe â mi a'm plant. Yr wyf yn trin y byd er's mwy na deugain mlynedd, ac nis digwyddodd i mi weled neb erioed mor gïaidd a dideimlad. Pwy a wyr nas gwena Rhagluniaeth arnaf, ac agor ei drws o ryw le arall? Nid wyf heb addewidion teg, pa beth bynag a ddel o honof: ond fe allai wedi'r cyfan mai gwir a fydd y ddihareb, "Addewid deg a wna ynfyd yn llawen."

Mi fum agos i bythefnos oddicartref yn ddiweddar yn teithio trwy'r wlad hon a rhan o Arfon, ac yr wyf yn disgwyl y caf well tal na bod yn ymdrybaeddu mewn baw ym Mro y Gorthrymydd. Ysgadfydd, pan ysgrifenwyf atoch y tro nesaf, na bydd genyf rhyw newydd gwell na hyn i'w adrodd i chwi. Nis gwn i eto yn iawn a ddeuaf fi byth yn rhagor i droedio Bro Gybi, ac och fi! i mi ei throedio ermoed. Pan gaffoch ronyn o hamdden, 'ysgrifenwch ataf, a chyfeiriwch ef tan ofal Evan Williams, yr Ostler yn Llangefni. Cofiwch fi at eich gwraig, ac at Mr. Griffith Owen, ac nis gwn at bwy arall. Byddwch wych.

J. W. PRICHARD.

Fy hen Gyfaill,

Plasy brain, Awst y laf, 1812.

Dyma fi ar wastad fy nghefn yn fy ngwely yn glaf er's namyn diwrnod deg wythnos; ond beth am fod "namyn deunaw mlynedd ar hugain yn gorwedd!"+ Fe iachaes yr Arglwydd y dyn hwnw a fuasai cyhyd yn gorwedd; y mae'r un gallu gantho i'm iachau innau; mawr yw trugaredd yr Arglwydd. Ond pa un bynag ai angau ai einioes, pob peth yn dda, os caf gymmod a gwedd wyneb yr Arglwydd; dyna ydyw diwedd y gamp.

Wele, fe ddaeth yma oddiwrth R. Davies, Llangefni, 30 o'r rhanau Daearyddiaeth, 4 rhan o'r papyr goreu, a'r gweddill yn bapyr cyffredin. Y mae 20 rhan wedi eu gwerthu, a minnau fy hun yn unfed ar hugain em ran. Dyma i chwi enwau y rhai a gawsant y rhanau, neu Subscribers at y gwaith :

Masnachydd parchus yn Nghaergybl, a blaenor tra defnyddiol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

+Y fath helbul y buasai y gŵr manwl ynddo pe dygwyddasai i'w lygaid agor ar yr amryfusedd a lithrasai uchod o dan ei ysgrifell. Mae yn amlwg ei fod yn cyfeirio at Ioan v. 5: “Ac yr oedd rhyw ddyn yno yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.”

Paul Panton, Ysw., o'r Plasgwyn, Best
Paper.

John Williams, A.M., Treffos, do.
Mr. John Rowlands, Ty fry, do.
Mr. Henry Brereton, Plasgwyn.
Mr. Robert Parry, Frigan.
Mr. Thos. Williams, Glasinfryn.
Mr. Hugh Hughes, y Fferam.
Mr. Wm. Prichard, Ty'nygongl.
J. W. Prichard, Plasy brain.
William Thomas, o'r Bwth.

Mr. John Hughes, Perth y Gwenyn.

Mr. Robert Owen, Bodeilio.

Owen John Edward, Elusendy, Beau.
maris.

Mr. Lewis Parry, Gwenfro.
Mr. John Price, Tanyrallt.
Mr. Owen Jones, Minffordd.
Mr. Thos. Williams, Defnia.
Richard Thomas, Olgre.
William Hughes, Ty'nyfelin.

Mr. Rd. Williams, Plas Goronwy.

Mr. William Thomas, Boatman, Amlwch.

Buasai gennyf bedwar neu bump o wyr mawr at y List uchod yn rhagor ped fuaswn yn iach ac yn gallu myned o'r gwely. Nid hwyrach daw rhywrai eto i roi eu bysedd yn y bastai. Am y rhanau sydd heb eu gwerthu, y maent yma mewn lle glân, ac y mae'r arian yma ond yr 16s. 6c. a dderbyniasoch gan fy merch Jane yn Llangefni. Y mae arian yr holl ranau a werthwyd yn £1 13s., felly y mae'n digwydd i chwi eto 16s. 6c. A fyddwch chwi mor fwyn a fy nghofio at Mr. G. Owen a'i wraig, a'ch gwraig eich hun hefyd. Odid un i fil i mi weled neb o drigolion Cybi yn fy oes, oddieithr eu bod yn rhywle yn nês nag yno. Mi gefais y llythyr a 'sgrifenasoch dros William Hughes mewn perthynas i Eglwys Llanbedr; y mae'r meinciau, &c., wedi eu rhoi mewn cywair odiaeth. Dywedwch hyn i Lady Stanley. Yr eiddoch tra bwyf,

J. W. PRICHARD.

Y mae fy mab William wedi cymeryd cryn encyd o drafferth yn dysparthu y rhanau o herwydd fod y Subscribers cymaint ar wasgar. Y mae efe yn dysgwyl cael llyfr am ei drafferth,

Y Cyfaill hawddgar a chelfydd,

Plasy brain, Tachwedd yr 11eg, 1812.

Dyma'r pummed llythyr a 'sgrifenais atoch, ond ettwa heb rithyn o ateb; ac nis gwn i pa fodd y llwyddaf gyda hwn; ond pa fodd bynag, nid ydyw ond ychydig o draul arnaf i fritho hyn o gerpyn o bapur, ac yn enwedig a minnau heb allu gwneuthur dim arall: mae rhyw waith yn well na seguryd. Y mae'r holl ranau Daearyddiaeth wedi eu gwerthu ond pedwar, ac y mae'r arian wedi ei derbyn am danynt. Mi fum yn meddwl eu rhoi gyda Owen Llanddeiniolen, ond yr oedd arnaf ofn iddo ef bendroni ar y ffordd a myned i Arfon yn ei ol, yn lle dyfod yna i wneuthur ei neges. Pe gwyddwn pa fodd i'w gyrru, byddai yn dda gennyf. Mi a yrrais lythyr at William Hughes, Tanypwll, mewn perthynas i lain o dir sydd ym Mhlas-y-brain yn perthyn i Mrs. Lewis, Bodior. Y maent yn fy holi am £2 o ardreth am y llain, ac nis gwn i yn iawn pa beth i'w wneuthur heb gael barn Syr John Thomas Stanley am hyn o beth. Mi gly wais rhywun yn dyweyd fod Syr John yn y wlad. Mi fuaswn yn dyfod i Benrhos i ymddiddan ag ef pe buaswn yn gallu: ond Duw a'm helpo, ni fedraf fi er's agos i bum' mis fyned dim dau led cae oddi

* Owen Llanddeiniolen oedd grwydryn diniwed a gonest a fyddai yn myned o amgylch y dyddiau hyny i gardota, a byddai yn gwneyd llawer o fan gymwynasau mewn cario llythyrau rhwng beirdd a llenorion Môn ac Arfon. Fe ddarfu i amryw o'r beirdd ganu iddo, mewn ffordd o ofyn caredigrwydd ar ei ran gan y ffermwyr a'r boneddigion, ond y gân oreu tu hwnt i bob cymhariaeth oedd eiddo Robert Hughes, Neuadd y Blawd, Llanddeusant, awdwr y Gell Gymysg.

Mae Owen Llanddeiniolen
A'i lais am gael elusen;
Bwyty wedi os bydd raid

Ei damaid ar y domen. &c.

"Mae digrifwch y gân hon," fel y dywed Cynddelw yn ei Fanion Hynafiaethol, "yn ddihysbydd; eto, nid gwneuthur gwawd o Owen druan y mae, ond peri i ni dosturio wrtho a'i ymgeleddu:"

1884.

B

« PreviousContinue »