Page images
PDF
EPUB

allasem enwi, y mae LLANSANAN yn air teuluaidd yn Nghymru er ys talm. Ardal dawel, fynyddig ydyw. Saif oddeutu hanner y ffordd rhwng Dinbych a Llanrwst. Nid tiroedd breision, nid golygfeydd rhamantus, ac nid mwngloddiau goludog a roddasant enwogrwydd ar y tro, ond dynion. Os ä rhywun yno gan ddysgwyl gweled golygfeydd harddach na chyffredin, diau y caiff ei siomi. Y mae yno afon, ond heb fod dim yn hynod ynddi rhagor yr afonydd a lifant drwy gymoedd cyffelyb yn yr un sîr. Y mae yno bentref ac eglwys, ond heb fod dim neillduol ynddynt at dynu sylw dyeithriaid. Dynion, fel y nodwyd, a roisant i'r lle anrhydedd ac ardderchogrwydd bythol. Yno y bu William Salesbury yn cyfieithu y Testament Newydd; magwyd yno hefyd lenorion a rhyfelwyr; ac yno y ganwyd HENRY & WILLIAM REES. Amser genedigaeth yr olaf oedd yr 8fed dydd o Dachwedd, yn y flwyddyn 1802; a'r lle, Chwibren Isaf, amaethdŷ a saif dan gesail Mynydd Hiraethog, ac yn y pellder o ddwy filldir o bentref Llansanan. Mangre neillduedig, allan o swn cynhyrfiadau y byd, ac heb fod yn rhyw or-ffrwythlawn ydyw. Eto ni ddylid diystyru mangreoedd felly. Dichon y tardd o honynt ffrydiau ac afonydd a dröant felinau, ac a brydferthant ddoldiroedd lawer ar eu ffordd tua'r môr; a pheth sydd fwy, mynych y megir glewion a meddylwyr godidog mewn lleoedd, felly; canys fel y dywedodd Channing, fe dyf meddyliau lle na thyf braidd ddim byd arall.

Hysbys ydyw fod y ddau Rees yn teimlo yn gynhes iawn drwy eu bywyd at fro eu genedigaeth; ond gan wrthddrych ein sylw presennol, mor bell ag y cyrhaedda ein gwybodaeth, y caed y nifer mwyaf o gyfeiriadau ysgrifenedig o berthynas iddi. Elai Dr. Rees i gryn hwyl weithiau wrth son am Lansanan a'i thraddodiadau hanesiol; ac y mae yr hyn a ysgrifenodd am y lle yn ddifyr odiaeth i'w ddarllen. Yn y peth hyn ymdebygai i'r enwog Thomas Binney o Lundain. Gydag ymffrost boddhâus yr arferai Dr. Binney son am Northumberland, ei enedigol wlad, ac am Newcastle, ei dref enedigol. Yn ei bregeth ardderchog ar farwolaeth Duc Northumberland, er engraifft, cyfeiria yn ddedwydd at yr enwogion lawer a roddasid i Loegr oddiyno,-at Collingwood ag oedd yn hynod am ei rinweddau cyhoeddus, ac at y Prif Weinidog hwnw a roddes i'r deyrnas hon ei Reform Bill cyntaf, ac at y "Killingworth boy," tad cyfundrefn y rheilffyrdd, yr hwn, fel y sylwai efe, a ennillodd iddo ei hun angladd gyhoeddus, ac a huna yn awr yn Westminster Abbey, gyda beirdd, ac areithwyr, a gwladweinyddion, a rhyfelwyr, a phendefigion, a brenhinoedd. Eithr ni allasai y lleoedd ydys newydd enwi fod fymryn yn anwylach i Dr. Binney nag ydoedd Llansanan a Mynydd Hiraethog i Dr. Rees. Yn ei fywgraffiad i'w dad, pa un a ymddangosodd gyntaf yn y TRAETHODYDD am 1856, dan y teitl "Fy Nhad," cyfeiria gyda gweddusder at y ffaith fod henafiaid ei nain wedi bod yn cyfanneddu yn Chwibren Isaf o genedlaeth i genedlaeth dros lawer o oesau yn olynol. Ac yn ei ragymadrodd i'w Ganiadau, wedi rhai cyfeiriadau hapus at yr hoff lanerchau y bu efe yn diwyd wau ei gerddi cyntaf wrth eu tramwy, efe a ä rhagddo i ddyweyd :"Hoffai Solomon awelon a golygfeydd Senir a Hermon, ac Amana; a'r bardd Groegaidd ddyfroedd ei Helicon ac awyr ei Barnasus; a dadganai y naill a'r llall eu serch at y mynydd a'r afon lle y buasent yn

myfyrio ac yn cyfansoddi ar eu glànau, ac ar hyd eu llechweddi. Paham gan hyny y gwarafunir i'r bardd Cymreig draethu ei hoffder at yr afonig hono a'r mynydd hwnw yn nghymdeithas y rhai y treuliasai oriau difyraf a melusaf ei fywyd? Iddo ef

Ni raid awen gymhenog

O drum Parnasus gwlad Roeg;
Ni cheisia, nid ä i dud
Glod o elltydd gwlad alltud;
Ofer y daith, afraid oedd,
Mwyneiddiach ein mynyddoedd ;
Lle mae awen ddiweniaith
Gelfydd ymhob mynydd maith.

Y mae afon Aled a Mynydd Hiraethog i mi yr hyn ydoedd Cedron a Hermon i'r bardd Hebreig, a Helicon a Parnasus i'r bardd Groegaidd. Y mae yn wir iddynt hwy allu gwisgo enwau eu hoffus fanau âg enwogrwydd ac urddas clasurol, a dyddordeb cyffredinol mwy nag a allodd holl ymdrechion awenyddol Gruffydd Hiraethog a Tudur Aled gynt, a G. Hiraethog ac I. G. Aled yn awr, roddi erioed na byth ar eu mynydd a'u hafon hwy; ond er hyny, ni roddai beirdd Aled a Hiraethog y goreu i feirdd Palestina a Groeg yn eu hymserch at y manau y buont yn cyweirio tànnau telyn eu hawenyddiaeth gyntaf erioed ynddynt.' Yn ei Adgofion Mebyd ac Ieuenctyd gwelir llinellau lawer yn rhedeg yn yr un cyfeiriad, eithr ni ddyfynir yn awr ond a ganlyn yn unig :

Un fu 'n chwareu 'n moreu 'i fywyd

Ar Hiraethog, fynydd iach,
Un fu 'n byw ar lanau hyfryd

Afon loew Aled fach,-
Ewch â hwnw o'i gynnefin

I ryw Seisnig, fyglyd dre',
Os oes dan yr awyr undyn
Edwyn hiraeth-dyna fe.

Hiraeth a'm dych'mygol huda
Dros y môr a thros y wlad,

1 roi tro i Chwibren Isa',

Hen dreftadaeth teulu 'nhad;
Awn i'r hen ystafell hono,
Lle tarawai 'r galon hon
Guriad cyntaf bywyd yno

Yn y fynwes dan fy mron.

EI RIENI A'U HENAFIAID.

Heblaw bod yn barchus yn nghyfrif y wlad, yr oedd rhieni Dr. Rees yn bobl grefyddol. Eu henafiaid hefyd oeddynt glodfawr fel disgynyddion o Hedd Molwynog, tad un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, yr hwn a gyfanneddai yn Henllys, Llanfairtalhaiarn. Ymhlith yr henafiaid hyny yr oedd amryw a gyrhaeddasant enwogrwydd mewn gwahanol ffyrdd. Ar hyn ceir gan ein gwrthddrych, yn ei bregeth angladdol i'w frawd, y Parch. Henry Rees, y nodiadau tarawiadol a ganlyn:-"Rhoddwch gymdeithas eich meddyliau yn awr am enyd

fach; deuwch trosodd i ardal neillduedig Llansanan; yno, mewn hen amaethdŷ sydd yn llechu dan gesail hen fynydd Hiraethog, ar y 18fed o Chwefror, 1798, fe anwyd bachgen-bachgen hynaf i rieni crefyddol a duwiol oedd yn byw yno, rhan o hen dreftadaeth y teulu er ys cannoedd lawer o flynyddoedd. Ganesid aml i fachgen hynod yn ei ddydd o'r teulu hwnw yn yr hen annedd hono o'i flaen ef; un a fu yn swyddog milwraidd yn un o Ryfeloedd y Groes; un arall a fu yn gadben yn ngwarchodlu Edward II.; un arall a fu yn rhyfelgar iawn fel swyddog yn myddin Duc Lancaster, yn Rhyfel y Rhosynau, sef y rhyfeloedd gwladol rhwng y teuluoedd York a Lancaster am goron Lloegr; un arall eto a fu yn hynod fel gwrthryfelwr yn erbyn awdurdod orthrymus un o frenhinoedd Lloegr; ac un arall hefyd a fu yn orthrymwr blin ar denantiaid, gan eu troi allan o'u tiroedd, fel y gwnaed rhanau o'r ddau gwmwd-Archwedlog ac Isaled-yn anialwch gwyllt dros dymmor, yr hyn a barai i hen brydydd yn y dyddiau hyny osod y frân, ar ben clochdŷ Llansanan,' i felldithio y dydd y ganwyd y gorthrymwr. O gyff garw o'r fath yna y tarddodd y planigyn tyner hwn, yn y fan y tarddasai amryw, os nid yr oll, o'r planigion geirwon hyny." Yn mywgraffiad ei dad sonia am un arall o'r teulu, yr hwn oedd ben saer celfydd, ac efe "a adeiladodd bont Llansanan, yr hon sydd yn aros hyd y dydd hwn." Fel hyn, o ddyddiau Hedd Molwynog i waered, ymddengys fod athrylith fel gwythien euraidd yn rhedeg drwy y teulu hwn, gan ei hynodi yn barhaus. O'r diwedd disgynodd crefydd i osod ei nôd arno, gan ei ddyrchafu i enwogrwydd o natur uwch nag a gyrhaeddasai eto. Yr oedd taid a nain y ddau bregethwr enwog yn bobl rhagorol, a than ddylanwad crefydd i fesur helaeth; ond yn eu rhieni hwy y daeth yr elfen ddwyfol i amlygrwydd cryf ac i gael ei theimlo i bwrpas.

Enw tad ein gwrthddrych oedd Dafydd Rees, ac enw ei dad yntau Henry Rees, yr hwn oedd enedigol o Landeilo Fawr, yn Sir Gaerfyrddin, ac a ddaethai i'r Gogledd i weini dan y Llywodraeth fel cyllidydd. Wedi hyny, ymhen amser, efe a ymbriododd â Miss Gwen Llwyd, etifeddes Chwibren Isaf a thyddynod eraill yn y plwyf; ac o hyny allan daeth y lle i fod yn gartref arosol iddo. Dywedir mai dyn lled fyr, crwn o gorffolaeth, cyflym ei ysgogiad, a sydyn ei dymher oedd efe. Yr oedd yn mawr hoffi pregethu da, a chyrchai yn rheolaidd i foddion gras. Difyr yw yr adroddiad a rydd Dr. Rees o'r modd y bu iddo roddi taw ar ryw "gawrfil anferth o Sais" o'r enw King, yr hwn a ddaethai i aflonyddu ar heddwch cynnulleidfa oedd yn gwrando pregeth ar ddernyn o dir cyffredin a elwir "Clwt Cogr," gerllaw Llansanan; oblegid arferid gwneyd felly yn achlysurol, cyn bod capel wedi ei adeiladu yn y lle. Arosai King yn y fro tra yr adeiledid Dyffryn Aled, palas Mrs. Yorke; a thra yn dywysog ar bob rhysedd a gyflawnid yn y pentref yn yr adeg hono, dangosai ei fod yn gryn elyn i bregethu. Wedi dyfod i olwg y gynnulleidfa ar yr achlysur a nodwyd, safai oddidraw, yn ymyl gwrych o ddrain, gan fingamu ar y pregethwr, a galw arno i lefaru yn Saesoneg, os gallai. Wrth weled ei fod yn dal ati, cyffrôdd tymher Henry Rees, a chan redeg at King o ganol y dyrfa, efe a'i tarawodd â'i holl nerth "yn mhwll ei galon," fel y cwympodd ar ei gefn i'r gwrych drain, ac y neidiodd ei "het dorth

geirch," fel y gelwid hi, dros y gwrych i'r aber ddwfr a lifai heibio. Aeth yn grechwen drwy y gynnulleidfa pan welwyd fod y cawr wedi ei orchfygu. Cododd o'r dyrysni mor fuan ag y gallodd, gan brysuro ymaith fel am ei einioes, a chaed llonydd ganddo byth ar ol hyny. Parhaodd Mr. Rees yn bur i'r weinidogaeth, er nad ymddengys iddo ddilyn esiampl ei briod drwy ymofyn am le fel aelod eglwysig. Yr oedd Mrs. Rees yn wraig o gynneddfau cryfion yn gystal ag o gymeriad anrhydeddus. "Gyda golwg ar fy nain," ebe Dr. Rees, "un bur nodedig yn ei dydd ydoedd hi;" ac o hyn efe a rydd 'i ni amryw engreifftiau tarawiadol. Ar ol claddu ei phriod, rhoes heibio drin Chwibren, gan ei osod dan ardreth i'w mab Dafydd, yr hwn oedd yr ieuengaf o bedwar o feibion; a chydag ef yr ymgartrefodd hyd ddiwedd ei hoes. Tra yn ofalus am gysur ei cheraint a'i hanwyliaid, yr oedd hefyd yn haelionus tuag at bob achos da. Bob tro y deuai Charles o'r Bala i Danyfron-y capel lle y byddai hi a'i theulu yn myned-byddai ganddi gini wedi ei barotoi iddo, tuag at dalu cyflog ysgolfeistriaid yr ysgolion dyddiol a sefydlasid ganddo mewn gwahanol leoedd.

Da y gwyddom y fath syniad uchel a goleddai Dr. Rees am grefydd a duwioldeb ei rieni. Ei dad ydoedd ŵr o deimlad dwys ac angerddol. Yr oedd o feddwl diwylliedig, er na fwynhaodd yn moreu ei oes gymaint o fanteision addysg ag a ddymunasai ar ol hyny. Yn ol esiampl ei rieni, cyrchai yn gyson i wrando gair Duw yn cael ei bregethu. Pan oddeutu ugain oed dygwyd ef i gyfyngder mawr ynghylch ei gyflwr ysbrydol. Bu am wythnosau lawer yn curio gan gystudd ysbryd, heb fod neb o'i gydnabod yn deall paham. O'r diwedd gwybu un o hen aelodau Tanyfron am ansawdd ei ddolur, a chan ei gyfeirio at Falm Gilead, efe a'i cymhellodd i ymwasgu yn ddioed at bobl yr Arglwydd. Yntau, hyd yn hyn, ni fynai ei gysuro. Enbyd y curid ef, megys yn nhrigfa dreigiau. Ofnai nad oedd wedi ei ethol, ac nad oedd i'w fath ef gyfran o gwbl yn mendithion a rhagorfreintiau yr efengyl. Ond yn fuan daeth i wybod mai gwir yw y dystiolaeth,— "Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd." Yn safn angeu cafodd fywyd; yn nharanau Sinai daeth i gyfarfod â Duw. Yna, wedi i wawrddydd gobaith dori ar ei ysbryd, cynnygiodd ei hun i'r gymdeithas grefyddol yn Tanyfron, a chafodd yno dderbyniad gwir groesawgar. Yn fuan wedi hyn ymbriododd âg Anne Williams o Gefnyfforest-merch ieuanc hardd-deg a chrefyddol, yr hon a gymerodd ato i fyw i Chwibren Isaf. Oddeutu yr un adeg codwyd ef i fod yn flaenor eglwysig, yr hon swydd a lanwodd efe yn anrhydeddus. Pan adeiladwyd capel yn Llansanan, cymhellwyd ef i ddyfod yno i flaenori, yr hyn hefyd a wnaeth; er fod yn amlwg mai yn yr hen le yr oedd ei serchiadau yn cartrefu yn benaf. Ychydig cyn hyn efe a symudasai i fyw o Chwibren Isaf i'r Rhydloew-tyddyn yn cydio à Chwibren, ac yn perthyn i etifeddiaeth ei fam. Y flwyddyn nesaf-1817-symudodd oddiyma i'r Tyddyn Dafydd, Gwytherin. Blwyddyn fu yspaid ei arosiad yn y lle hwn eto. Yn y naill le fel y llall, cafodd dymmorau anffafriol, cynauaf ar ol cynauaf agos â bod yn fethiant llwyr. Gan fod ganddo gryn deulu i ofalu drosto,* cafodd

* Bu i Dafydd ac Anne Rees bump o blant, sef un ferch (Gwen, yr hon sydd eto yn fyw), a phedwar o feibion, Henry, Thomas, William, a Dafydd.

hyn y fath effaith ar ei ysbryd nes suddo o hono i ddigalondid mawr. Ond yn y symudiad nesaf o'i eiddo gwellhaodd arno ymhob ffordd. Yr oedd ef yn awr gyda'i deulu yn hen drigle William Salesbury, sef y Caedu, pa un a saif am yr afon a Chwibren Isaf a'r Rhydloew. Ar ol dychwelyd fel hyn i'w hen gymydogaeth, ac i fysg ei hen gyfeillion, ymsiriolodd yn ei ysbryd; ac ymddengys iddo fod ar y cyfan yn dra dedwydd yma hyd y flwyddyn 1827, pryd yr ymaflodd y darfodedigaeth yn ei gyfansoddiad, ac y daeth yn amlwg fod dydd ei ymddattodiad yn agoshâu. Parhaodd i waelu hyd ddechreu Mehefin, 1828, pryd yr ymadawodd â'r byd mewn teimlad gorfoleddus iawn, yn 55 mlwydd oed. Gyda bod yn dduwiol hynod, rhaid fod Dafydd Rees hefyd yn perchenogi athrylith gref, oblegid yn ei Fywgraffiad yr ydys yn darllen fel hyn :"Tua thri mis cyn ei farwolaeth, aethai i Lansanan i'r gymdeithas eglwysig am y tro olaf. Er mor hynod oedd ei ddawn a'i brofiadau yn y cyfarfodydd hyny bob amser, yr oedd y tro hwnw yn rhagori ar ddim a glywsid ganddo erioed. Yr oeddem oll yn gyffelyb ein teimlad i'r tri dysgybl ar fynydd y gweddnewidiad," meddai yr hen gristion, Thomas Davies o Flaen-y-weirglodd. 'Erioed ni feddyliais,' meddai, 'fod yn bosibl i ddyn lefaru fel yr oedd Dafydd Rees yn llefaru y noson hono; yr oedd pob gair fel marworyn o dân oddiar yr allor. Clywais lawer o bethau gogoneddus o'r pulpud lawer gwaith, ond dim i'w gyffelybu i'r pethau a glywsom ganddo ef y tro hwnw.'"

Bu ei weddw byw ar ei ol ef am naw mlynedd. Treuliasant gyda'u gilydd fywyd tra defnyddiol. Fel Zacharias ac Elizabeth, yr oeddynt ill dau yn gyfiawn a duwiol; ond os sonir am amynedd tawel yn wyneb adfyd a chyni, iddi hi, yn ddiau, y perthynai y flaenoriaeth. Cyn eu gadael, rhoddwn eto un dyfyniad bychan gyda golwg ar hyn: "Yr oedd fy nhad a'm mam," ebe Dr. Rees, "yn bur wahanol i'w gilydd yn nhymher eu meddwl, yn gyffelyb i Manoah a'i wraig. Un isel, llwfr, digalon iawn oedd efe yn nydd profedigaeth. Yr oedd hithau, o'r tu arall, fel cedrwydden gref, yn wrol a chalonog, fel nad yn hawdd y buasai yn digaloni a llwfrhâu; ac eto gallasai gydymdeimlo yn garuaidd â'i phriod yn ei iselder a'i wendid." Yr ydys yn mawr hoffi y darlun yna. Wele wraig yr hon oedd "werthfawrocach na'r carbuncl." I'w gŵr yr oedd yn ymgeledd gymhwys mewn gwirionedd,—hi a wnai "iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.”

TYMMOR MEBYD AC IEUENCTYD.

Y mae yn beth i sylwi arno, ac i ofidio o'i blegid, ddarfod i gynifer o enwogion ein gwlad fyned i ffordd yr holl ddaear gan adael càn lleied o'u hanes ar eu hol, yn enwedig hanes eu dyddiau boreuol, wedi ei ysgrifenu ganddynt hwy eu hunain. Pe amgen, ni buasai angen i wrthddrych y nodiadau hyn dori allan fel y canlyn yn ei draethawd gorchestol ar Williams, Pantycelyn:-"Pa le y mae hanes y cedyrn a fu wŷr enwog gynt yn y Dywysogaeth? Dynion ag yr oedd gwreiddiolder eu meddyliau mor gyfoethog ag ydyw daear ein gwlad o fwnau a meteloedd; eu galluoedd meddyliol mor gedyrn â'r mynyddoedd ; bywiogrwydd eu dychymyg yn gyfartal i'w golygfeydd amrywiaethog;

« PreviousContinue »