Lansadwrn, a gymherir âg ef, ond ychydig am Ddaeareg; coffeir sylw enwog Enoch Evans o'r Bala wrth y Parch. Henry Rees, "ni pherffeithir hwynt heb Enoch," ond fe wneir yr hen weinidog hynod yn Enoch Jones; wrth roddi testun pregeth dra rhagorol o eiddo Mr. Herber Evans ar "Feddwl Crist," fe ddywedir mewn dau le fod y testun yn II Phil. iv. 5, yn lle yn Phil. ii. 5: y mae Saesoneg y llyfr, fel rheol, yn rhagorol, ond buasai "climax" yn tu dalen 458, yn well na " climacteric," ac yn sicr yn llawer mwy teilwng o Williams y Wern, yr hwn y rhoddir y gair yn ei enau. Ond nid ydyw y pethau uchod ond lled ddibwys. Y mae y pethau da a geir ynddo yn dda iawn, ac i'w cael Thick as autumnal leaves in Vallombrossa. Y maent hefyd wedi eu casglu o bob cyfeiriad, ac yn cael eu dwyn allan o drysorau yr awdwr yn newydd a hen." Da genym weled fod derbyniad mor groesawus eisoes wedi ei roddi i'r llyfr gan y Saeson. Y mae, ys dywed y Guardian, yn agor iddynt "quite a new region of religious life." Ond fe ddylai y Cymry sydd yn dar. llen Saesoneg yn arbenig brysuro i'w feddu, a bod yn falch o hono. Ei bris cyhoedd. edig ydyw 7s. 6c.; ond deallwn ei fod i'w gael gan yr awdwr trwy y post am 6s. 3c. Gwaith Barddonol Trebor Mai, prif Englyniwr Cymru; yn cynnwys ei Englynion, Caneuon, Cywyddau, &c. Liverpool: I. Foulkes. DA genym weled cyhoeddi cyfrol mor barchus o gynnyrchion Trebor Mai. Mae ei Fy Noswyl, 1861, a'r Geninen, 1869, wedi hen fyned allan o argraff. Ond mae yr oll a gynnwysai y rhai hyny yn y gyfrol hon, a llawer yn ychwaneg o gyfansoddiadau yr awdwr oedd ar wasgar ar hyd y cyhoeddiadau, neu wedi eu gadael ymysg ei bapyrau. Cynnwysa fywgraffiad o hono hefyd, a leinw 48 o du dalenau, wedi ei ysgrifenu, dybygem, gan y Cyhoeddwr, ac, fel pobpeth a ddaw o dan ei ddwylaw ef, yn ddyddan a darllenadwy. Adrodda chwedl a roddai ddywenydd neillduol i Trebor, am frodor o Ddyffryn Conwy, ar ol symud i le arall a dyfod yn lled gefnog ei fyd, wedi dychymygu ei fod yn fardd, ac yn meddwl y dylasai hefyd gael ei gydnabod fel beirniad. A chan nad oedd y pwyllgorau llenyddol o'r un farn âg ef am ei gymhwysderau beirniadol, cynnaliai gyfarfod llenyddol mewn rhyw lan ger. llaw Llanrwst, Nadolig ar ol Nadolig, gan roddi yr holl wobrwyon ei hunan, er mwyn cael cyfleusdra i ymarfer ei allu fel beirniad. Un nos Nadolig, cyfarfu Trebor ef ar yr heol yn Llanrwst, ac meddai, “Holo! beth a ddaeth â chwi yma yr amser hwn ar y flwyddyn?" "Eisteddfod y lle a'r lle yfory, fachgen." "O, ie; fath gyfansoddiadau sydd genych eleni?" "Pur dda, ar y cyfan," ebe'r beirniad, "ond bod y sillebu yn ddrwg iawn." Byddai Trebor yn cael hwyl hyfryd bob amser wrth adrodd hanes y Sillebwr! Am farddoniaeth Trebor Mai, y mae ei gwerth yn ddiammheuol, ac y mae llïaws o'i gemau, erbyn hyn, yn ymffrost ei genedl. Da genym grybwyll fod y gyfrol hon o'i weithiau ymhob ystyr yn un o'r rhai barddaf a gyhoeddwyd yn ein hiaith. Mae yn cynnwys yn agos i bedwar cant o du dalenau, a'i phris yw 58. Fel attodiad priodol i Englynion yr " Ysmaldod Dirwestol" a adargreffir o'r newyddiaduron am 1874, fe ellid crybwyll yr englyn canlynol o eiddo Trebor Mai, na chynnwysir yn y gyfrol hon, ond a ddylai fod yn ofnadwy o addysg. iadol er dangos y perygl o gellwair â'r ddiod feddwol: GLASYNYS, gwelais hwnw-yn y dre', Ond yr oedd yn feddw: Y TRAETHODYDD. Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM REES, D.D. I "O FY nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion!" Felly y llefai Eliseus pan welodd Elias yn ymddyrchafu mewn corwynt tua'r nef; a pharod oedd llaweroedd yn Nghymru i ddadgan eu teimlad yn yr un geiriau ar dderbyniad y newydd fod y pregethwr godidog a'r duwinydd hybarch, Dr. Rees, wedi ei ddwyn oddiarnom drwy oruchwyliaeth angeu. Oes, y mae i ni alar trwm o herwydd ei golli ef! Pan gwympa y cedrwydd, onid gweddus yw i'r ffynidwydd udo? Trist colli o'n mysg am byth unrhyw weinidog da i Iesu Grist; ond yr oedd Dr. Rees yn ŵr o ddefnyddioldeb mor eang ac o ddoniau mor anghyffredin fel, wrth feddwl am ei ymadawiad, y mae ynom ystyriaeth o golled nas medrwn ei thraethu. Tra yn ogoniant i'w genedl, yr oedd efe o'r gwerth mwyaf i eglwys Dduw, ac yn arbenig i'r enwad y perthynai iddo. I'r Cynnulleidfaolwyr Cymreig yr oedd ei enw yn dŵr o gadernid. Gall oesau fyned heibio cyn y codir i'w gwasanaethu eto un o athrylith mor ddysglaer ac amlochrog ag efe. Yn holl elfenau mawredd dealltwriaethol, efe a ddaliai i'w gymharu âg unrhyw ŵr cyhoeddus a welodd y ganrif bresennol. Ymhlith cedyrn y weinidogaeth, gan nad am ba enwad y sonir, pwy yn gadarnach nag efe? Ac i goroni y cyfan, yr oedd ef o ysbryd mor ragorol ac o ymarweddiad mor bur a dilychwin. Fel gweinidog cadwai olwg ar urddas ei swydd, a chyda zel a diwydrwydd apostol y cyflawnai ei dyledswyddau. Ei fywyd, fel ei ymddangosiad, ydoedd dywysogaidd ; ac nid oedd fod ei angladd yn un tywysogaidd hefyd ond peth a ddygwyddai yn nghwrs naturiol pethau. Yn debyg i'r modd y sylwodd y Canaaneaid, pan welsant orymdaith angladdol y patriarch Jacob yn "llu mawr iawn" yn llawr-dyrnu Atad, y gallasai y cannoedd a'r miloedd Saeson a edrychent ar ei orymdaith angladdol yntau yn Nghaer ac yn Liverpool ddywedyd, "Dyma alar trwm gan y Cymry." Anfynych yn wir y bu i'r newydd am farwolaeth unrhyw weinidog yn Nghymru o'r blaen greu cyffro mor ddwys neu alar mor gyffredinol. talm edrychid ar Dr. Rees, rhagor pawb eraill ymron, fel eiddo Er ys 1884. I cenedlaethol. Felly y meddylid ac felly y siaredid am dano ef ar gyfrif rhyddfrydigrwydd ei ysbryd, yn gystal ag ysplander rhyfeddot ei amgyffredion. Yr oedd pawb yn ei garu a phawb yn ei fawrhâu. Ewyllysiai yn dda i bob plaid; carai lwyddiant y genedl yn gyffredinol. Wedi ymryddhâu o hono oddiwrth ofalon ei alwad fel gweinidog sefydlog, teithiai drwy y wlad fel archesgob, gyda hyn o wahaniaeth-sef ei fod ef yn barod i wasanaethu pob enwad fel eu gilydd. Ymhlith Eglwyswyr buasid yn ei gyfarch fel "Tad yn Nuw;" a bu yn dipyn o brofedigaeth i ninnau ei gyfarch felly hefyd rai troion. Ar amserau ceid ei fod yn pregethu yn nghapelau y Methodistiaid braidd mor fynych ag yn nghapelau ei enwad ei hun. Nid oedd neb drwy y byd, ni dybiem, a allasai uno gyda chynnulleidfa i ganu y geiriau, Partiol farn a rhagfarn, lawr â hwy, gyda chydwybod fwy dirwystr nag efe. Ei ysbryd ydoedd mor eang a'r fendith apostolaidd, "Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist." Ei enw ni safai oddieithr yn gysylltiedig â'r hyn oll sydd bur, heddychlawn, a chanmoladwy; ac am hyny bydd ei goffadwriaeth "fel gwin Libanus," a'i enw yn barchus a bendigedig o fewn y dalaeth hon, a thu hwnt iddi hefyd, am oesau a chenedlaethau lawer. Teimlwn fod genym destun o'r fath oreu, ond pwy sydd ddigonol i wneyd iawnder ag ef yn ei holl gysylltiadau? Yr un pryd ni chaiff dim ein hattal rhag gwneyd ein goreu, a hyny heb oedi yn hŵy, fel na chaffer lle i dybied ein bod yn ddifater ynghylch anrhydeddu coffadwriaeth un a wasanaethodd ei genedlaeth mor deilwng, ac am oes mor faith. Gan gyfeirio yma, wrth fyned heibio, at ei lafur llenyddol, nis gallwn anghofio ei ffyddlondeb i'r TRAETHODYDD, a hyny ar adegau pan oedd ei gynnorthwy, nid yn unig yn dderbyniol, ond hefyd yn werthfawr odiaeth. I ddarllenwyr Cymreig nis gall unrhyw ddesgrifiad bywgraffyddol am ŵr mor glodfawr lai na bod yn wir hyfryd a dyddorol. Yn y tu dalenau canlynol, gydag olrhain hanes ei fywyd, bydd genym hefyd i ddesgrifio teithi ei feddwl, ynghyd a nodi allan ei hynodion a'i ragoriaethau fel dyn, fel bardd, fel llenor, fel darlithydd, ac fel pregethwr a gweinidog i Grist. Er gwneyd ein traethiad yn fwy darllenadwy, bwriadwn ddyfynu yn helaeth o'i ysgrifeniadau ef ei hun, gan ddwyn i mewn ambell grybwylliad a hanesyn am dano a fydd yn newydd, o bosibl, i'r rhan fwyaf o'n darllenwyr. Os ydym wedi tori i ni ein hunain fwy o waith nag a ellir gynnwys o fewn terfynau un ysgrif o faintioli cyffredin, diau yr esgusodir ni am fyned ychydig ymhellach, yn enwedig gan y rhai a arferant restru bywgraffiadau dynion da ymhlith y trysorau llenyddol penaf, am eu bod, yn debyg i esgyrn yr hen brophwyd gynt, yn meddu ar ryw rinwedd hynod i gyfranu bywyd newydd i'r neb a ddelo i gyffyrddiad â hwynt. Heb ychwaneg o ragymadroddiad, awn rhagom i sylwi yn y lle cyntaf ar AMSER A LLE EI ENEDIGAETH. Am y lle y ganwyd Dr. Rees ni raid hysbysu darllenwyr y TRAETHODYDD. Fel Llangeitho a'r Bala a'r Wern, a manau eraill lawer a |