Mae Zech. xi. 13 wedi ei wneyd yn dywyll iawn trwy fod y gair a ddylasai fod yn "drysorfa" wedi myned, trwy gamgymeryd y llafariad derfynol, yn “grochenydd." Cynnygir y cyfieithiad a ganlyn o eiddo Dr. Davidson : A Jehofah a ddywedodd wrthyf, Bwrw of i'r drysorfa, Y pris ysblenydd â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A bwriais hwynt i'r drysorfa yn nhŷ Jehofah. Wrth reswm ni wyddys eto pa gyweiriadau a wnaed gan y Revisers, ond maent yn sier o fod o gyffelyb natur i'r rhai a nodir yn y gwaith hwn. Pris y llyfr yw 3s. 6c. A Popular Commentary on the New Testament. By English and American Scholars of Various Denominations. With Illustrations and Maps. Edited by PHILIP SCHAFF, D.D., LL.D., Baldwin Professor of Sacred Literature in the Union Theological Seminary, New York. In Four Volumes. Vol. IV. Commentary on the Epistle to the Hebrews, the Catholic Epistles, and Revelation. Edinburgh: T. and T. Clark. GALWASOM Sylw o'r blaen at y cyfrolau eraill o'r gwaith ysblenydd hwn. Mae hon yn ei gwblhâu, ac ymhob ystyr yn deilwng o'r cyfrolau eraill, y rhai ydynt ar bob Hlaw wedi derbyn cymeradwyaeth mor fawr. O ran eu "troad allan" y maent yn ardderchog, yn gyfrolau o tua phum' cant o dudalenau imperial octavo, gyda phapyr ac argraffwaith, a chelfyddgarwch yn y darluniau a'r mapiau, a phrydferthwch a chryfder yn eu rhwymiad sydd yn ei wneyd yn wir bleser i ddyn eu meddu a'u mwynhau. Ac o ran eu cynnwys, yr hyn o angenrheidrwydd sydd yn llawer pwysicach, y maent yn addfed ffrwyth dysgeidiaeth a meddylgarwch uchaf ein ham. seroedd mewn astudiaeth o'r Ysgrythyrau Sanctaidd. Mae yr esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid yn y gyfrol hon wedi ei ysgrifenu gan Dr. Angus o Lundain; yr un ar Epistol Iago gan Dr. Gloag o Galashiels; yr un ar Epistolau Pedr gan Dr. Salmond o Aberdeen; yr un ar Epistolau Ioan gan Dr. Pope o Didsbury; yr un ar Judas hefyd gan Dr. Angus; a'r un ar y Dadguddiad gan Dr. Milligan o Aberdeen; gwŷr na raid i'r un o honynt wrth "lythyrau canmoliaeth " i'w cyflwyno i sylw fel thai cymhwys i esbonio y Gair. O ran cynllun ac amcan y maent oll, fel yr ysgrifen. wyr eraill, yn syrthio i fewn â drychfeddwl rhagorol Dr. Schaff; ond y mae pob un wrth reswm yn gwneyd y rhan o'r gwaith a dorwyd iddo yn ei ddull priodol ei hun, Gan ei fod wedi ei fwriadu ar gyfer darllenwyr deallus o'r Bibl nad ydynt wedi cael manteision dysgeidiaeth, ni frithir ei ddalenau â dyfyniadau a chyfeiriadau nad allent hwy wneyd nemawr o honynt; ond fe osodir o'u blaen, a hyny gyda'r farn óreu, y pethau mwyaf gwerthfawr yn holl gylch dysgeidiaeth Fiblaidd er egluro y rhanau o'r Gair a fyddo dan sylw, a hyny yn gryno a chlir, a phob amser gyda'r dwfn barchedigaeth a weddai i rai yn ymwneyd â gorchwyl mor bwysig. Ac fel yr ydym yn meddwl i ni sylwi pan yn son am rai o'r cyfrolau eraill, fe allai ysgolheigion, ie, ac ar ol maith ymddygnu gydag astudio gweithiau fel yr eiddo Meyer, ddychwelyd gyda hyfrydwch a budd i fwynhâu yr hyn a osodir ger eu bron yn y gwaith tra gwerthfawr hwn. Pris y cyfrolau ydyw 18s. yr un. Y maent mor hynod ymron am eu rhadlonrwydd ag ydynt am eu mawr werth. Biblical Theology of the New Testament. By Dr. BERNHARD WEISS, Counsellor of the Consistory, and Professor of Theology at Berlin. Translated from the Third Revised German Edition by Rev. JAMES E. DUGUID, New Machar. Vol. II. The Life of Christ. By Dr. BERNHARD WEISS, Counsellor of the Consistory, and Professor of Theology at Berlin. Translated by JOHN WALTER HOPE, M.A. 2 Vols. The Parables of Jesus: a Methodical Exposition. By SIGFRIED GOEBEL, Court Chaplain at Halberstadt. Translated by PROFESSOR BANKS, Headingley. CYFROLAU y Foreign Theological Library am 1883. Galwasom sylw at y gyfrol gyntaf o'r Biblical Theology gan Weiss o'r blaen. Pwy bynag a ddymunai astudio duwinyddiaeth gwahanol ranau y Testament Newydd, gan geisio cael allan beth ydyw eu dysgeidiaeth ar y gwahanol faterion pwysig y maent yn ymdrin â hwynt, ni allai gael cynnorthwy gwell na'r gwaith llafurfawr hwn. Mae yr awdwr wedi bod yn hynod lwyddiannus yn ei ymgais i'w osod ei hun yn safle neillduol pob un o'r gwahanol ysgrifenwyr, ac ni lysodd unrhyw ymdrech er cael allan yn gyflawn a thrwyadl beth a fynai pob un i'w ddarllenwyr ddeall oddiwrth yr hyn a ysgrifenai. Ni allai dim ddangos i well pwrpas nodweddion gwahaniaethol ysgrifenwyr y Testament Newydd ; ac wrth reswm y mae y gwaith oll yn gynnorthwy o'r fath werthfawrocaf tuag at ffurfio syniad am athrawiaeth y Llyfr i gyd. Y mae Bywyd Crist gan yr un awdwr yn ganlyniad naturiol i'w astudiaeth o dduwinyddiaeth yr Efengylau. Wedi ugain mlynedd o lafur caled er cael allan yn ngoleuni y feirniadaeth addfetaf beth allai fod ystyr y tystiolaethau a ddygid yn yr ysgrifeniadau hyn i'r Person mawr y maent yn ddwyn i sylw, fe deimlai mai ffrwyth naturiol ei lafur fyddai ceisio gosod ger bron y golygiadau a ennillasai yn ei gylch mewn ffordd o adrodd ystori ei fywyd. Ac y mae wedi gwneyd hyny mewn gwaith a erys yn gyfraniad anmhrisiadwy i lenyddiaeth ffrwythlawn y mater tra phwysig hwn. Fe fyddai yn gamgymeriad dyweyd fod y gwaith yma, fel rhai ymgeisiadau o gyffelyb natur a ymddangosodd yn ddiweddar yn y wlad hon, o natur ddeniadol i ddarllenwyr nad oes ganddynt allu i dalu nemawr sylw i lyfr ond i'r graddau y byddo yn eu difyru. Yn hytrach y mae yn fwy o gymeriad gwyddonol, ac i'w astudio yn arbenig gan y rhai a ddymunent ddeall beth sydd i'w ddyweyd mewn perthynas i Grist gan ŵr sydd wedi meistroli yr holl ddamcaniaethu cywrain sydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diweddaf yn ei gylch, ac wedi cysegru ymdrech uchaf ei einioes i geisio cael allan y gwirionedd. I rai felly fe fydd y gwaith yn drysor gwerthfawr. Protestia yn erbyn yr honiad a wneir gan feirniadaeth negyddol o fod yn unig yn gweithio ar linellau hanesyddiaeth, a dengys ei bod yn gadael yn ddisylw ffeithiau sydd o'r arwyddocâd mwyaf. Proffesa o'r ochr arall, ei fod ef yn cymeryd i ystyriaeth yr holl "ffynnonellau" ag sydd o fewn ei gyrhaedd, ac o'r rhai hyny yn ffurfio ei syniad am y Person mawr. Ymogela gyda'r gochelgarwch mwyaf rhag darllen dim i'r adroddiadau a ga yn y " ffynnonellau ; " gedy o'r neilldu holl ddysgeidiaeth yr ysgolion a'r awdurdodau, pa mor barchus bynag, a chyfynga ei sylw yn gwbl i'r hyn a ddywedir wrtho yn yr Efengylau, gan gymharu a phwyso a deongli eu tystiolaethau yn ngoleuni beirniadaeth addfed a chlir. Teimla ei fod felly dan yr anfantais o fod yn ei amddifadu ei hun o nawdd pleidiau yn y naill gyfeiriad a'r llall; ond mae yn amlwg fod ei bryder yn hyn yn ddiangenrhaid, oblegid nid oes yn sicr ddim prinder am bobl sydd yn adsain eu gilydd, ac felly yn anffaeledig yn dyweyd yr un peth. Ond ymgroesa yn fawr ar yr un pryd rhag cael ei dybied, am nad ydyw yn ymrestru dan faner yr un o'r pleidiau, fel yn perthyn i ysgol y "mediation,"-yn sefyll ar ryw dir canol rhyngddynt oll, ac felly yn gondemniedig gan y cwbl. Rhwng y goruwchnaturiol mewn dwyfol ddadguddiad a gwyrth, yn eu hystyr briodol, a'r golygiad sydd yn gwrthod y naill a'r llall, nid oes yn ei fryd ef ddim mwy o dir canol nag sydd rhwng y syniad am Grist fel dyn yn unig, er y goreu o bawb, a'r Crist a addolir gan yr Eglwys Gristionogol fel ei Chyfryngwr dwyfol a'i Gwaredwr. Ac ar hyn y mae efe wedi hen wneyd ei feddwl i fyny, ac nid ydyw ei lafur gwyddonol ond wedi ei gadarnhâu yn fwy yn sicrwydd llawen y ffydd yr ydoedd yn rhwym o gyrhaedd mewn ffordd arall. Yr ydym yn cael fod ei astudiaeth o'r "ffynnonellau," y mae mor hoff o gyfeirio atynt, ac wedi efrydu mor dda, yn ei arwain i rai casgliadau sydd dipyn yn wahanol i'r hyn a dderbynir yn gyffredin ymysg Cristionogion; ond y mae dyfnder ac ysbrydolrwydd ei ddirnadaeth yn ei gadw bob amser yn agos i'r gwirionedd, ac nid yn anfynych y mae ei wrthodiad o olyg iadau a ystyrir gan lawer yn ddiammheuol, yn cael ei ddilyn gan drem ddysgleiriach i ogoniant gwirionedd Duw. Gwaith tra rhagorol hefyd yw yr eiddo Goebel ar Ddammegion yr Iesu. Clod uchel a roddid iddo yn ngwaith gŵr fel Dr. Weiss yn canmol ei "esboniadaeth sylweddol, ei farn gref, a'i ddeongliadaeth sobr a medrus." Fe ymgymerwyd â'i barotoi o herwydd y diffyg a deimlai yr awdwr ei hunan am unrhyw gynnorthwy mewn eglurhadaeth wyddonol o ystyr ac amcan Damegion Crist. Nid ydyw ymysg yr awdurdodau y cyfeiria atynt yn ymddangos fel yn ymwybodol o lafur ysgolheigion Prydeinig yn y cyfeiriad hwn; fe allai fod ei waith o herwydd hyny yn fwy fresh i ni, er y gallasai hefyd mewn rhai manau fod ar ei ennill o ymgynghori âg ysgrifenwyr y wlad hon. Ymdrecha i'w gyfyngu ei hun at egwyddorion sefydlog yn ei astudiaeth o bob un o'r damegion. Wrth wneyd hyny fe fyn, hyd y gall, gael allan yr achlysur o'i llefariad; yna dilyna yr adroddiad ffugyrol, gan ymdrechu cael allan ei lawn ystyr; yna ymdrecha gael allan ergyd arbenig y ddammeg yn ei chymhwysiad at yr amgylchiad ar y pryd, gan gredu gyda Calvin, “Nad oes dim mwy i ymofyn am dano nag oedd yn mwriad Crist ei draddodi;" ac yn hyny y ca fod ei haddysg eithaf i'r oesoedd oll. Mae y dammegion o'u hastudio yn y wedd yma yn dyfod yn llaw yr awdwr hwn yn gyfoethog a gogoneddus.-Mae y pedair cyfrol hyn yn cynnwys cronfa o wybodaeth ysgrythyrol ag y gwnelai unrhyw efrydydd a allo gael gafael ar gini yn dra doeth i fod yn flaenllaw i'w pwrcasu, ac os gall i danysgrifio am y gyfres o flwyddyn i flwyddyn. Tours in Wales, by THOMAS PENNANT, Esq.; with Notes, Prefaces, and copious Index, by the Editor, JOHN RHYS, M. A., Professor of Celtic in the University of Oxford: to which is added an Account of the Five Royal Tribes of Cambria, and of the Fifteen Tribes of North Wales, and their Representatives, with their Arms, as given in Pennant's History of Whiteford and Holywell. Two Vols. Carnarvon: H. Humphreys. Da genym weled anturiaeth Mr. Humphreys gyda chyhoeddi yr argraffiad newydd rhagorol yma o'r gwaith hwn wedi troi allan mor lwyddiannus. Y mae "nobility, gentry, a literati" Cymru, ys dywedai yntau, wedi tanysgrifio am dano mewn nifer mawr, a diammeu y bydd yn dda gan lawer eraill eto ei gael yn y farchnad. Mae yr argraffiad cyntaf a gyhoeddwyd gan yr awdwr ei hun yn 1778 a 1781, erbyn hyn yn dra anhawdd ei gael; ac mae yr ail argraffiad a ddaeth allan yn 1810, dan olygiad ei fab, David Pennant, wedi myned, bellach, yr un modd, yn hynod o brin. Ac wrth weled y cyfeiriadau parchus a wnelid yn fynych at y gwaith, yr oedd yn dda gan y genedlaeth bresennol o ymofynwyr ddeall fod bwriad i ddwyn allan argraffiad newydd o hono, ac felly yr oeddynt yn barod i roddi eu henwau. Am olygiaeth yr argraffiad hwn, y mae enw Professor Rhys yn warant ddigonol. Nid ydyw efe wedi ymyraeth â'r gwaith ei hunan mewn ffordd o wneyd cyfnewidiadau, am yr ystyriai mai yr hyn oedd eisieu oedd gwaith Pennant fel yr ydoedd, ac nid wedi ei drawsffurfio er cyfarfod â golygiadau rhywun arall, neu ei lanw i fyny at safon gwybodaeth y dyddiau hyn am y pethau y traetha yn eu cylch. Ac nid ydyw wedi ei lwytho ychwaith â nodiadau, ond y mae y rhai a geir yn awgrymiadol ac at y pwrpas; a'r un modd nid ydyw y rhagymadrodd ond cryno, er ei fod yn ateb yn gwbl i'r hyn a ddylai rhagym. adrodd fod. Ond mae camp yr olygiaeth yn y cywirdeb ysgolheigaidd â pha un y mae y gwaith wedi ei argraffu. Yn yr ystyr yma fe allai y darllenydd deimlo perffaith foddlonrwydd ei fod yn cael y llyfr yn gwbl fel y daeth o dan law ofalus David Pennant yn 1810. Y mae cyfraniad Mr. Trevor Perkins at yr argraffiad hwn, fel y cydnebydd Mr. Rhys yn ei ragymadrodd, yn werthfawr iawn. Mae amryw nodiadau da yn dwyn ei enw, ac yn neillduol y mae wedi ysgrifenu hanes bywyd Pennant, yr hwn a leinw tua 30 o du dalenau, ac sydd yn ffrwyth llawer o ymchwiliad ac yn dra dyddorol. Fe fydd yn hyfryd gan lawer gael y fantais yma i fyned i mewn i fywyd y dyddiau gynt, ac yn arbenig i weled y fath gymeriad gwych oedd i Pennant,-mor fawrion oedd ei gyrhaeddiadau, y fath efrydydd diwyd a gofalus ydoedd ar hyd ei oes, y fath allu oedd ganddo i sylwi, gymaint ysgrifenodd, a'r fath dderbyniad croesawus a roddid i'w holl ysgrifeniadau. Nid oedd Dr. Johnson yn rhy chwannog i ganmol, ac eto fe ddywedai efe: "Y mae gan Pennant fwy o amrywiaeth ymofyniadau nag ymron unrhyw ddyn, ac y mae wedi dyweyd mwy wrthym nag, fe allai, a allasai un o ddeng mil wneyd yn yr amser a gym. erodd. Ni ddywedodd beth ydoedd i'w ddyweyd, ac felly ni ellwch ei feïo am yr hyn na ddywedodd." A thrachefn: "Pennant ydyw y teithiwr goreu a ddarllenais erioed. Y mae yn sylwi ar fwy o bethau nag a wna neb arall." A dywedai Blackwood's Magazine: "Y mae ein Pennant ni ein hunain bob amser yn fywiog, yn llawn o asbri a bywyd, a desgrifia lindys yn gystal â hen gastell." Ac nid oes dim a ddaeth o dan ei law yn fwy gwerthfawr na'r Teithiau hyn o'i eiddo yn Nghymru. Yr ydoedd yn ysgolaig da, ac yn ddarllenwr mawr; yr ydoedd hefyd yn troi yn nghymdeithas uchaf ei ddyddiau, ac yn tynu o bawb bobpeth a allai gael er ychwanegu ei wybodaeth; ac yr ydoedd yn hoff o deithio, ac yn teithio llawer ar geffyl, yn nghwmni ei was ffyddlawn Moses Griffith, yr hwn oedd wedi cyrhaedd medr neillduol mewn arlunio, ac a fyddai yn cymeryd lluniau o bobpeth dyddorol, y rhai a gerfid i'w cyhoeddi yn y llyfr. Gan gymeryd y pethau a dynent ei sylw ar ei deithiau, y mae yn y cyfrolau dyddorol sydd o'n blaen yn ymollwng i ysgrifenu yn eu cylch yr hyn a ymgynnygiai i'w feddwl, gan roddi desgrifiadau bywiog, hen hanesion, cofion llafar gwlad, chwedlau, sylwadau gwerthfawr mewn llysieuaeth a hanesiaeth naturiol, y cwbl blith draphlith fel y deuent, ond bob amser yn ddifyr a da. Odid fawr na theimlai ein darllenwyr o ym. gydnabyddu â'i waith fod Cymru yn wlad llawer mwy dyddorol nag a meddyliasent, ac fod y pethau sydd o'u hamgylch bob dydd yn llawn mor deilwng o'u hystyriaeth â'r pethau hyny yn eithaf y ddaear ag y mae yn ffasiwn gan bawb siarad am danynt a'u mawrhâu. Pa fodd, tybed, yr oedd gŵr ag oedd yn naturiol mor garedig a rhadlon, ac yn sylwi ar bobpeth, heb wneyd unrhyw gyfeiriad at gyfodiad Ymneilldu. aeth yn Nghymru y blynyddoedd hyny ?-Mae y cyhoeddwr wedi gwneyd ei waith yn rhagorol. Mae yr holl ddarluniau, &c., wedi eu codi o'r hen argraffiad trwy yr oruchwyliaeth newydd o photo-zincography, a'u hargraffu yma yn union yr un fath oddieithr fe allai ar bapyr gweli. Pris y gwaith yn yr argraffiad hwn yw-30s.; ond mewn rhwymiadau gwell 42s. a 44s. Echoes from the Welsh Hills; or Reminiscences of the Preachers and People of Wales. By the Rev. DAVID DAVIES, Weston-super-Mare, Author of "The New Name and Other Sermons." Illustrated by T. H. THOMAS, A.C.A. London: Alexander and Shepheard. LLYFR a ddarllenasom gyda hyfrydwch neillduol. Y mae meddwl yr awdwr yn dra llawn o draddodiadau goreu ei genedl, ac fe ellid tybied fod ei symudiad i lafurio ymhlith y Saeson wedi bod yn foddion i'w ddeffro i ymdeimlad mwy byw o werth a phrydferthwch y pethau da sydd wedi bod yn gymaint o fendith i wlad ei enedig. aeth. Pa fodd bynag y mae y llyfr hwn o'i eiddo yn dra chyfoethog o'r Adseiniau goreu am Gymru, ac y mae wedi ei ddodi ynghyd mewn ffordd sydd yn ei wneyd yn hynod o ddifyr i'w ddarllen, fel y mae hefyd yn meddu cymhwysder neillduol i wneyd y neb a'i darlleno yn fwy pur. Yr oedd Mr. Gladstone yn ffyddlawn i'w garedigrwydd arferol at Gymru, pan yn cydnabod derbyniad copi o'r llyfr, y dywedai "mai diffyg gwybodaeth, yn ei farn ef, a barai y mesur prin o gyfiawnder i Gymru, a'i fod yn llawenhâu yn galonog yn ymddangosiad gwaith fel hwn a amcanai roddi y wybodaeth angenrheidiol." Desgrifia yn dra naturiol a phrydferth bentref gwledig yn Neheudir Cymru. O garedigrwydd at lafar-beiriannau anmherffaith ei ddarllenwyr Seisonig, nid ydyw yn rhoddi ei enw, ond-ac yn enwedig gyda darlun rhagorol Mr. Thomas, yr hwn trwy yr oll o'i illustrations rhagorol sydd wedi ychwanegu llawer at werth y llyfr-y mae yn cael ei osod o'n blaen mewn ffordd a bâṛ i ni deimlo yn bur gydnabyddus âg ef. Rhoddir desgrifiad byw o hen Lan y plwyf, yr hon sydd wedi ei gadael mewn ystâd hynod o isel, ac wrth edrych ar y beddau sydd yn ei hamgylchu fe ellid, medd yr awdwr, meddwl fod angeu ei hunan mor farw ag ydyw pobpeth arall sydd yn perthyn i'r lle. Yr esboniad ar hyny ydyw fod holl ddyddordeb y bobl yn ymgrynhoi o amgylch yr addoldai diaddurn a godasant iddynt en hunain, lle yr addolant mewn einioes a cherllaw pa rai y gorphwysant yn angeu. Sefydliad pwysig yn y pentref ydyw yr Efail. Ond yn ffodus y mae y gôf a'i gyfeillion yn ofni Duw, a pethau ei deyrnas Ef ydyw y pethau y teimlant y dydd. ordeb dyfnaf ynddynt. Nid ydynt oll yn perthyn i'r un cyfundeb crefyddol; y mae yn y pentref hwn, fel yn holl bentrefi Cymru, addoldai yn perthyn i'r gwahanol enwadau; ond y mae adeg dadleu mawr wedi myned heibio, ac y mae pob un o'r cymdeithion dyddan sydd mor hoff o gyfarfod eu gilydd i ymgomio yn yr Efail, mor rydd oddiwrth ragfarnau sectol fel y mae pethau da pob enwad yn eiddo cyffredin i'r oll. Y mae y gwahanol gymeriadau yn cael eu dwyn i'n sylw yn y fath fodd fel y teimlwn ein bod yn eu hadnabod, a phe dygwyddai i ni ein cael ein hunain yn y pentref hwnw, ni fyddai ond peth naturiol genym ddysgwyl eu cyfarfod. Mae cylch eu hymddyddanion yn eang, ond yn arbenig yn cymeryd i fewn y pregethau, y cyfarfodydd crefyddol, y diwygiadau, yr Ysgol Sabbothol, a'r dylanwadau nerthol sydd wedi bod, bellach, gyhyd o amser ar waith, ac wedi gadael y fath argraff fendithiol ar ein gwlad. Mae meddyliau rhai o'r cyfeillion mor lawn o hanesynau da a dyfyniadau gwerthfawr o'r pregethau, &c., fel y mae llinyn yr ystori weithiau dan gryn bwysau; ond gan mwyaf mae y siarad yn cael ei gario ymlaen yn dra naturiol, ac y mae bob amser yn ddifyr ac addysgiadol. Am y pethau y mae y naill a'r llall wedi "glywed," gan hwn a hwn, yn y fan a'r fan, wrth bregethu, y maent yn aneirif, ac yn dyfod i mewn yn yr ymddyddan yn fynych i bwrpas hynod o dda. Y mae rhai amryfuseddau wedi dianc. Ymysg pethau eraill a ddylid gywiro mewn argraffiadau dilynol o'r gwaith, gwneir Catrin Rondol, wrth son am ei hymweliad bythgofiadwy â Llangan i ymofyn am gyhoeddiad Mr. Jones i ddyfod i'r Gogledd, yn Anna; cyfeirir at Hobbes yr athron. ydd, os ydym yn deall yn briodol, ond gwneir ef yn John Hobbes; ac mae yn lled sicr na wyddai yntau ychwaith, mwy na'r "Cristion oedranus," David Edwards o |