Page images
PDF
EPUB

am dano ei hun? Ac os gwyr dyn fod ganddo deimladau drwy ei brofiad o honynt nad oes brawf fod anifeiliaid yn meddu arnynt, onid ydyw hyn yn ddigon i beri ammheuaeth o barthed i wirionedd y ddamcaniaeth fod holl fawredd a gogoniant dyn yn gynnwysedig mewn perffeithrwydd anifeilaidd ?

Yr ydym yn ymwybyddus o fod genym syniadau am natur amcanion fel rhai "da" a "drwg;" ac mor bell ag yr amlygir i ni pa rai yw yr amcanion sydd yn ysgogi dynion, yr ydym yn eu cymeradwyo neu yn eu condemnio. Ond nid oes brawf fod gan yr anifeiliaid isaf unrhyw syniad am ddrwg a da. Er eu mwyn hwy, gan hyny, y mae yn rhaid i ninnau gau allan o'n syniadau am natur amcanion bob meddwl o ddrwg a da! Ac er eu mwyn hwy, yr esboniad a rydd Mr. Spencer o ddrwg a da ydyw, cyfaddasrwydd moddion i gyrhaedd amcan, yn hollol annibynol, dealler, ar natur yr amcan. Yn ol yr ymresymiad hwn, nid ydyw ein profiad ni o fod amcanion i'w cymeradwyo fel rhai da ynddynt eu hunain, neu i'w condemnio fel rhai drwg ynddynt eu hunain, i'w gymeryd i ystyriaeth o gwbl. Ond gan y defnyddir y geiriau "drwg" a "da" am gyfaddasder moddion i gyrhaedd unrhyw amcan, pa beth bynag a fyddo, pan y sonir am bethau difywyd ac am y dosbarthiadau isaf o greaduriaid, hyn sydd hefyd i benderfynu ystyr y geiriau pan y cymhwysir hwynt at ddyn. Ac y mae hyny yn ymddangos i ni yn hollol afresymol.

Yr ydym yn ymwybyddus fod ynom deimlad o ddyledswydd, yn gosod rhaid arnom gydag awdurdod. Nid oes un prawf fod anifail direswm yn meddu arno. Gan nas gellir gwadu nac ammeu ein bod ni yn ei feddu, y casgliad yr ydym i dynu o amddifadrwydd yr anifeiliaid o hono ydyw, y diflana pan yr esgynwn i diriogaethau uchaf moesoldeb ac y cyrhaeddwn bleser, y pinacl uchaf cyrhaeddadwy i greadur. Yn ol fel y dywed Mr. Spencer (The Data of Ethics, tu dal. 127): "The sense of duty or moral obligation is transitory, and will diminish as fast as moralization increases;" hyny yw, fe leihâ y teimlad o ddyledswydd fel y cynnydda moesoldeb, o herwydd y bydd yn myned fwyfwy yn bleser. Ymresyma Mr. Spencer ei bwnc fel hyn. Dywed fod gwneuthur unrhyw beth yn barhâus dan deimlad o ddyledswydd yn ffurfio arferiad, fod arferiad yn peri hunan-foddlonrwydd a hyfrydwch, ac yn dyfod o'r diwedd yn ail natur i ddyn, ïe, mor naturiol iddo â'r gweithredoedd a gyflawnir oddiar y chwantau symlaf. Ac y mae yn sicr fod hyn yn wir. Ond oddiwrth hyn y mae Mr. Spencer yn tynu casgliad nas gallwn mewn un modd gydsynio âg ef, sef y bydd y teimlad o ddyledswydd o angenrheidrwydd yn diflanu pan y cyrhaedda dyn hyfrydwch perffaith yn y cyflawniad o hono. Tybia hyn fod y teimlad o ddyledswydd ynddo ei hun ac o angenrheidrwydd yn deimlad poenus. Y mae yn sicr y dilea hyfrydwch gymaint o boen ag sydd ynddo. Ond ai poen ydyw yr oll o hono? Mewn atebiad i'r ymresymiad hwn sylwn, fod dyledswydd un ai yn wirionedd gwrthddrychol, neu yn unig yn deimlad o fewn dyn. Os y cyntaf ydyw, fe fydd dyn perffaith, yr hwn yn ol crefydd Crist yw y dyn ag y mae pob gwirionedd oddiallan iddo yn adleisio byth mewn teimladau cyfatebol o'i fewn, yn ei feddu byth. Ond os yr olaf, os teimlad ydyw o fewn dyn heb unrhyw wirionedd allanol i ddyn yn sail iddo, hyd yn nod tra

parhão, dylid ei ystyried fel ofergoeledd neu freuddwyd y meddwl, a bod ei holl awdurdod yn dwyllodrus. Os erys byth yn ddyledswydd ar ddyn i wneuthur yr hyn sydd iawn, nis gall unrhyw berffeithrwydd cyrhaeddadwy gan ddyn ddilen neu leihâu y teimlad o hyny: yr oll a ddileir a fydd pob baich neu flinder yn y cyflawniad o hono, oblegid fe all y teimlad o ddyledswydd gynnyddu, a chariad tuag ato gynnyddu hefyd, heb fod y naill yn gormesu ar y llall.

Yn awr cymharwn y golygiad hwn a'r modd a gymerir gan Paul i esbonio y pwnc yn y seithfed bennod o'r Rhufeiniaid. Yn ol Paul, nid ydyw y dyn perffaith yn colli ei deimlad o rwymedigaeth, ond yn ei drosglwyddo oddiar arglwyddiaeth deddf o orchymynion a bygythion, i'r Arglwydd Iesu, trwy ei fod yn marw i'r ddeddf ac yn myned yn "eiddo un arall." Yn ol Mr. Spencer, y mae y teimlad o ddyledswydd yn diflanu mewn sefyllfa o berffeithrwydd; yn ol Paul fe'i dyfnheir trwy ei drosglwyddo oddiar ddeddf at Berson. Nid ydyw ei ddyfnhâu yn gwneuthur cyflawniad o'r rhwymedigaethau yn feichus ac yn boenus. Yn hytrach i'r gwrthwyneb, gan y trosglwyddir ef at Berson ag sydd yn tynu allan ato ei hun holl ymddiried, parch, cariad, ac edmygedd yr enaid, fe gyflawnir dyledswyddau bywyd gyda hyfrydwch. Gan hyny dangosir gan Gristionogaeth fod teimlad o ddyledswydd mewn dyn perffaith yn ei gyflawn nerth ac addfedrwydd, mewn undeb anwahanol â'r hyfrydwch coethaf, tyneraf, a mwyaf dyrchafedig. Trwy yr Arglwydd Iesu y gwelir y ddau deimlad, pa rai. y gellir eu geirio yn y ddau air “ "rhaid ac "eraill," mewn undeb nas gellir ei ddattod. Felly y sicrheir holl deimladau cymdeithasol yr enaid o blaid rhinwedd. "Rhaid" ac "eraill," oedd sylwedd pregethau yr Iesu, nodweddion arbenig ei fywyd, hanfodion ei aberth, a nodau ei ysbryd. Dyma y gwirioneddau sydd yn gymhwys i ddyrchafu dynion o dan lywodraeth eu nwydau a'u blysiau, i'r perffeithrwydd teilwng o greaduriaid rhesymol. Am hyny nid yw y cyfiawnder a'r cariad sydd yn llywodraethu dyn da yn egwyddorion a dyfodd ynddo i fyny o'r anifail, ond fel y Jerusalem a welodd Ioan, a ddisgynodd allan o'r nef oddiwrth Dduw, â gogoniant Duw ganddo. Am hyny edrychwn, nid i lawr, ond i fyny, er mwyn deall amcan ein bodolaeth. O dan deimlad o'n natur anifeilaidd, fel Job, galwn ar y pwll, "Tydi yw fy nhad," ac ar y pryf, "Fy mam a'm chwaer ydwyt;" ond yn yr ymwybyddiaeth o natur uwch, dyrchafwn ein llygaid i'r nef, fel y gwnaeth yr Iesu, a dywedwn, "Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd. . . . Eiddot ti yw y deyrnas, a'r gallu, a'r gogoniant, yn oes oesoedd."

""

OL-NODIAD.-Y ddarlith a gyhoeddir uchod yw yr olaf o'r gyfres nodedig o Ddarlithiau a draddodwyd yn Jewin Newydd gan y Parch. D. Charles Davies, M. A., yn ystod blynyddoedd diweddaf (sef o 1879 i 1883) ei weinidogaeth yn Llundain. Yn fuan ar ol ei thraddodiad (er dirfawr golled i "nyni y rhai a adawyd"), torwyd y cysylltiad a fu yn bodoli am oddeutu chwarter canrif cydrhwng Mr. Davies a'r fam-eglwys Fethodistaidd yn y brifddinas. Da genym ddeall, er hyny, fod gobaith y ceir eto fwynhâu o ffrwyth ymchwiliad a myfyrdod y darlithydd parchedig mewn maes cyffelyb. Wrth dynu ein gorchwyl cofnodiadol i derfyniad, dymunwn wneyd hyny gyda dadganiad o obaith ac o ddiolchgarwch: o'n gobaith y bydd yr ym. wneyd hwn & rhai o problems tragywyddol bywyd a chrefydd yn symbyliad ac yn gefnogiad i ymchwiliad am Wirionedd pa le bynag y ceir ef; ac o'n diolchgarwch gwresocaf a mwyaf diffuant i Mr. Davies am y caniatâd a'r cynnorthwy parod a gawsom i gyhoeddi y "Darlithiau ar Gristionogaeth."-E. VINCENT EVANS.

MR. J. W. PRICHARD, PLASYBRAIN.

II.

Y MAE yn hyfryd genym allu gosod ger bron ein darllenwyr ddefnyddiau dyddorol, yn ychwanegol at yr hyn a gyhoeddasom yn y TRAETHODYDD am fis Ebrill diweddaf, er eu cynnorthwyo i ymgydnabyddu ymhellach â'r Cymro teilwng o Blasybrain. Diammeu genym y teimla ein darllenwyr fod y llythyrau hyn yr ydym trwy ffawd dda yn cael yr hyfrydwch o'u cyhoeddi, yn dra dyddorol. Y maent yn dwyn o'n blaen yn fyw ac eglur gymeriad ag y teimlid yn ei ddydd nad ydoedd yn ail mewn gallu a meddylgarwch i ond ychydig iawn o'i gydwladwyr, ac y maent yn rhoi mantais i ni weled ei farn a'i olygiadau ar lawer o achosion dyddorol ag oedd yn dyfod o dan ei sylw. Nid dibwys ychwaith ydyw y fantais a roddant i ni weled y byd ag oedd ar ein tadau yn y dyddiau hyny, a pha fodd yr oeddynt yn ymdaro. Ac yn arbenig fe geir mantais trwy y llythyrau hyn i weled y syched am wybodaeth, yr ysbryd llednais, caredig, a boneddigaidd, ynghyd a'r Gymraeg brydferth a ffynai yn nghymdeithas oreu ardal y Morysiaid a Goronwy Owen. Yr oedd Mr. J. W. Prichard, fel y gwelwn oddiwrth ei lythyr at Mr. Robert Jones, Rhoslan, wedi ei eni cyn y flwyddyn 1750, ac felly yr ydoedd o leiaf yn bymtheg oed pan fu farw Mr. Lewis Morris yn 1765; ac er y gallai na chafodd ei weled ef na'i frawd Mr. William Morris, yr hwn a fuasai farw yn 1764, eto nid yw yn annhebyg na ddarfu iddo ymgydnabyddu â Mr. Richard Morris, yr hwn y cyfeiria mor barchus at ei olygiaeth o argraffiadau 1746 a 1769 o'r Ysgrythyrau, yr hwn a fu farw yn 1779, pan nad oedd Mr. J. W. Prichard yn llai na deg ar hugain oed. Hyd y pryd hyny yr oedd efe yn byw yn Boteiniol, Llantrisant, ond yn union ar ol hyny, wedi marw ei wraig gyntaf, fe ddaeth i Blasybrain. Wedi dyfod yno yr ydoedd yn gymydog ac yn gyfaill i Mr. Richard Williams, Plasgronwy. Yr oedd efe yn gefnder i'r Morysiaid, ei fam, yr hon y dywedir ei bod yn hynod am ei glendid a'i dawn i ganu a phrydyddu, yn chwaer i'w tad; ac yr ydoedd ar hyd ei oes yn gyfaill mynwesol i Mr. Lewis Morris. Am ei fab, Mr. Morris Williams, yr hwn oedd tua chyfoed â Mr. J. W. Prichard, fe ddaeth efe a gŵr Plasybrain yn gyfeillion mawr hyd y diwedd; ac wedi ei hir gymdeithas â'i dad, &c., yr ydoedd Mr. Morris Williams yn llawn o draddodiadau goreu Pentre Eirianell. Clywsom ei fab, gŵr y Tycalch, yn dyweyd iddo ei glywed droion yn dywedyd, ar ol ei dad, nad oedd ond peth rhwydd gan Mr Lewis Morris neidio i ben careg farch oedd yn Mhlasgronwy, yn wysg ei gefn. Ac fe ymddengys fod Mr. J. W. Prichard, er yn lled swrth cyn y diwedd, pan yn ŵr ieuanc yn hynod o hoenus a chwim. Fe welir iddo ei gael ei hun yn nghanol dylanwadau na allasent, yn

enwedig i ŵr o'i dalent a'i dueddiadau ef, lai na bod yn addysgawl iddo. Beth bynag am addysgiaeth plant William Prichard, Clwchdernog, yn yr ysgol oedd yn Lancelot's Hey, yn Liverpool, fel y sonia Mr. Richard Williams, Birkenhead, mae yn ymddangos fod gan John le i gwyno na chafodd efe, am ryw achos neu gilydd, gystal manteision a'i frodyr; ond er hyny fe ddaeth, trwy ei dalent a'i ymroddiad, i ragori arnynt oll, ac i gael ei ystyried yn ei oes yn ddiarebol am ei fedr a'i ysgolheigdod. "Cared doeth yr encilion." Fe deimla ein darllenwyr fod yr "encilion" hyn, yn sicr, yn haeddu eu diogelu, ac nad allant gymdeithasu â hwynt heb eu profi yn ddyddan ac addysgiadol.

I.

Yn gyntaf oll, mae yn bleser genym gyhoeddi y llythyr canlynol a dderbyniasom oddiwrth ein cydwladwr selied a hybarch, Mr. Richard Williams o Birkenhead, i'r hwn yr oedd Mr. J. W. Prichard yn hen ewythr, a'r hwn a fwynhaodd lawer o'i gymdeithas, ac sydd hefyd yn cario yn ei ysbryd lawer o'r rhagoriaethau ag sydd wedi gwneuthur yn glasurol i gynifer o'r Cymry yr enwau Clwchdernog a Phlasy brain.

16, Whetstone Lane, Holt Hill,
Birkenhead, Mai 17, 1883.

Fy anwyl Frawd a Chyfaill,

Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i chwi am godi enw hen Gymro mor deilwng a John William Prichard. Adwaenwn bedwar o feibion William Prichard, Clwch. dernog: Richard Williams, Pentref Bwaau (yr oedd efe yn daid i mi o du fy mam),

W. Prichard, Plasy brain, Evan Williams, Bodwrog, gerllaw Gwalchmai (yr oedd efe yn flaenor yno gyda'r Methodistiaid Calfinaidd), a William Prichard, y brawd ieuaf o'r wraig gyntaf, yr hwn a droes allan yn oferddyn, ac a gladdwyd yn medd y meddwyn. Adwaenwn J. W. Prichard yn dda, ac er bod tua deunaw milldir o'm cartref [Fferam, Aberffraw] i Blasy brain, byddwn yn fynych yn myned yno i ym. weled a'm hen ewythr. Gwnaeth i mi Dablen, a dysgodd fi i wneyd Deial. Gwnaethum innau un i ddangos yr amser with yr haul ac wrth y lloer; ond ysywaeth yr ydwyf wedi ei golli er ys blynyddoedd. Am blant William Prichard, Clwchdernog, fy hen daid, clywais ei fab, fy nhaid, sef Richard Williams, Pentref Bwaau, yn dywedyd lawer gwaith gan wenu, iddo ef, ac amrai o'i frodyr, y naill ar ol y llall, gael eu hanfon i Liverpool, i ysgol a gedwid yn Lancelot's Hey, mewn llofft, A dau dwll ynddi, i ddodi rhaff drwyddynt, gwedi splicio ei deupen ynghyd; ac os byddai bachgenyn gwedi troseddu cyfreithiau yr ysgol, dygid ef at y rhaff i gael ei grogi; a byddid yn chwilio am ben y rhaff, ac yn methu ei gael gan fod y ddeupen wedi en splicio; yna câi y culprit am y tro hwnw ei wddw yn rhydd. Yr oedd cofio am hyny yn ddigon i beri i'r hen ŵr fy nhaid wenu.

Y mae un peth yn ddiffygiol yn llythyr J. W. Prichard at Mr. Robert Jones, Tybwleyn, ag y busswn yn hoffi ei weled ar gof a chadw, sef ddarfod i William Prichard gael ei wysio a'i finio fwy nag unwaith gan wŷr da Bangor. Y mae un tro yn cael ei gofnodi, sef yr un a fu rhyngddo â'r Canghellydd Ower 8, tra yn byw yn Nglasfryn fawr. Yr ail waith oedd pan oedd yn byw yn Mhlas Penmynydd, Môn. Bu raid iddo dalu y tro hwn am gadw addoliad mewn tŷ heb ei recordio swm o tua deg punt. Aeth i dalu y fine i Fangor. Cadwyd ef yno o'r boreu hyd brydnawn, ac yr oeddynt wedi gwisgo dyn mewn dillad merch, a than y wisg hono bais o gylch enfawr o bast. bord; byddai y merch-ddyn hwn yn cerdded ymlaen ac yn ol, ac wrth basio William Prichard byddai yn rhoddi yslabiad iddo â'r llïan a gariai yn ei law. Ni wrandawai hwn ar William Prichard yn ymliw am lonyddwch. Pan welodd yntau na chai lonydd, aeth i ystafell arall at y pen-swyddog i adrodd ei gŵyn. "Pw!" ebai hwnw, "fel yna y bydd hi yn gwneyd yn wastad; gadael llonydd iddi y byddwn ni." Atebai William Prichard na oddefai efe mo honi i wneyd felly eto heb amddiffyn ei

hun. Yna aeth yn ol i'r neuadd fawr; ac yn fuan dyma y merch-ddyn i'r neuadd fel cynt, ac wrth basio rhoes lab i William Prichard ar ei wyneb. Byddai efe yn cario pastwn tua dwy lath o hŷd, a modfedd a hanner o braffder gydag ef; a chyda hyny cododd i fyny a rhedodd ei bastwn o'i du ol drwy ei ddillad uchaf, a thrwy ei bais bastbord, a chan rwygo ei ddillad fe'i taflodd nes oedd yn disgyn yn gledren ar ryw risiau ceryg oedd gerllaw. Yn fuan gwedi hyny galwyd ef i ystafell y penswyddog i dalu y ddirwy. Ac wrth ei thalu dywedodd William Prichard wrth y swyddog, "Dyma arian a fydd yn brefu eto ryw ddydd." Atebai y penswyddog, "Moes yma hwynt; mi doraf fi y frêf arnynt."

Gofynwch am " ddyddiau blynyddoedd fy ymdaith." Fe'm ganed ar y 18fed o Ebrill, 1800, ac felly dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt 30,624; neu dyma i chwi fy oed yn ddigellwair, yr wyf wedi myned dros fy 83 er y dyddiad uchod. Dywedid i mi fod fy mam yn wael iawn ar fy ngenedigaeth, a chymerodd fy nain, gwraig Richard Williams, ap William Prichard, Ciwchdernog, fi i'm magu. Bum gyda hwy am tua chwe' blynedd, a chlywais fy nhaid amryw weithiau yn myned dros y chwedl talu'r ddirwy; ond yr oeddwn i yn rhy blentynaidd a chwareugar i drysori yn fy nghof lawer o bethau a glywais mae yn ddiammeu ganddo ag y buasai yn dda genyf erbyn hyn pe buaswn wedi dal arnynt. Wedi hyny, pan oeddwn yn arfer myned i ymweled â'm hewythr, J. W. Prichard, a minnau tua phymtheng mlwydd oed, y cefais y chwedl fel yr ysgrifenais hi uchod. Rhyw adgofiant aflwyr genyf yw y chwedl fel y clywais hi gan fy nhaid; ond y mae yr hanes fel ei clywais gan fy ewythr, J. W. Prichard, yn argraffedig, hyd yn nod fel ei cefais, ar fy nghof. Felly chwi welwch i mi glywed yr hanes gan y ddau frawd, ond fel y clywais hi gan J. W. Prichard yr ydych chwi yn ei chael. Mae yn ddigon tebyg fod tua 68 mlynedd er hyny.

Am y pedwar mab i William Prichard a adwaenwn i, sef fy nhaid, Richard Williams, Pentre Bwaau, J. W. Prichard, Plasy brain, Evan Williams, Bodwrog, a William Prichard, Glangorsddu, yr oedd i bob un ei nab-nod: eiddo Richard Williams oedd cadernid meddwl yn athrawiaethau gras; eiddo J. W. Prichard, ysgrifenu, mesur a mapio tiroedd, llenyddiaeth a henafiaethau; eiddo Evan Williams, mwyn. eidd-dra; ac eiddo William Prichard oedd hunanoldeb a meddwdod. Yr oedd y tri cyntaf yn ddynion gwir grefyddol a chywir, a'r diweddaf yn wagnod.

Am J. W. Prichard, yr oedd efe yn troi, yn gyffredin, mewn cymdeithas uwch na'r lleill, o herwydd ei fedrusrwydd mewn ysgrifenu, mesur a mapio tiroedd, &c. Yr oedd yn ŵr o gymeriad cyfiawn, cywir, a cheugant,* a'i farn mewn achosion dyrys yn werthfawr. Heblaw â llawer eraill, byddai yn gohebu yn fynych â Twm o'r Nant; ac os byddai rhyw ysmotyn du ar un o offeiriaid Mon, neu ar Dafydd Ddu y bardd (bu ef yn Mon yspaid y pryd hyny), cai Tomos wybod yn ddiatreg. Cafodd Tomos ddysglaid gymhwys oddiwrtho i'w dodi yn ei Interludes lawer tro.

Yr eiddoch yn ddiffuant,
RICHARD WILLIAMS.

[ocr errors]

66

Dygwyddodd i ni yn ddiweddar, trwy garedigrwydd ein cyfaill teilwng, y Dr. Owen Thomas o Liverpool, gael i'n llaw sypyn o hen lythyrau a anfonasid at Mr. Robert Roberts o Gaergybi, yr Almanaciwr,' ac awdwr y Daearyddiaeth, y rhai oedd yn meddiant ei fab, Mr. William Roberts, oedd yn byw yn Liverpool. Erbyn eu hagor gwelem eu bod o ddyddordeb mawr. Mae y llythyrau canlynol wedi eu hysgrifenu at Mr. Robert Roberts gan Mr. J. W. Prichard, ac yn cael eu cyfeirio at "Mr. Robert Roberts, Schoolmaster, Holyhead," weithiau gan ychwanegu y cyfenw "Philomath," ac un o honynt yn gyfeiriedig ato yn "Athrofa Dysgeidiaeth, Caer Sant Cybi." Maent oll wedi eu hysgrifenu yn rhagorol, ambell un yn addurniadol, a rhai yn rhwydd; ond gan mwyaf mewn llaw fân, orphenedig, a destlus. Yr ydym yn cyfleu y llythyrau yn eu trefn amseryddol.

* Ceugant certain, sicr, dilys. Addaw yn geugant-to promise certainly. -DR. W. O. PUGHE.

« PreviousContinue »